Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: 302 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.26

Gofynnwyd y 9 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 7 a 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhoi'r Strategaeth Ryngwladol ar Waith

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.06

(20 munud)

4.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn sgil y datganiad ar frechlyn COVID-19 gan Pfizer, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch strategaeth ar gyfer cyflwyno'r brechlyn ledled Cymru?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.08

I’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn sgil y datganiad ar frechlyn COVID-19 gan Pfizer, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch strategaeth ar gyfer cyflwyno'r brechlyn ledled Cymru?

(5 munud)

5.

Datganiadau 90 eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.18

Gwnaeth Gareth Bennett ddatganiad am: Cymru yn ennill Cwpan Ddartiau y Byd.

Gwnaeth Adam Price ddatganiad am: Coleg Elidyr.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.21 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

Cynigion i ethol Aelodau i Bwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 16.29

Yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, cafod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau eu grwpio ar gyfer eu trafod a phleidleisio arnynt.

NDM7471 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. 

NDM7472 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o Bwyllgor y Llywydd. 

NDM7473 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mandy Jones (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. 

NDM7474 Elin Jones (Ceredigion)  

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: 

1. David Rowlands (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad. 

2. Caroline Jones (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod amgen o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

6.

Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22

NDM7458 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, a osodwyd gerbron y Senedd ar 4 Tachwedd 2020 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Dogfennau ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb gan Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.29

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7458 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22, a osodwyd gerbron y Senedd ar 4 Tachwedd 2020 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

0

13

54

Derbyniwyd y cynnig.

(30 munud)

7.

Dadl ar Ddeiseb P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau "nad ydynt yn hanfodol" yn ystod y cyfyngiadau symud

NDM7460 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud’ a gasglodd fwy na 67,000 o lofnodion.

P-05-1060 Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.50

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

8.

Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith yr achosion o COVID-19 ar y diwydiannau creadigol

NDM7461  Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Effaith yr achosion Covid-19 ar y diwydiannau creadigol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2020.

Dogfennau Ategol

Ymateb Llywodraeth Cymru i’r Adroddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.17

NDM7461 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Effaith yr achosion Covid-19 ar y diwydiannau creadigol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Gorffennaf 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

9.

Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Caffael cyhoeddus yn yr economi sylfaenol

NDM7459 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Caffael yn yr Economi Sylfaenol - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2020.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.51

NDM7459 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Caffael yn yr Economi Sylfaenol - a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2020.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Medi 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.22 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Llywydd.

(60 munud)

10.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Lluoedd Arfog

NDM7456 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai heddiw yw Diwrnod y Cadoediad.

2. Yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethau ein gwlad, gan gynnwys clwyfedigion sifil gwrthdaro.

3. Yn diolch i'r holl sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gweithio i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a'n cyn-filwyr.

4. Yn mynegi diolch am gyfraniad sylweddol y Lluoedd Arfog i'r ymateb COVID-19 cenedlaethol yng Nghymru. 

5. Yn cydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r fyddin yn ei wneud i Gymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth iddi geisio cynnal Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Cyfamod y Lluoedd Arfog (Saesneg yn unig)

Cyd-gyflwynwyr

Rebecca Evans

Siân Gwenllian

Caroline Jones

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig.

Gwelliant 2 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel.

Yn credu bod yn rhaid i Gymru, ar adeg o heriau cenedlaethol a byd-eang na welwyd eu tebyg o'r blaen, chwarae ei rhan wrth lunio dyfodol heddychlon ac felly yn croesawu sefydlu Academi Heddwch Cymru.

Cofnodion:

NDM7456 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi mai heddiw yw Diwrnod y Cadoediad.

2. Yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu wrth wasanaethau ein gwlad, gan gynnwys clwyfedigion sifil gwrthdaro.

3. Yn diolch i'r holl sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gweithio i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog a'n cyn-filwyr.

4. Yn mynegi diolch am gyfraniad sylweddol y Lluoedd Arfog i'r ymateb COVID-19 cenedlaethol yng Nghymru. 

5. Yn cydnabod y cyfraniad parhaus sylweddol y mae'r fyddin yn ei wneud i Gymru.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth iddi geisio cynnal Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Cyfamod y Lluoedd Arfog (Saesneg yn unig)

Cyd-gyflwynwyr

Rebecca Evans

Siân Gwenllian

Caroline Jones

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

8

1

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.24 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Llywydd.

Dechreuodd yr eitem am 19.29

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

12.

Dadl Fer

NDM7457 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Mynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yn GIG Cymru.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 19.30

NDM7457 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Mynd i'r afael ag amseroedd aros am driniaeth yn GIG Cymru.