Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 270(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 24/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog NNDM7315 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a
33.8: 1. Yn atal Rheol Sefydlog 12.56(i) a (ii) sy’n ei gwneud yn ofynnol i: a) Brif Weinidog Cymru ateb cwestiynau llafar unwaith, am hyd at 60 munud,
ym mhob wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal Cyfarfod Llawn; a b) bob un o Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau
llafar ynglŷn â’u cyfrifoldebau, o leiaf unwaith, am hyd at 45 munud, ym
mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn, fel nad yw’n ofynnol i'r Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth
a Gogledd Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ateb
cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020. 2. Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog
11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog
11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos
ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7316, y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y
Bil Coronafeirws, gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Coronafirws Y Bil Coronafeirws (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 10.00 NNDM7315 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: 1. Yn atal Rheol
Sefydlog 12.56(i) a (ii) sy’n ei gwneud yn ofynnol i: a) Brif Weinidog
Cymru ateb cwestiynau llafar unwaith, am hyd at 60 munud, ym mhob wythnos y
bydd y Cynulliad yn cynnal Cyfarfod Llawn; a b) bob un o
Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ynglŷn
â’u cyfrifoldebau, o leiaf unwaith, am hyd at 45 munud, ym mhob pedair wythnos
y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn, fel nad yw’n
ofynnol i'r Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ateb cwestiynau llafar
yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020. 2. Yn atal Rheolau
Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud
yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r
amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn
caniatáu i NNDM7316, y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Coronafeirws, gael
ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(0 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog - AILDREFNWYD O DDYDD MERCHER 25 MAWRTH Cofnodion: Trosglwyddwyd
cwestiynau i'r Prif Weinidog i'w hateb yn ysgrifenedig. |
|
(5 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 10.00 |
|
(0 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru - AILDREFNWYD O DDYDD MERCHER 25 MAWRTH Cofnodion: Trosglwyddwyd cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i'w hateb yn ysgrifenedig. |
|
(0 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) - AILDREFNWYD O DDYDD MERCHER 25 MAWRTH Cofnodion: Trosglwyddwyd
cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd
ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) i'w hateb yn ysgrifenedig. |
|
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni ddewisiwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (Covid-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 10.02 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 11.27 |
|
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19) - i’w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig Cofnodion: Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig. |
|
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Coronafeirws (COVID-19) - i’w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig Cofnodion: Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig. |
|
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Coronafeirws (COVID-19) - i’w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig Cofnodion: Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig. |
|
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Coronafeirws (COVID-19) - i’w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig Cofnodion: Cyhoeddwyd
y datganiad fel datganiad ysgrifenedig. |
|
(0 munud) |
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Coronafeirws (COVID-19) - i’w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig Cofnodion: Cyhoeddwyd y datganiad fel datganiad ysgrifenedig. |
|
(90 munud) |
Dadl: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil y Coronafeirws NNDM7316 Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Coronafeirws i’r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU: Bil Coronafirws (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 12.31 NNDM7316 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil y Coronafeirws i’r graddau y maent
yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gosodwyd Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2020 yn unol â
Rheol Sefydlog 29.2. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(0 munud) |
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - TYNNWYD YN ÔL Cofnodion: Tynnwyd yr eitem hon yn ól. |
|
(0 munud) |
Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - TYNNWYD YN ÔL Cofnodion: Tynnwyd yr eitem hon yn ól. |
|
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog NNDM7317 –
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r
rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad
wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y
Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf
gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 24 Mawrth 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.46 NNDM7317 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal Rheol
Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn
ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r
amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn
caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd
Mawrth, 24 Mawrth 2020. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog NNDM7318 –
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes
y Cynulliad a Gweithdrefnau Argyfwng' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2020. 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i: (i) ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychanegu
Rheol Sefydlog 34 newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor
Busnes; a (ii) yn dirymu Rheolau Sefydlog 6.24A-H a 12.1A-C a
dderyniwyd ar 18 Mawrth 2020. 3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro,
ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu,
neu pan fydd y Cynulliad yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.46 NNDM7318 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes y Cynulliad a Gweithdrefnau Brys' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth
2020. 2. Yn cymeradwyo'r
cynnig i: (i) ddiwygio’r
Rheolau Sefydlog er mwyn ychwanegu Rheol Sefydlog 34 newydd, fel y nodir yn
Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes; a (ii) yn dirymu
Rheolau Sefydlog 6.24A-H a 12.1A-C a dderbyniwyd ar 18 Mawrth 2020. 3. Yn nodi bod y
newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan
gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu, neu pan fydd y Cynulliad yn penderfynu
felly, pa un bynnag sydd gyntaf. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio |