Cofnodion

Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

Dydd Mawrth

Byddai'r Prif Weinidog yn gwneud datganiad ar flaenoriaethau'r Llywodraeth.

 

Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn gwneud datganiad ar yr Adolygiad Ymarfer Plant i Farwolaeth Dylan Seabridge. 

 

Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yn gwneud datganiad ar y Gronfa Triniaethau newydd.

 

Cafodd y Datganiad gan y Gweinidog dros Sgiliau a Gwyddoniaeth ar  Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Cymru ei dynnu'n ôl a byddai'n cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.

 

Dydd Mercher

Byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn gwneud datganiad ar Gylchdaith Cymru.

 

Byddai cynigion yn cael eu cymryd i newid aelodaeth UKIP ar bwyllgorau.

 

Byddai Dadl Fer Bethan Jenkins, a ohiriwyd yr wythnos flaenorol, yn digwydd ar ôl y Ddadl Fer gan Mike Hedges.

 

Pleidleisio

Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Dadleuon Byrion ddydd Mercher.

 

Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

Gofynnodd y Llywydd pryd roedd y Llywodraeth yn bwriadu dwyn dadl gerbron ar ei blaenoriaethau a'i rhaglen ddeddfwriaethol, sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 11.21(ii). Cadarnhaodd Arweinydd y Tŷ y byddai'r ddadl yn digwydd yn y dyfodol agos.

 

Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai Busnes y Cynulliad yn cael ei drefnu yn ôl y trefniadau presennol ar gyfer dadleuon gan Aelodau Unigol a dadleuon y gwrthbleidiau, hyd nes y gwneir penderfyniad ar ddiwygio'r defnydd a wneir o amser y Cynulliad. 

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 14 Medi 2016 –

  • Cynnig i newid cylch gorchwyl y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

 

Dydd Mercher 28 Medi 2016 –

  • Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer - Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

Cofnodion:

Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Yng nghyfarfod yr wythnos ddiwethaf, cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Cyllid ar gyfer craffu arno. Cyflwynodd y Gweinidog bapur i'r Pwyllgor Busnes, yn nodi'r dyddiadau arfaethedig ar gyfer ystyried y Bil, ond nid oedd yn cynnwys dyddiadau ar gyfer ystyried gwelliannau Cyfnod 2.

 

Bu'r Rheolwyr Busnes yn trafod y dyddiadau arfaethedig a chytunwyd y dylai'r amserlen gynnwys terfyn amser dangosol ar gyfer ystyried gwelliannau Cyfnod 2 a gallai hyn newid.

 

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i swyddogion y Llywodraeth a'r Comisiwn gysylltu â'i gilydd er mwyn cytuno ar ddyddiad arfaethedig ar gyfer Cyfnod 2 i'w gynnwys yn yr ymgynghoriad gyda'r Pwyllgor Cyllid, a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod cyntaf ar ôl toriad yr haf. 

 

5.

Amserlen y Gyllideb

Cofnodion:

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Amserlen y Gyllideb Ddrafft

Bu'r Pwyllgor yn trafod llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am wythnos o estyniad i'r amserlen arfaethedig, o bedair i bum wythnos pan fydd y Cynulliad yn cyfarfod, er mwyn cael craffu ar y Gyllideb Ddrafft yn llawn a phriodol. 

 

Cytunodd Simon Thomas, Paul Davies a Mark Reckless y dylid rhoi estyniad o wythnos i'r Pwyllgor Cyllid, ond esboniodd Arweinydd y Tŷ y byddai hyn yn achosi anawsterau i'r Llywodraeth.

Gofynnodd y Rheolwyr Busnes i swyddogion y Llywodraeth a'r Comisiwn ystyried opsiynau posibl ac i'r Pwyllgor ddychwelyd at y mater yn ystod yr wythnos gyntaf yn ôl ar ôl toriad yr haf.

 

6.

Pwyllgorau

Cofnodion:

Cylch gwaith y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn

Bu'r Rheolwyr Busnes yn trafod papur ar newidiadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn a chytunwyd i gyflwyno cynnig ddydd Mercher 14 Medi i'r perwyl hwnnw, yn amodol ar fân ddiwygiadau. Nododd y Llywydd y byddai'n ysgrifennu at gadeiryddion y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol yn nodi eu cylchoedd gwaith newydd.

 

7.

Y defnydd o amser y Cynulliad

Cofnodion:

Y defnydd o amser y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn

Trafododd y Pwyllgor bapur ac ynddo opsiynau ar gyfer amrywio'r ffordd y defnyddir amser y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymchwilio i ragor o opsiynau ynghylch datganiadau Aelodau; dadleuon ar ddeisebau; dadleuon cyhoeddus a chwestiynau'r llefarwyr. 

 

Gan fod cefnogaeth gyffredinol i'r syniad o ddatganiadau pwyllgor, bydd y Llywydd yn ysgrifennu at gadeiryddion y pwyllgorau yn eu hannog i gyflwyno datganiadau ar waith y pwyllgorau o fis Medi ymlaen.

 

8.

Amser cyfarfod y Comisiwn ac amserlen y pwyllgorau

Cofnodion:

Amser cyfarfod Comisiwn y Cynulliad ac amserlen y pwyllgorau

Trafododd y Pwyllgor bapur amserau posibl ar gyfer cyfarfodydd y Comisiynwyr yn y tymor newydd. 

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid cynnwys amserau cyfarfodydd y Comisiwn yn amserlen y Cynulliad ar brynhawniau Llun ac y dylid trefnu cynnal cyfarfodydd y Pwyllgorau sy'n cwrdd ar yr un diwrnod ar ôl 15.00.  Dylid cytuno ar ddyddiadau cyfarfodydd y Comisiwn erbyn wythnos olaf y tymor blaenorol fan bellaf.

 

Unrhyw Fater Arall

Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid trefnu cyfarfod nesaf y Pwyllgor Busnes ar gyfer 8.30 ddydd Mawrth 13 Medi ac yn y cyfarfod hwnnw, byddai'r Rheolwyr Busnes yn cadarnhau a ddylid parhau i gwrdd am 08.30 neu beidio.