Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 242(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 19/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Mae’r
Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, bydd y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Bydd
y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Hysbyswyd
y Llywydd, o dan Reol Sefydlog 12.58, y byddai’r Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog. Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol") Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.21 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.40 |
|
(60 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.07 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Tata Steel Cofnodion: Dechreupdd
yr eiem am 15.48 |
|
(45 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) NDM7189 - Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). Gosodwyd Bil
y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 14 Hydref 2019; Gosodwyd
adroddiad Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Fil y Gwasanaeth
Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) ar 12 Tachwedd 2019. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.48 NDM7189 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru). Gosodwyd Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y
Cynulliad ar 14 Hydref 2019; Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) NDM7190 - Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o
Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) yn cytuno i unrhyw
gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n
codi o ganlyniad i’r Bil. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.25 NDM7190 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o
Fil y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) yn cytuno i unrhyw
gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n
codi o ganlyniad i’r Bil. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd Cyfnod Pleidleisio. |