Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 275(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/04/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Dechreuodd yr eitem am 13.41

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.

Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.

Pwyntiau o Drefn

Dechreuodd y Llywydd y cyfarfod drwy wahodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyfeirio at y sylwadau a wnaeth oddi ar gamera tuag at gyd-Aelod yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf. Dywedodd y Gweinidog nad oedd wedi bwriadu i'w sylwadau gael eu darlledu a'i fod, yn y cyfamser, wedi ymddiheuro i'r Aelod dros Ganol Caerdydd, sydd wedi derbyn ei ymddiheuriad. Tynnodd y Gweinidog ei sylwadau yn ôl ac ymddiheurodd i'r Llywydd ac i'r Cynulliad.

Cyfeiriodd y Llywydd hefyd at yr ail bwynt o drefn a godwyd yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf ynghylch amserlennu Cwestiynau Llafar a Rheol Sefydlog 34.18, gan nodi bod y Pwyllgor Busnes wedi cytuno y dylai barhau i ddatgymhwyso Rheol Sefydlog 12.56 am y tro. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd y bydd cwestiynau amserol yn cael eu hailgyflwyno'r wythnos nesaf ac ailadroddodd y byddai'r Pwyllgor Busnes yn parhau i adolygu trefn busnes yn wythnosol. Diolchodd y Llywydd i'r Aelodau am eu dealltwriaeth, gan alluogi'r Cynulliad i gyflawni ei swyddogaethau yn yr amseroedd digynsail hyn.

 

(5 munud)

1.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.44

(60 munud)

2.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.44

(60 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.52

Am 15.51 gohiriwyd y cyfarfod am 10 munud.

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.07

(60 munud)

5.

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.00

Cynnig o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i gynnal dadl ar y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd a'u bod yn destun un bleidlais (30 munud)

Derbyniwyd y cynnig o dan Reolau Sefydlog 12.24 a 12.40 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd a'u bod yn destun un bleidlais.

6.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

NDM7319 – Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2020.   

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Nodyn Cyngor Cyfreithiol
Ymateb y Llywodraeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.52

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynigion o dan eitemau 6 a 7 tan y Cyfnod Pleidleisio

NDM7319 – Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2020.   

7.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020

NDM7320Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2020.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

NDM7320Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ebrill 2020.   

Fel y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidlais heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Enwebodd pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.

Cynhaliwyd y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr.

Gan fod y Cynulliad wedi cytuno i grwpio'r cynigion ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ac Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 ar gyfer pleidleisio, cafwyd un bleidlais fel a ganlyn.

Ar ran y Grŵp Llafur a'r llywodraeth – Vikki Howells (30 pleidlais)

Ar ran Grŵp Ceidwadwyr Cymru – Angela Burns (11 pleidlais)

Ar ran Plaid Cymru – Sian Gwenllian (9 pleidlais)

Ar ran Plaid Brexit – Mark Reckless (4 pleidlais)

Gareth Bennett

Neil Hamilton

Neil McEvoy

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

6

57

Derbyniwyd y cynnig.

 

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.17

Wrth ddod â’r trafodion i ben, nododd y Llywydd mai hwn oedd cyfarfod rhif 1,378, a chyfarfod olaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac y byddwn, yr wythnos nesaf, yn ailymgynnull fel Senedd Cymru.