Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Trefnwyd bod 45 munud yn cael ei neilltuo ar gyfer
datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar yr ymgynghoriad
ynghylch Cynllun Gweithredu Strategol Drafft ar gyfer Dementia yng Nghymru, yn
hytrach na 30 munud. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion
Gwledig yn gwneud datganiad ar Ffliw Adar (30 munud). Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon yn gwneud datganiad ar y Gronfa Triniaethau newydd (45 munud). Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher. |
|
Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y
Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 25 Ionawr 2017 –
Dydd
Mercher 1 Chwefror 2017 –
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth
ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â'r Bil
Addysg Uwch ac Ymchwil. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg er
mwyn iddo graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai’r Pwyllgor
gyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol erbyn dydd
Iau 9 Chwefror 2017 er mwyn i’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol gael ei drafod
yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Chwefror 2017. |
|
Llythyr oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd ynghylch Biliau Cydgrynhoi Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr gan y Cwnsler Cyffredinol
am ei ymateb i Gomisiwn y Gyfraith ynghylch ei adroddiad ar 'Ffurf a Hygyrchedd
y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru'. Yn sgil canfyddiadau Comisiwn y Gyfraith, awgrymodd y
Cwnsler Cyffredinol yn ei lythyr ei fod yn fodlon ailddechrau'r broses o
gyflwyno gweithdrefn ar gyfer Biliau Cydgrynhoi, a ddechreuwyd gan Lywodraeth
Cymru a swyddogion Comisiwn y Cynulliad ym mis Mai 2014. Nododd y Rheolwyr Busnes eu bod yn fodlon ailddechrau cydweithio ar gynigion ar gyfer diwygio Rheolau Sefydlog i gynnwys gweithdrefn ar gyfer ystyried Biliau Cydgrynhoi ac i ysgrifennu at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i roi gwybod iddo am eu penderfyniad. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Adolygiad o Drefniadau Deisebau Cyhoeddus Cofnodion: Bu'r Rheolwyr Busnes yn trafod papur yn nodi cynigion ar
gyfer diwygio Rheolau Sefydlog ar sail argymhellion yr 'Adolygiad o Drefniadau
Deisebau Cyhoeddus' yr oedd y Pwyllgor Deisebau am fwrw ymlaen â hwy. Roedd y
Pwyllgor Busnes yn cytuno o ran egwyddor â'r cynigion i ddiwygio Rheolau
Sefydlog er mwyn rhoi argymhellion 3 a 4 yn yr adroddiad ar waith, a'r cynigion
ar gyfer gweithdrefnau y tu allan i'r Rheolau Sefydlog sy'n ymdrin â deisebau
sy'n cyrraedd trothwy penodol o lofnodion. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Deisebau er mwyn cael ei farn ar y cynigion. |
|
Unrhyw fater arall Gadael y Siambr Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes fod disgwyl i
Aelodau sydd wedi cyfrannu at eitem aros yn y Siambr drwy gydol yr eitem ac y
bydd unrhyw Aelodau nad ydynt yn gwneud hynny yn cael eu cosbi yn y dyfodol. Datganiadau Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes annog Aelodau i fod yn gryno wrth ofyn cwestiynau ynglŷn â datganiadau. Caiff llefarwyr siarad am ddwy funud cyn gofyn eu cwestiynau, ond disgwylir i Aelodau ofyn eu cwestiynau yn syth. |