Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 294(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/10/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Gwnaeth y Llywydd ddatganiad ar ddigwyddiadau ddoe yn
ystod y ddadl ar ddileu gwahaniaethu ar sail hil. Dywedodd y Llywydd bod nifer o Aelodau wedi mynegi eu rhwystredigaeth
a’u siom ynghylch y modd yr oedd ymddygiad un Aelod wedi tarfu ar drafodion ac
wedi dwyn anfri ar y Senedd. Dywedodd y Llywydd bod ymddygiad o’r fath gan
unrhyw Aelod yn hollol annerbyniol ac ei bod wedi ysgrifennu at yr Aelod yn
gofyn iddo dynnu ei sylwadau difenwol yn ôl a’i fod yn ymddiheuro iddi hi yn
bersonol am ei weithredoedd; ac, yn y cyfamser, ni fydd yr Aelod yn cael ei alw
i siarad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.31 Gofynnwyd cwestiynau 1 -
6 a 8. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i
ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd
Cymru Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Stadco
yn dilyn newyddion ei fod yn bwriadu cau ei ffatri yn Llanfyllin, gan effeithio
ar 129 o weithwyr? Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o
drafferthion yn y gadwyn gyflenwi sy'n effeithio ar Roche
Pharmaceuticals, a goblygiadau hyn o ran capasiti profi yn GIG Cymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.18 Gofyn
i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Russell George (Sir
Drefaldwyn): Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Stadco yn dilyn
newyddion ei fod yn bwriadu cau ei ffatri yn Llanfyllin, gan effeithio ar 129 o
weithwyr? Gofyn
i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Andrew RT Davies (Canol
De Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o drafferthion
yn y gadwyn gyflenwi sy'n effeithio ar Roche Pharmaceuticals, a
goblygiadau hyn o ran capasiti profi yn GIG Cymru? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.33 Gwnaeth Caroline Jones
ddatganiad am – Goroesi Canser y Fron. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.35 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro
gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-20 NDM7420 Andrew
R.T. Davies (Canol De Cymru) Cynnig bod Senedd: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01 -20 a osodwyd
gerbron y Senedd ar 30 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9. 2. Yn cymeradwyo’r
argymhelliadau yn yr adroddiad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.42 NDM7420 Andrew R.T. Davies (Canol
De Cymru) Cynnig bod Senedd: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01 -20 a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9. 2. Yn cymeradwyo’r
argymhelliadau yn yr adroddiad. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddirprwyo awdurdod ar gyfer gwneud y trefniadau i recriwtio Comisiynydd Safonau newydd i'r Prif Weithredwr a'r Clerc NDM7419 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd,
yn unol ag adran 3 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
2009, a pharagraffau 1 a 2 o’r Atodlen i’r Mesur hwnnw yn dirprwyo’r gwaith o
wneud trefniadau ar gyfer recriwtio’r Comisiynydd Safonau (ond nid ar gyfer
penodi’r person a nodir) i Glerc y Senedd. Mesur
Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.48 NDM7419 Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod y Senedd, yn
unol ag adran 3 o Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009,
a pharagraffau 1 a 2 o’r Atodlen i’r Mesur hwnnw yn dirprwyo’r gwaith o wneud
trefniadau ar gyfer recriwtio’r Comisiynydd Safonau (ond nid ar gyfer penodi’r
person a nodir) i Glerc y Senedd. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro NDM7418 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Douglas
Bain CBE TD wedi’i benodi yn Gomisiynydd dros dro yn unol ag Adran 4(1) o Fesur
Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (“y Mesur”) ar 13
Tachwedd 2019. 2. Yn ystyried yr
adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad [Taliad y Comisiynydd Safonau dros
dro] (“yr adroddiad”) yn ymwneud â’r cynnig i addasu telerau penodiad Mr Bain 3. Yn addasu telerau
penodiad y Comisiynydd dros dro, yn unol ag adran 4(4)(d) o’r Mesur, fel y
nodir yn Atodiad A o’r adroddiad. Mesur
Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 Pwyllgor
Safonau Ymddygiad: Tâl y Comisiynydd Safonau Dros Dro Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.50 NDM7418 Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod Douglas Bain
CBE TD wedi’i benodi yn Gomisiynydd dros dro yn unol ag Adran 4(1) o Fesur
Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (“y Mesur”) ar 13
Tachwedd 2019. 2. Yn ystyried yr
adroddiad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad [Taliad y Comisiynydd Safonau dros
dro] (“yr adroddiad”) yn ymwneud â’r cynnig i addasu telerau penodiad Mr Bain. 3. Yn addasu telerau
penodiad y Comisiynydd dros dro, yn unol ag adran 4(4)(d) o’r Mesur, fel y
nodir yn Atodiad A o’r adroddiad. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd: Diwygio'r Senedd: y camau nesaf NDM7417 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd, ‘Diwygio’r Senedd: Y
camau nesaf’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Medi 2020. Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r
cynnig hwn. Dogfennau Ategol Adroddiad
y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd: Crynodeb o’r argymhellion Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.51 Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliannau 1 a 2 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb welliannau: NDM7417 Dawn Bowden
(Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y
Senedd, ‘Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Medi 2020
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amlygu'r materion: anghydraddoldeb a'r pandemig NDM7406 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Senedd
Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amlygu’r materion:
anghydraddoldeb a’r pandemig', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Awst 2020. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.36 NDM7406 John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Senedd Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau, 'Amlygu’r materion: anghydraddoldeb a’r pandemig', a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Awst 2020. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2020 Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 17.30 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth NDM7421 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y
Senedd: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r
sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19. 2.Yn croesawu’r
archwilio o’r newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod
misoedd y pandemig yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd
eraill. 3. Yn cefnogi galwadau
i sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif
a chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol. 4. Yn gresynu at y
ffaith bod cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o
achub llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau
diwylliannol rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau
(llawrydd a chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn
COVID-19. 5. Yn gwrthwynebu
cynigion i ddatblygu un neu ragor o amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd. 6. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) gweithio gyda
Cyngor y Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym
maes y celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr
adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr
Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio'; b) defnyddio’r
gyfundrefn gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu i adeiladau a ddefnyddid at
ddibenion celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth cyn i Ddeddf Coronafeirws
2020 ddod i rym gael caniatâd cynllunio newid defnydd tra bo’r pandemig yn
parhau i effeithio ar y gallu i ddefnyddio’r lleoliadau hynny at eu prif
ddiben; c) archwilio creu
amgueddfa genedlaethol hanes a threftadaeth pobl ddu a phobl o liw i’w lleoli
yn Tiger Bay fel cynnig amgen posibl i’r cynnig ar gyfer un neu ragor o
amgueddfeydd milwrol; d) sicrhau mwy o
gyfranogiad pobl ddu a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel
y gelwir amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil
Cymru; e) sicrhau bod y
Gymraeg yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei
chyfanrwydd wrth symud ymlaen; f) cyflwyno
gwarchodaeth statudol i atal colli enwau lleoedd Cymraeg o’r amgylchedd
naturiol a’r amgylchedd adeiledig; a g) sicrhau bod
pob adran o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched
nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â
ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn
ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud
hynny. Deddf Coronafeirws 2020 (Saesneg yn unig) Cynghrair Hil Cymru: Ein Maniffesto dros Gymru Wrth-Hiliol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn croesawu pecyn
achub y celfyddydau gwerth £1.57 biliwn gan Lywodraeth Ei Mawrhydi a'r swm
canlyniadol o £59miliwn sy'n deillio ohono i Gymru. Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 5 a rhoi
yn ei le: Yn croesawu cynlluniau
ar gyfer amgueddfa meddygaeth filwrol ym Mae Caerdydd ac yn cydnabod
pwysigrwydd lleoliadau ledled Cymru sy'n dathlu treftadaeth filwrol gyfoethog
Cymru. [Os derbynnir
gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 4 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu pwynt 5 ac
ailrifo yn unol â hynny. Gwelliant 5 Rebecca Evans (Gwyr) Ym mhwynt 6, dileu
is-bwyntiau b) a c) a rhoi yn eu lle: b) yn cydnabod y
pwyslais y mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei roi ar les diwylliannol drwy greu cynlluniau
a phenderfyniadau cynllunio, sy’n cefnogi’r gwaith o barhau i ddarparu
defnyddiau diwylliannol ar gyfer cymunedau drwy ei ddull o greu lleoedd. c) yn gweithio i
sicrhau bod hanes Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei
gynnwys a’i adlewyrchu ar draws rhwydwaith amgueddfeydd Cymru a thrafod ag
arweinwyr cymunedau opsiynau i’r dyfodol er mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes
yma. Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig
hwn. Gwelliant 8 Rebecca Evans (Gwyr) Ym mhwynt 6, dileu
is-bwyntiau e) a f) a rhoi yn eu lle: e) yn gweithio i
sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau; f) yn cydnabod
pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg ac yn parhau i ystyried opsiynau er mwyn
sicrhau na fyddant yn cael eu colli o’r amgylcheddau adeiledig a naturiol. Gwelliant 9 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 6: yn nodi canlyniad yr
adolygiad annibynnol o ariannu Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn galw am gynnydd
o £1.445 miliwn mewn cyllid sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid
y sefydliad ar sail gynaliadwy ar gyfer y dyfodol Yn unol â Rheol
Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 10, 11, 12 a 13 a gyflwynwyd i’r
cynnig hwn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7421 Sian Gwenllian
(Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r
sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19. 2.Yn croesawu’r archwilio o’r
newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod misoedd y pandemig
yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd eraill. 3. Yn cefnogi galwadau i
sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif a
chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol. 4. Yn gresynu at y ffaith bod
cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o achub
llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau diwylliannol
rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau (llawrydd a
chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn COVID-19. 5. Yn gwrthwynebu cynigion i
ddatblygu un neu ragor o amgueddfeydd milwrol ym Mae Caerdydd. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) gweithio gyda Cyngor y
Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym maes y
celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr
adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr
Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio'; b) defnyddio’r gyfundrefn
gynllunio i gyfyngu ar a rheoli’r gallu i adeiladau a ddefnyddid at ddibenion
celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth cyn i Ddeddf y Coronafeirws 2020 ddod
i rym gael caniatâd cynllunio newid defnydd tra bo’r pandemig yn parhau i
effeithio ar y gallu i ddefnyddio’r lleoliadau hynny at eu prif ddiben; c) archwilio creu amgueddfa
genedlaethol hanes a threftadaeth pobl dduon a phobl o liw i’w lleoli yn Tiger
Bay fel cynnig amgen posibl i’r cynnig ar gyfer un neu ragor o amgueddfeydd
milwrol; d) sicrhau mwy o gyfranogiad
pobl dduon a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel y gelwir
amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil
Cymru; e) sicrhau bod y Gymraeg
yn cael lle canolog yng ngweithlu ac allbwn sector y celfyddydau yn ei
chyfanrwydd wrth symud ymlaen; f) cyflwyno gwarchodaeth
statudol i atal colli enwau lleoedd Cymraeg o’r amgylchedd naturiol a’r
amgylchedd adeiledig; a g) sicrhau bod pob adran
o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched nod
llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â
diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn
ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud
hynny.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 2 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn croesawu pecyn achub y celfyddydau gwerth £1.57 biliwn
gan Lywodraeth Ei Mawrhydi a'r swm canlyniadol o £59miliwn sy'n deillio ohono i
Gymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le: Yn croesawu cynlluniau ar gyfer amgueddfa meddygaeth
filwrol ym Mae Caerdydd ac yn cydnabod pwysigrwydd lleoliadau ledled Cymru sy'n
dathlu treftadaeth filwrol gyfoethog Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 Rebecca Evans
(Gwyr) Dileu pwynt 5 ac ailrifo yn unol â hynny. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 Rebecca Evans
(Gwyr) Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau b) a c) a rhoi yn eu lle: c) yn gweithio i sicrhau bod hanes Pobl Dduon ac Asiaidd
a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gynnwys a’i adlewyrchu ar draws rhwydwaith
amgueddfeydd Cymru a thrafod ag arweinwyr cymunedau opsiynau i’r dyfodol er
mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes yma. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliannau 6 a 7 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Gwelliant 8 Rebecca Evans
(Gwyr) Ym mhwynt 6, dileu is-bwyntiau e) a f) a rhoi yn eu lle: e) yn gweithio i sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd
gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau; f) yn cydnabod pwysigrwydd enwau lleoedd Cymraeg ac yn
parhau i ystyried opsiynau er mwyn sicrhau na fyddant yn cael eu colli o’r
amgylcheddau adeiledig a naturiol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Gwelliant 9 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6: yn nodi canlyniad yr adolygiad annibynnol o ariannu
Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn galw am gynnydd o £1.445 miliwn mewn cyllid
sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf i roi cyllid y sefydliad ar sail gynaliadwy
ar gyfer y dyfodol Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
Gwrthodwyd gwelliant 9 Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliannau 10, 11, 12 a 13 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7421 Sian Gwenllian
(Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd
sectorau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth Cymru a’r heriau y mae’r
sectorau hyn yn eu wynebu yn sgil COVID-19. 2.Yn croesawu’r archwilio o’r
newydd sydd wedi bod ar dreftadaeth amrywiol Cymru yn ystod misoedd y pandemig
yng ngoleuni mudiad Mae Bywydau Duon o Bwys ac ymgyrchoedd eraill. 3. Yn cefnogi galwadau i
sicrhau y caiff ein treftadaeth ei hyrwyddo a’i chyflwyno mewn modd sensitif a
chynhwysol o’i holl amrywiaeth gyfoethog yn y dyfodol. 4. Yn gresynu at y ffaith bod
cynllun cefnogi swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn annhebygol o achub
llawer o leoliadau celfyddydol a cherddoriaeth byw ac atyniadau diwylliannol
rhag cael eu cau, nac achub gyrfaoedd gweithwyr y celfyddydau (llawrydd a
chyflogedig) er gwaetha’r ffaith yr oeddent yn hyfyw cyn COVID-19. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) gweithio gyda Cyngor y
Celfyddydau, Tasglu Llawrydd Cymru, a grwpiau a sefydliadau eraill ym maes y
celfyddydau a diwylliant i weithredu argymhellion yr
adroddiad: ‘Ailfantoli ac Ailddychmygu: Strategaethau i Gefnogi Gweithwyr
Llawrydd ym Maes y Celfyddydau a Pherfformio'; b) yn cydnabod y pwyslais y mae
Polisi Cynllunio Cymru yn ei roi ar les diwylliannol drwy greu cynlluniau a
phenderfyniadau cynllunio, sy’n cefnogi’r gwaith o barhau i ddarparu defnyddiau
diwylliannol ar gyfer cymunedau drwy ei ddull o greu lleoedd. c) yn gweithio i sicrhau bod
hanes Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael ei gynnwys a’i
adlewyrchu ar draws rhwydwaith amgueddfeydd Cymru a thrafod ag arweinwyr
cymunedau opsiynau i’r dyfodol er mwyn sicrhau sylw cyfiawn i’r hanes yma. d) sicrhau mwy o gyfranogiad
pobl dduon a phobl o liw yn y celfyddydau a chyrff diwylliannol, fel y gelwir
amdano yn y Maniffesto ar gyfer Cymru Gwrth-hiliaeth gan Gynghrair Hil
Cymru; e) yn gweithio i sicrhau bod y
Gymraeg wrth wraidd gweithlu ac allbwn sector y celfyddydau; f) yn cydnabod pwysigrwydd
enwau lleoedd Cymraeg ac yn parhau i ystyried opsiynau er mwyn sicrhau na
fyddant yn cael eu colli o’r amgylcheddau adeiledig a naturiol. g) sicrhau bod pob adran
o’r llywodraeth yn gweithredu yn strategol tuag at gyflawni chweched nod
llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sef Cymru â
ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac i ymgysylltu'n drylwyr ac yn
ystyrlon gyda sectorau’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth wrth wneud
hynny.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog
34.14D, am 18.36, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl
technegol cyn y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 18.41 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Cytunwyd ar gynnig gweithdrefnol o dan Reol Sefydlog
12.32 i ohirio’r Ddadl Fer heddiw tan gyfarfod dydd Mercher nesaf, yn unol â
Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |