Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

·         Byddai pob pleidlais mewn perthynas â Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.

 

·         Cwtogodd y Llywodraeth yr amser a neilltuwyd ar gyfer trafodion Cyfnod 3 o dair awr i ddwy awr.

 

·         Byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd y bydd y pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:


Dydd Mercher 7 Mehefin 2017 -

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

3.4

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod - Dewis Cynnig ar gyfer y Ddadl

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer y ddadl ar 17 Mai.

 

NDM6301 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

2. Yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy'n disgwyl cydnabyddiaeth am hyn ar ffurf manteision rhywiol.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu'r ddadl nesaf ar gynnig deddfwriaethol Aelod ar gyfer 12 Gorffennaf 2017 ac adolygu'r weithdrefn yn nhymor yr hydref.

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU 2016-2017 - Tabl Diweddaraf y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Rhaglen Ddeddfwriaethol y DU 2016-2017 - Tabl Diweddaraf y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol

 

·         Nododd y Pwyllgor Busnes bapur gan Arweinydd y Tŷ yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt Biliau'r DU a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines y mae'n debyg y bydd angen Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar eu cyfer. 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Effaith ymadawiad Aelod â grŵp gwleidyddol

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes bapur ynghylch y goblygiadau i'r Pwyllgorau yn sgil ymadawiad Mark Reckless â grŵp UKIP.  Cytunodd y Pwyllgor y dylid gwneud pob penderfyniad ynghylch y newid ar yr un pryd, a hynny maes o law.

 

Bydd y Rheolwyr Busnes yn hysbysu'r Llywydd pan fyddant mewn sefyllfa i drafod y mater eto yn y Pwyllgor.       

 

Unrhyw fater arall

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais gan Jane Hutt i amserlennu'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar 21 Mehefin fel yr eitem olaf cyn y Ddadl Fer ar y diwrnod hwnnw gan ei fod allan o'r wlad ar fusnes y Llywodraeth, gan ddychwelyd i Gaerdydd yn gynnar yn y prynhawn.