Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion o'r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.

 

3.2

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

Dydd Mercher 15 Chwefror 2017 –

  • Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Y Darlun Mawr, Safbwyntiau cychwynnol ar ddarlledu yng Nghymru (30 munud)

 

Dydd Mercher 1 Mawrth 2017 -

  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)

 

3.4

Dadl ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - Dewis Cynnig

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer y ddadl:

 

Dydd Mercher 8 Chwefror

 

  • NNDM6222 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil yn ymwneud â sgiliau achub bywyd.

 

2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:

 

a) creu hawl statudol i bobl gael addysg a hyfforddiant sgiliau achub bywyd sy'n briodol i'w hoedran ar amrywiol adegau yn eu bywydau

 

b) llunio cyfrifoldebau statudol i sicrhau:

 

i) bod hyfforddiant sgiliau achub bywyd yn cael ei ddarparu;

 

ii) bod diffibrilwyr yn cael eu darparu mewn lleoliadau priodol;

 

iii) bod unigolion sydd wedi cael hyfforddiant achub bywyd ar gael mewn swyddi allweddol mewn gwasanaethau cyhoeddus (yn hytrach na pherson cymorth cyntaf penodedig); a

 

iv) bod deunyddiau cymorth cyntaf sylfaenol ar gael i'r cyhoedd mewn adeiladau cyhoeddus, ac nid ar gyfer y staff yn unig.

 

c) creu ffyrdd o wella a gorfodi o ran yr uchod.

 

4.

Y Pwyllgor Busnes

4.1

Grwpiau a Chynrychiolaeth ar Y Pwyllgor Busnes

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor bapur ar grwpiau a chynrychiolaeth ar Y Pwyllgor Busnes. Roedd y papur yn nodi opsiynau posibl ar gyfer diwygio'r Rheolau Sefydlog er mwyn i Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp beidio â bod o dan anfantais am nad oes ganddynt gynrychiolaeth ar Y Pwyllgor Busnes.

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes hefyd ymatebion gan Kirsty Williams, Nathan Gill a Dafydd Elis-Thomas i lythyr y Llywydd yn gofyn am eu barn ar y mater. Roedd y tri Aelod wedi nodi y byddent yn ffafrio cael eu cynrychioli drwy ddirprwy. 

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i beidio â gwneud unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar hyn o bryd.

 

5.

Defnyddio amser yn y Cyfarfod Llawn

5.1

Adolygiad o Gwestiynau Llafar y Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Rheolwyr Busnes opsiynau i gyflwyno gweithdrefn newydd ar gyfer Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r Ysgrifenyddiaeth ddrafftio meini prawf posibl ar gyfer y weithdrefn newydd, ynghyd â gweithdrefn ddiwygiedig ar gyfer y Cwestiynau Brys. Nododd Arweinydd y Tŷ ei bod yn bwriadu dosbarthu nodyn a oedd yn amlinellu ei meini prawf arfaethedig ar gyfer pob gweithdrefn. Cytunwyd i ailystyried y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Unrhyw fater arall

Datganiadau 90 Eiliad

  • Cytunodd y Rheolwyr Busnes i annog Aelodau i gyflwyno mwy o amrywiaeth yng nghynnwys y Datganiadau 90 Eiliad. Nid oes unrhyw geisiadau wedi dod i law hyd yn hyn ar gyfer yr wythnos hon.

 

Cwestiynau'r Llefarwyr

  • Bu i'r Llywydd atgoffa'r Rheolwyr Busnes y dylai'r llefarwyr nodi ar y ffurflenni siaradwyr a anfonnir i'r grwpiau os ydynt am holi Gweinidog yn hytrach nag Ysgrifennydd y Cabinet yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Llefarwyr, neu dylent hysbysu Ysgrifenyddiaeth y Siambr o'u bwriad cyn gynted â phosibl.

 

Ysgrifenyddion y Cabinet yn cyrraedd yn hwyr ar gyfer dadleuon

  • Bu i'r Llywydd atgoffa'r Llywodraeth mai mater o gwrteisi yw i Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion sy'n ymateb mewn dadleuon fod yn bresennol drwy gydol y ddadl.