Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Nodyn: 306(v5) 

Media

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Transcript for 25/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Nodyn Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd cwestiwn 1 a chwestiynau 3-9. Ni ofynnwyd cwestiwn 2. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.17

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

3.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.04

Gofynnwyd y 6 chwestiwn.

(0 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.25

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am: Cyflawniadau arloesol Elaine Morgan, awdur enwog, newyddiadurwr ac anthropolegydd chwyldroadol.

Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad am: Oriel arwyr COVID lleol y Senedd.

Gwnaeth Huw Irranca-Davies ddatganiad am: Ymgyrch diogelwch tân ESF.

Gwnaeth Delyth Jewell ddatganiad am: Jan Morris – Bywyd celfydd llawn cyfoeth.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.33 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

(30 munud)

6.

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Cynllun Dychwelyd Ernes a Lleihau Gwastraff

NDM7481 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sefydlu cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, a fyddai'n golygu bod defnyddwyr yn talu ernes, yn ad-daladwy ar ôl dychwelyd y cynhwysydd;

b) lleihau nifer y poteli plastig a gwydr untro, yn ogystal â caniau dur ac alwminiwm;

c) ymateb i wastraff ailgylchadwy cynyddol, fel cyfarpar diogelu personol sy'n cael ei ddefnyddio yn y frwydr yn erbyn COVID-19, lle mae nifer cynyddol o eitemau'n cael eu taflu ac yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a morol; a

d) cynyddu atebolrwydd drwy sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru yn manylu ar bolisïau penodol yr ymgymerwyd â hwy i leihau'r gwastraff ailgylchadwy a gaiff ei daflu i ffwrdd a'r effaith y mae'r rhain wedi'i chael o ran gwella amgylchedd naturiol Cymru.

Cefnogwyr

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.42

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7481 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sefydlu cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, a fyddai'n golygu bod defnyddwyr yn talu ernes, yn ad-daladwy ar ôl dychwelyd y cynhwysydd;

b) lleihau nifer y poteli plastig a gwydr untro, yn ogystal â caniau dur ac alwminiwm;

c) ymateb i wastraff ailgylchadwy cynyddol, fel cyfarpar diogelu personol sy'n cael ei ddefnyddio yn y frwydr yn erbyn COVID-19, lle mae nifer cynyddol o eitemau'n cael eu taflu ac yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a morol; a

d) cynyddu atebolrwydd drwy sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru yn manylu ar bolisïau penodol yr ymgymerwyd â hwy i leihau'r gwastraff ailgylchadwy a gaiff ei daflu i ffwrdd a'r effaith y mae'r rhain wedi'i chael o ran gwella amgylchedd naturiol Cymru.

Cefnogwyr

Llyr Gruffydd

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

18

1

53

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

7.

Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

NDM7487 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, a osodwyd ar 21 Medi 2020.  

2. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod cyfnod ystyried 60 diwrnod y Senedd wedi dechrau ar y diwrnod y gosodwyd drafft y Fframwaith yn y Senedd. 

3. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a wnaed gan un o bwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â'r drafft yn ystod y cyfnod hwnnw o 60 diwrnod.

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Dogfennau ategol
Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040
Llythyr gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Ymateb gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Llythyr gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu o ran y model pedair rhanbarth diwygiedig yn Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040:

a) ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan agenda Geidwadol, unoliaethol sy'n seiliedig ar gytundebau dinas a thwf Llywodraeth y DU;

b) y byddai'n gyrru hollt drwy Gymru, gan rannu gogledd ein gwlad o'r de ac ni fyddai'n gwneud fawr ddim yn rhagweithiol i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de; ac

c) y byddai'n esgeuluso rhai o'r rhannau hynny o Gymru y mae angen eu hadfywio a'u datblygu fwyaf, sef yr arfordir gorllewinol a chymoedd y de.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r model pedwar rhanbarth a gynigir yn Cymru'r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040 gan, yn lle hynny, gael map rhanbarthol amgen o Gymru sy'n canolbwyntio ar wneud Cymru'n genedl gysylltiedig, cynaliadwy, ffyniannus a hunangynhaliol ym mhob ystyr.

Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040

Gwelliant  2 Sian Gwenllian (Arfon)

Yn nodi bod Dr Neil Harris o Brifysgol Caerdydd, mewn tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd, wedi crynhoi'r dull sy'n sail i Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 fel un sy'n seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol a sefydlogrwydd mewn mannau eraill. 

Yn credu o ran y dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040:

a) ei fod mewn perygl o sefydlu'r methiant i ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru fel nodwedd barhaol o lywodraethu Cymru yn y cynllun hirdymor hwn; a

b) y bydd yn arwain at orddatblygu yn yr ardaloedd sydd eisoes wedi'u blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer datblygiadau preswyl sylweddol a datblygiadau sylweddol eraill, heb wneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r angen am ddatblygu cynaliadwy mewn meysydd eraill gan gynnwys yr angen am dai cymdeithasol a fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai.

Yn credu bod yn rhaid i'r system gynllunio yng Nghymru adlewyrchu'r angen am ddatblygiad addas yn y mannau cywir yn ôl angen lleol; rhoi mwy o lais i gymunedau mewn datblygiadau yn eu hardaloedd a bod yn rhaid i'r system gynllunio ganiatáu cynllunio cyfannol ar y lefel briodol, ond yn credu ei bod yn debygol y bydd trosglwyddo pŵer ac atebolrwydd dros gynllunio o awdurdodau lleol i gyd-bwyllgorau corfforaethol drwy gynlluniau datblygu strategol yn cyfyngu ymhellach ar y llais lleol mewn prosesau cynllunio.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 ar hyn o bryd gan sefydlu dull amgen sy'n canolbwyntio ar ddosbarthu cyfoeth, pŵer a buddsoddiad yn gyfartal ledled Cymru drwy dargedu ymyrraeth a thwf yn yr ardaloedd mwyaf anghenus.

Cyflwyniad ysgrifenedig gan Neil Harris cyn sesiwn dystiolaeth ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig - Hydref 2019 (Saesneg yn unig)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7487 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, a osodwyd ar 21 Medi 2020.  

2. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod cyfnod ystyried 60 diwrnod y Senedd wedi dechrau ar y diwrnod y gosodwyd drafft y Fframwaith yn y Senedd. 

3. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a wnaed gan un o bwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â'r drafft yn ystod y cyfnod hwnnw o 60 diwrnod.

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu o ran y model pedair rhanbarth diwygiedig yn Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040:

a) ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan agenda Geidwadol, unoliaethol sy'n seiliedig ar gytundebau dinas a thwf Llywodraeth y DU;

b) y byddai'n gyrru hollt drwy Gymru, gan rannu gogledd ein gwlad o'r de ac ni fyddai'n gwneud fawr ddim yn rhagweithiol i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de; ac

c) y byddai'n esgeuluso rhai o'r rhannau hynny o Gymru y mae angen eu hadfywio a'u datblygu fwyaf, sef yr arfordir gorllewinol a chymoedd y de.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r model pedwar rhanbarth a gynigir yn Cymru'r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040 gan, yn lle hynny, gael map rhanbarthol amgen o Gymru sy'n canolbwyntio ar wneud Cymru'n genedl gysylltiedig, cynaliadwy, ffyniannus a hunangynhaliol ym mhob ystyr.

Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

1

43

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant  2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Dr Neil Harris o Brifysgol Caerdydd, mewn tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd, wedi crynhoi'r dull sy'n sail i Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 fel un sy'n seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol a sefydlogrwydd mewn mannau eraill. 

Yn credu o ran y dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040:

a) ei fod mewn perygl o sefydlu'r methiant i ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru fel nodwedd barhaol o lywodraethu Cymru yn y cynllun hirdymor hwn; a

b) y bydd yn arwain at orddatblygu yn yr ardaloedd sydd eisoes wedi'u blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer datblygiadau preswyl sylweddol a datblygiadau sylweddol eraill, heb wneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r angen am ddatblygu cynaliadwy mewn meysydd eraill gan gynnwys yr angen am dai cymdeithasol a fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai.

Yn credu bod yn rhaid i'r system gynllunio yng Nghymru adlewyrchu'r angen am ddatblygiad addas yn y mannau cywir yn ôl angen lleol; rhoi mwy o lais i gymunedau mewn datblygiadau yn eu hardaloedd a bod yn rhaid i'r system gynllunio ganiatáu cynllunio cyfannol ar y lefel briodol, ond yn credu ei bod yn debygol y bydd trosglwyddo pŵer ac atebolrwydd dros gynllunio o awdurdodau lleol i gyd-bwyllgorau corfforaethol drwy gynlluniau datblygu strategol yn cyfyngu ymhellach ar y llais lleol mewn prosesau cynllunio.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 ar hyn o bryd gan sefydlu dull amgen sy'n canolbwyntio ar ddosbarthu cyfoeth, pŵer a buddsoddiad yn gyfartal ledled Cymru drwy dargedu ymyrraeth a thwf yn yr ardaloedd mwyaf anghenus.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

10

34

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7487 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, a osodwyd ar 21 Medi 2020.  

2. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod cyfnod ystyried 60 diwrnod y Senedd wedi dechrau ar y diwrnod y gosodwyd drafft y Fframwaith yn y Senedd. 

3. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a wnaed gan un o bwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â'r drafft yn ystod y cyfnod hwnnw o 60 diwrnod.

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

3

9

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.16 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

(60 munud)

8.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig- Effaith COVID-19 ar Wasanaethau Iechyd

NDM7489 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad BBC Wales Investigates a ddangosodd bod 10 gwaith yn fwy o gleifion yn aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o gymharu â mis Medi 2019.

2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru.

3. Yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau.

4. Yn gresynu at y ffaith bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi amcangyfrif y byddai'n cymryd tymor seneddol llawn i ailddechrau gwasanaethau arferol ac y byddai'n ffôl cael cynllun ar waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn rhestrau aros.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi hwb i'r defnydd o ysbytai sy’n rhydd o COVID-19 ar unwaith, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r  Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys;

b) cynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr;

c) gwella ei threfn brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru;

d) cyflwyno cynllun adfer canser, fel y gwelir mewn rhannau eraill o'r DU, a chynyddu'r buddsoddiad yn y gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig cyflym ledled Cymru;

e) gweithredu ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neu y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny.

Tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd i Senedd y DU gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr a Choleg Brenhinol Meddygaeth Frys - 16 Mehefin 2020 (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11 y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU.

StatsCymru

Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer.

Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID a gwasanaethau eraill yn ddiogel.

Gwelliant 3 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu is-bwynt 5(a) a rhoi yn ei le: 

gweithio gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau eraill ar gyfer cymunedau lleol.

Gwelliant 4 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu is-bwynt 5(d) a rhoi yn ei le:

parhau i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym.

Gwelliant 5 Rebecca Evans (Gwyr)

Yn is-bwynt 5(e) dileu “gweithredu ymgyrch” a rhoi yn ei le “parhau â’n hymgyrch”.

Gwelliant 6 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:

'cynnal adolygiad o berfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros dros y degawd diwethaf i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu am reoli rhestrau aros;

ystyried defnyddio'r ysbytai Nightingale lle y bo'n bosibl i ddarparu capasiti ychwanegol i gleifion sy'n gwella yn dilyn llawdriniaeth er mwyn helpu i gynyddu llif drwy'r system.'

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.23

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7489 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad BBC Wales Investigates a ddangosodd bod 10 gwaith yn fwy o gleifion yn aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o gymharu â mis Medi 2019.

2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru.

3. Yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau.

4. Yn gresynu at y ffaith bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi amcangyfrif y byddai'n cymryd tymor seneddol llawn i ailddechrau gwasanaethau arferol ac y byddai'n ffôl cael cynllun ar waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn rhestrau aros.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi hwb i'r defnydd o ysbytai sy’n rhydd o COVID-19 ar unwaith, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r  Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys;

b) cynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr;

c) gwella ei threfn brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru;

d) cyflwyno cynllun adfer canser, fel y gwelir mewn rhannau eraill o'r DU, a chynyddu'r buddsoddiad yn y gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig cyflym ledled Cymru;

e) gweithredu ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neu y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

40

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11 y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

3

21

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer.

Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID a gwasanaethau eraill yn ddiogel.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

2

22

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu is-bwynt 5(a) a rhoi yn ei le: 

gweithio gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau eraill ar gyfer cymunedau lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

3

21

53

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu is-bwynt 5(d) a rhoi yn ei le:

parhau i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

1

24

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 Rebecca Evans (Gwyr)

Yn is-bwynt 5(e) dileu “gweithredu ymgyrch” a rhoi yn ei le “parhau â’n hymgyrch”.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

3

21

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:

'cynnal adolygiad o berfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros dros y degawd diwethaf i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu am reoli rhestrau aros;

ystyried defnyddio'r ysbytai Nightingale lle y bo'n bosibl i ddarparu capasiti ychwanegol i gleifion sy'n gwella yn dilyn llawdriniaeth er mwyn helpu i gynyddu llif drwy'r system.'

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

4

30

53

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7489 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11 y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU.

2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru.

3. Yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau.

4. Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer.

Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID a gwasanaethau eraill yn ddiogel.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau eraill ar gyfer cymunedau lleol;

b) cynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr;

c) gwella ei threfn brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru;

d) parhau i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym;

e) parhau â’n hymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neu y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

2

22

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.23 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

9.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.29

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM7488 David Rees (Aberafan)

Gwasanaethau canser: cynllun adfer ar ôl COVID-19.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.37