Cofnodion
Lleoliad arfaethedig: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
Pwyllgorau Cofnodion: Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, trafododd y Rheolwyr Busnes bapur
yn esbonio rôl y Pwyllgor Busnes yn y gwaith o sefydlu system bwyllgorau. Yn y
cyfarfod hwnnw, gofynnodd y Pwyllgor i'r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno cynigion posibl
ynghylch maint a chylch gwaith y pwyllgorau, a hynny ar sail awgrymiadau’r
Rheolwyr Busnes. Hefyd, gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno papur yn
amlinellu trefn bosibl ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau, a chyflwyno
cynigion posibl o fewn drefn honno iddynt eu hystyried. Nifer y pwyllgorau Y farn gyffredinol oedd y dylid sefydlu chwe phwyllgor arbenigol a chwe
phwyllgor polisi a deddfwriaeth yn ogystal ag un pwyllgor wrth gefn i ysgwyddo
unrhyw bwysau ychwanegol a roddwyd ar y pwyllgorau eraill. Cynigiodd Jane Hutt
y dylai'r pwyllgor wrth gefn fedru ymgymryd â’r gwaith o graffu ar bolisïau a
deddfwriaeth ac awgrymodd Simon Thomas y
gallai'r pwyllgor hefyd graffu ar faterion o bwys cyhoeddus nad ydynt, o
reidrwydd, wedi'u datganoli. Dywedodd y Rheolwyr Busnes hefyd y gallai’r
pwyllgor wrth gefn benderfynu ymgymryd â gwaith cychwynnol yn ymwneud â
chanlyniad y refferendwm ar yr UE. Awgrymodd Mark Reckless y gallai’r pwyllgor ailystyried nifer y pwyllgorau
pa bai unrhyw anghytuno ynghylch dyrannu’r cadeiryddion i’r grwpiau
gwleidyddol. Awgrymodd y Llywydd y dylai’r
Pwyllgor ystyried pa mor ymarferol fydd amserlennu cyfarfodydd y pwyllgor wrth
gefn. Cytunodd y Pwyllgor y dylid sicrhau bod yr amserlen yn ddigon hyblyg i
ganiatáu i’r pwyllgor wrth gefn gyfarfod, gan ddibynnu ar ei lwyth gwaith, ac y
dylid ystyried ei aelodaeth wrth gytuno ar yr amserlen. Cylch gwaith Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar gylchoedd gwaith y pwyllgorau polisi a
deddfwriaeth, fel y nodir yn y papur. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai aelodau’r Pwyllgor Craffu ar Waith y
Prif Weinidog gynnwys cadeiryddion y chwe Phwyllgor Polisi a Deddfwriaeth, y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac y byddai’n ystyried yn ddiweddarach sut y
byddai’n gweithredu ar ôl penderfynu a ddylid cyflwyno trefn benodol o ethol
cadeiryddion. Dywedodd y Rheolwyr Busnes fod rôl Pwyllgor Busnes y pedwerydd Cynulliad o adolygu gweithdrefnau’r Cynulliad
wedi gweithio'n dda ac y dylai, felly, barhau yn y pumed Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad a'i gylch
gwaith presennol. Cytunwyd hefyd i adolygu’r broses o graffu ar benodiadau
cyhoeddus maes o law. Maint y pwyllgorau Dywedodd Jane Hutt fod y grŵp
Llafur o’r farn y dylai’r pwyllgorau polisi a deddfwriaeth gynnwys wyth aelod,
ac eithrio’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a ddylai gynnwys
saith aelod ac a ddylai gael eu cadeirio gan aelod o’r wrthblaid. Roedd Paul Davies a Simon Thomas yn cydnabod nad oedd modd sicrhau
cydbwysedd gwleidyddol heb sefydlu pwyllgorau afresymol o fawr, ond byddent yn
fodlon sefydlu pwyllgorau o 8 aelod pe bai’r grŵp Llafur yn barod i
gyfaddawdu ar eu haelodaeth a’r modd y dyrannwyd cadeiryddion, er mwyn
adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol y Cynulliad yn well. Roedd Mark Reckless yn poeni bod
y cynnig i gynnwys dim ond wyth aelod ar bwyllgor yn groes i drafodaethau
blaenorol y Pwyllgor ynghylch ceisio sicrhau cydbwysedd gwleidyddol. Dywedodd
hefyd y dylai'r ddwy wrthblaid fwyaf gadeirio'r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus, ac os bydd rhai pwyllgorau’n cynnwys wyth aelod a’r
gwrthbleidiau wedi’u rhannu’n 3: 2: 1,
byddai grŵp UKIP o dan anfantais ac ni fyddai'r trefniadau’n
adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol. Cytunodd yr holl Reolwyr Busnes y byddai cyfaddawdu ynghylch aelodaeth y
pwyllgorau yn well na defnyddio system D'hondt. Anogodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes
i gyfarfod y tu allan i'r pwyllgor i gytuno ynghylch maint y pwyllgorau a
thrafod y mater eto yn y cyfarfod nesaf pan fyddai disgwyl iddynt wneud
penderfyniad. O ystyried y llythyr a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a
Llywodraeth Leol yn nodi ei fwriad i osod y Gyllideb Atodol ar 21 Mehefin,
cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno cynnig i sefydlu Pwyllgor Cyllid a
Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus parhaol a chytunodd i gadarnhau aelodaeth y
pwyllgor Cyllid erbyn y cyfarfod dilynol. Y drefn ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau Trafododd y Rheolwyr Busnes y syniad o gyflwyno gweithdrefn ar gyfer ethol
cadeiryddion pwyllgorau, a chytunwyd ar hyn o ran egwyddor. Ysgogodd Jane Hutt drafodaeth ynghylch pennu isafswm gofynnol ar gyfer
enwebu cadeiryddion. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai enwebiad gan un Aelod
yn isafswm rhesymol mewn sefydliad o faint y Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor o
ran egwyddor y dylai ymgeiswyr gael eu henwebu gan aelod o'u grŵp eu
hunain, ac nad oedd angen unrhyw eilydd. Os enwebir dim ond un Aelod, cytunodd yr holl Reolwyr Busnes y bydd yr
Aelod hwnnw’n cael ei ethol, yn unol â’r
drefn ar gyfer ethol y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd. Os oes mwy nag un enwebiad,
cytunodd y Pwyllgor y dylid cynnal pleidlais gudd ac y bydd yr Aelodau'n
pleidleisio dros eu hoff ymgeisydd yn nhrefn blaenoriaeth, gan osgoi cynnal
nifer o bleidleisiau cyfrinachol. Yr ymgeisydd llwyddiannus fydd y cyntaf i
ennill dros hanner y pleidleisiau. Penderfynodd y Rheolwyr Busnes na fydd unrhyw un Aelod yn gallu ymgeisio i
gadeirio mwy nag un pwyllgor os bydd mwy nag un cadeirydd yn cael ei ethol yr
un pryd. Cytunodd y Pwyllgor y bydd angen
i fwyafrif unrhyw bwyllgor gytuno ar gynnig i ddisodli’r cadeirydd, bydd yn
rhaid cael cefnogaeth drawsbleidiol ac ni ddylai'r cadeirydd fedru cymryd rhan
mewn unrhyw bleidlais i’w ddisodli. Papur i'w nodi - Llythyr gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr. |