Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 277(v2) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/05/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Dechreuodd yr eitem am 13.33

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.

Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.

 

(5 munud)

1.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.34

 

(60 munud)

2.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.34

 

Pwynt o Drefn

Cododd Adam Price bwynt o drefn yn gofyn i’r Llywydd ddefnyddio ei phwerau o dan Reol Sefydlog 12.17 neu 12.18 i newid trefn busnes heddiw neu ohirio’r cyfarfod dros dro er mwyn sicrhau cyfle i’r Aelodau astudio dogfen COVID-19 y Llywodraeth ‘Strategaeth Profi Olrhain Diogelu’, a gyhoeddwyd 8 munud yn unig cyn dechrau’r Cyfarfod Llawn, yn ymwneud â’r datganiad y byddai’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei wneud.

Cafodd pwysigrwydd y ddogfen ei gydnabod gan y  Llywydd a dywedodd ei bod yn arfer da i ddosbarthu datganiadau cyn iddynt gael eu rhoi, ond nid oedd yn credu ei bod yn briodol ar hyn o bryd i oedi’r datganiad.

 

3.

Cwestiynau Amserol

Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

 

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.48

Am 16.04 gohiriwyd y cyfarfod am 10 munud.

 

(60 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y goblygiadau cyllidol i Gymru yn sgil effaith COVID-19 a'r ymateb iddo

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.16

 

(60 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.11