Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 282(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/07/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Dechreuodd yr eitem am 11.00.

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.

Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 11.01

Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(15 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 12.05

(30 munud)

3.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol")

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 12.15

Gofynnwyd y 7 cwestiwn.

(45 munud)

4.

Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 12.44

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Am 13.28, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro tan 14.15.

(45 munud)

5.

Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 i 5 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

6.

Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.02.

Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Ni ofynnwyd cwestiwn 6 oherwydd problemau technegol.

Cafwyd egwyl am resymau technegol am 15.22.

(20 munud)

7.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i’r Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dilyn y cyhoeddiad am golli swyddi yn Airbus?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.23

Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dilyn y cyhoeddiad am golli swyddi yn Airbus?

(45 munud)

8.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Argyfwng Hinsawdd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.39

(15 munud)

9.

Dadl: Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020

NDM7340 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mai 2020.

Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mai 2020, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.

Dogfen Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.10

NDM7340 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mai 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

10.

Dadl Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar effeithiau COVID-19 ar Economi, Seilwaith a Sgiliau Cymru

NDM7341 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiadau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Effaith COVID-19: Crynodeb o'r canfyddiadau cychwynnol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2020 ac Effaith COVID-19: Sgiliau – canfyddiadau cynnar a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2020.

Dogfennau AtegolPwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sqilia

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.15

NDM7341 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiadau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Effaith COVID-19: Crynodeb o'r canfyddiadau cychwynnol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2020 ac Effaith COVID-19: Sgiliau – canfyddiadau cynnar a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

11.

Dadl Plaid Cymru - Cwricwlwm Newydd Arfaethedig

NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;

b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac

d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.

3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.

4. Yn cytuno y dylai’r elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys:

a) hanes pobl ddu a phobl o liw; a 

b) hanes Cymru.

5. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyflawni’r nod hwn.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cytuno y gall y cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag anghyfiawnder o bob ffynhonnell.

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt; a

b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.

Cwricwlwm i Gymru - Y Dyniaethau – Canllawiau

[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau 4(a) a 4(b) a rhoi yn eu lle:

hanes Cymru; hanesion y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon; a hanesion rhannau eraill o'r byd, a bod:

(i) pob un o'r uchod i gynnwys hanes pobl dduon a phobl o liw; a

(ii) pob un o'r uchod yn cael eu rhoi mewn cyd-destun;

addysgu sgiliau achub bywyd, fel y nodwyd yn flaenoriaeth gan y Senedd Ieuenctid.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn cytuno y dylai'r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan sicrhau bod cymorth ar gyfer dysgu Cymraeg yn ystyried yr effaith fanteisiol a geir eisoes yn sgil y ffaith bod dysgwyr o dan ddylanwad amgylcheddol amlycach i’r Saesneg.

Gwelliant 5 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd.  

Gwelliant 6 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Yn galw ar y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn yr ysgol.

Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Yn credu mai'r ffordd orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion.

Gwelliant 8 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd COVID-19.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.17

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;

b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac

d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.

3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.

4. Yn cytuno y dylai’r elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys:

a) hanes pobl ddu a phobl o liw; a 

b) hanes Cymru.

5. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyflawni’r nod hwn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

1

46

56

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cytuno y gall y cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag anghyfiawnder o bob ffynhonnell.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

4

42

56

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt; a

b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

4

22

56

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol

Gwelliant 5 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

41

56

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn yr ysgol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

40

56

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai'r ffordd orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

1

14

41

56

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd COVID-19.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

41

56

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;

b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac

d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.

3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.

4. Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”

5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt; a

b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

6. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

14

12

56

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

12.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.27

Fel y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Enwebodd pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: