Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog, i'w gynnwys ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes, i symud y Ddadl Fer o ddydd Mercher i'r eitem olaf o fusnes ddydd Mawrth.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y câi’r Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

Dydd Mercher

 

·         Trafododd y Rheolwyr Busnes sut i osgoi cael cyfarfodydd sy'n rhy hir ar ddydd Mercher yn y dyfodol drwy drefnu un awr yn llai o amser i'r gwrthbleidiau pan fo eitemau fel Datganiadau Pwyllgor neu gynigion deddfwriaethol gan Aelodau wedi’u trefnu, er mwyn ystyried Cwestiynau Amserol a fydd bellach yn eitem reolaidd bob dydd Mercher.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y câi’r Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan Vikki Howells i gyfnewid ei slot ar gyfer dadl fer ar 7 Mehefin â slot Mike Hedges ar 21 Mehefin; diwygiwyd y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes yn unol â hynny.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:


Dydd Mercher 14 Mehefin 2017 -

·         Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod – y Bil Awtistiaeth (Cymru) (Paul Davies) (60 munud)

·         Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr: Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru (60 munud)

 

3.4

Dadl Aelod Unigol: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor Busnes ddau gynnig i'w trafod – un ar 24 Mai, a'r llall ar 14 Mehefin.

 

Dydd Mercher 24 Mai:

 

NNDM6311

Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)

Hefin David (Caerffili)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru.

 

Dydd Mercher 14 Mehefin:

 

NNDM6283

Huw Irranca–Davies (Ogwr)

Jeremy Miles (Castell-nedd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r £217 miliwn o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd diwethaf ac ymrwymiad pellach o £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i wella effeithlonrwydd ynni yn y cartref a mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

2. Yn nodi ymhellach bod angen i effeithlonrwydd ynni yn y cartref gael ei wella'n sylweddol os yw Cymru am gyrraedd ei nod o ran datgarboneiddio a lleihau tlodi tanwydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried amrywiaeth ehangach o ddulliau buddsoddi ar gyfer effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys cyllid arloesol, gwneud defnydd da o bensiynau'r sector cyhoeddus, a defnyddio cyllid y sector preifat.

4. Yn nodi'r cynnig i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod anghenion seilwaith ynni hirdymor Cymru a chyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn cael eu cynnwys o fewn ei gylch gwaith.

5. Yn credu y byddai buddsoddiad o'r fath yn rhoi hwb enfawr i ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi tanwydd mewn rhai o'n cartrefi hynaf, gan ddarparu cartrefi cynnes a chlyd, gwella iechyd a llesiant pawb ac yn arbennig y mwyaf agored i niwed.

6. Yn credu ymhellach y byddai hyn yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd, lleihau'r allyriadau carbon drwy effeithlonrwydd ynni, lleihau'r defnydd o ynni a lleihau nifer y gorsafoedd pŵer newydd sydd angen inni eu hadeiladu.

7. Yn cydnabod y potensial ar gyfer twf economaidd, gan greu miloedd o swyddi ym mhob cymuned ym mhob rhan o Gymru.