Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr Wythnos Hon

Cofnodion:

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 15 Mawrth 2017 –

  • Dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod ynghylch Diogelu Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru (Dai Lloyd) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)symudwyd i 22 Mawrth

 

Dydd Mercher 22 Mawrth 2017 –

  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)symudwyd i 29 Mawrth
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

Dydd Mercher 29 Mawrth 2017 –

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol (60 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb ar Ganser yr Ofari (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)  

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Ymateb gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad, mewn egwyddor, ar 14 Chwefror i gyfeirio Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer ei ystyried yng Nghyfnod 1, a chytunwyd mai'r dyddiad terfyn i'r Pwyllgor adrodd ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 7 Gorffennaf 2017, a'r dyddiad terfyn ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 13 Hydref 2017.

 

4.2

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer Bil yr Economi Ddigidol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â Bil yr Economi Ddigidol.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau er mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol erbyn dydd Llun 13 Mawrth er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Mawrth 2017.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Papur gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cais am gyfarfod ychwanegol

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gofyn am gyfarfod ychwanegol fore Mawrth 28 Mawrth 2017 er mwyn i'r Pwyllgor allu craffu ar gyfrifon blynyddol 2015-16 Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Unrhyw fater arall

Gwnaeth y Llywydd atgoffa'r Rheolwyr Busnes fod disgwyl i Aelodau sydd wedi gwneud cais i siarad ar eitemau busnes gyrraedd cyn dechrau'r eitem honno os ydynt yn dymuno cael eu galw. Cyfrifoldeb yr Aelodau yw sicrhau eu bod yn ymwybodol os yw busnes yn rhedeg o flaen amser.