Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 260(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/02/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leddfu’r sefyllfa sy’n wynebu trigolion Dyffryn Conwy yn dilyn y llifogydd diweddar?

 

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.45

Gofynnwyd cwestiwn 1 i 2 a 4 i 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.42

 

(60 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.07

 

(45 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Ymgynghoriad ar bolisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg mewn teuluoedd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.43

 

(45 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Strategaeth Unigrwydd ac Arwahanrwydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.04

 

(45 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Grant Cymorth Tai

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.42

 

(60 munud)

7.

Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a Rhaglen Ddeddfwriaethol

NDM7265 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) addroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019;

b) y rhaglen ddeddfwriaethol.

Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro i ba raddau y mae'r addewidion ym maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinydd Llafur Cymru bellach yn rhan swyddogol o strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, Ffyniant i Bawb.

Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol

Maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinydd Llafur Cymru - copïau ar gael yn Llyfrgell yr Aelodau.

Gwelliant 2 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am restr glir a syml o ddangosyddion y gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu herbyn.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.24

NDM7265 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi:

a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019;

b) y rhaglen ddeddfwriaethol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro i ba raddau y mae'r addewidion ym maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinydd Llafur Cymru bellach yn rhan swyddogol o strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, Ffyniant i Bawb.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 2 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am restr glir a syml o ddangosyddion y gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn eu herbyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

1

28

47

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7265 - Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

1. Yn nodi:

a) adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru 2019;

b) y rhaglen ddeddfwriaethol.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro i ba raddau y mae'r addewidion ym maniffesto'r Prif Weinidog ar gyfer arweinydd Llafur Cymru bellach yn rhan swyddogol o strategaeth genedlaethol y Llywodraeth, Ffyniant i Bawb.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

10

47

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.13

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: