Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: 307(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-9. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(15 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.29

 

(0 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ailadeiladu Economaidd - Tynnwyd yn ôl

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem yn ôl

 

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.53

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.26 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

 

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol – Ymateb i Adolygiad Brown

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.34

 

(0 munud)

6.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig - Gohiriwyd tan 8 Rhagfyr 2020

Ni chyflwynwyd cynnig.

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan 8 Rhagfyr 2020

 

(30 munud)

7.

Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

NDM7490 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi ail adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cymru yn gweithredu.

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Ail Adroddiad Blynyddol 2019-2020

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.17

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7490 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi ail adroddiad blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ar y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cymru yn gweithredu.

Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru Ail Adroddiad Blynyddol 2019-2020

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

2

1

51

Derbyniwyd y cynnig.

 

(45 munud)

8.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws - Cyfyngiadau Mis Rhagfyr

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.51

 

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.19 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro i ganiatáu egwyl dechnegol cyn y cyfnod pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 18.24

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: