Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 231(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Bydd y Llywydd yn
galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd y
12 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau Amserol Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw Gwestiynau Amserol |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.00 Gwnaeth Vaughan Gething ddatganiad ar: Mis
Hanes Pobl Dduon Gwnaeth Mike Hedges
ddatganiad ar: Nodi 45 mlynedd o Orsaf Radio Sain Abertawe Gwnaeth Russell George
ddatganiad ar: Dathlu 160 mlynedd o Siop Archebion drwy’r Post Pryce-Jones a
140 mlynedd ers agor Warws Brenhinol Cymreig Pryce-Jones Gwnaeth Huw Irranca-Davies
ddatganiad ar: Nodi diwrnod blynyddol Beicio i’r Senedd, a gaiff ei ddathlu
heddiw. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i Ethol Aelodau i’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad (5 munud) Dechreuodd
yr eitem am 15.07 NDM7157 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: Huw Irranca-Davies
(Llafur Cymru), Delyth Jewell (Plaid Cymru), a David Rowlands (Plaid Brexit) yn
aelodau o'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-19 NDM7148 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 18 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2. Yn cymeradwyo’r
argymhelliad yn yr adroddiad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.08 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7148 Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 18 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2. Yn cymeradwyo’r
argymhelliad yn yr adroddiad. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-19 NDM7149 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-19 a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 19 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2. Yn cymeradwyo’r
argymhelliad yn yr adroddiad. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.33 NDM7149 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-19 a osodwyd gerbron
y Cynulliad ar 19 Medi 2019 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2.
Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol NDM7143 David
Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r
rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol ledled
Cymru. 2. Yn nodi'r potensial
o ran yr economi, adfywio a thrafnidiaeth integredig o ail-agor hen linellau
rheilffordd a thwneli segur ledled Cymru. 3. Yn cydnabod yr
heriau ymarferol ac ariannol o ddod â seilwaith o'r fath yn ôl i ddefnydd. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i anelu at gael perchenogaeth ar seilwaith o'r fath a fyddai'n
helpu i chwilio am gyfleoedd ariannu. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i chwarae eu rhan wrth archwilio'r
cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith o'r fath ledled Cymru. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.38 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7143 David Rees (Aberafan) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi'r rhwydwaith cyfoethog ac amrywiol o seilwaith diwydiannol hanesyddol
ledled Cymru. 2.
Yn nodi'r potensial o ran yr economi, adfywio a thrafnidiaeth integredig o
ail-agor hen linellau rheilffordd a thwneli segur ledled Cymru. 3.
Yn cydnabod yr heriau ymarferol ac ariannol o ddod â seilwaith o'r fath yn ôl i
ddefnydd. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i anelu at gael perchenogaeth ar seilwaith o'r fath
a fyddai'n helpu i chwilio am gyfleoedd ariannu. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i chwarae eu rhan wrth
archwilio'r cyfleoedd ymarferol ar gyfer ailagor seilwaith o'r fath ledled
Cymru. Cyd-gyflwynwyr Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Deintyddiaeth yng Nghymru NDM7150 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Dechrau Ffres: Ymchwiliad i
ddeintyddiaeth yng Nghymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2019. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Gorffennaf
2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.34 NDM7150 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Dechrau
Ffres: Ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2019. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hybu'r Gymraeg NDM7151 Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a hybu’r Gymraeg a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.00 NDM7151 Bethan Sayed (Gorllewin De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a hybu’r Gymraeg a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau TGAU a Safon Uwch NDM7153 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi canlyniadau
TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru. 2. Yn gresynu bod
canlyniadau TGAU A*-C haf 2019 yn waeth na chanlyniadau haf 2007. 3. Yn gresynu
ymhellach at y gostyngiad yng nghanran y dysgwyr sy'n sicrhau graddau TGAU A*-C
mewn Saesneg, mathemateg a Chymraeg ail iaith. 4. Yn nodi bod ymchwil
Llywodraeth Cymru wedi canfod bod perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol
ar gyfer blynyddoedd 4-9 wedi dirywio. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch
yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu
siomi. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Ar ôl pwynt 1, dileu
popeth a rhoi yn ei le: Yn llongyfarch
disgyblion, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith caled ac am set gref o
ganlyniadau. Yn croesawu: a) bod canlyniadau
Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i fod ar y lefel uchaf yn eu hanes; b) bod Cymru wedi
gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a
Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am
y tro cyntaf erioed; c) bod y canlyniadau
TGAU yn gyffredinol wedi dangos gwelliant yr haf hwn; d) bod cynnydd o dros
50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod
cynnydd eleni yng nghanrannau’r disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C
mewn pynciau gwyddonol; e) bod nifer y
disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi
cynyddu 12.5 y cant; f) bod nifer y
disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod
2,800 yn rhagor wedi ennill graddau A*-C o gymharu â 2018. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwyntiau 2 a 3 a
rhoi yn eu lle: Yn credu nad oes modd
gwneud cymariaethau ystyrlon gyda chanlyniadau TGAU a safon uwch blynyddoedd
blaenorol am nifer o resymau. Gwelliant 3 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ôl pwynt 4 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn nodi canfyddiadau
Estyn fod disgyblion sy’n mynychu hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru yn
methu â chyrraedd eu llawn botensial erbyn yr amser iddynt adael yr ysgol. Yn credu fod y
berthynas rhwng disgybl ac athro yn allweddol i gyrhaeddiad academaidd a bod yn
rhaid ariannu ysgolion yn ddigonol er mwyn codi safonau. Yn galw am wella
amodau gwaith athrawon, gan ddileu biwrocratiaeth ac ymyrraeth diangen, er mwyn
cryfhau cyflawniad academaidd. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ddarparu cyllid digonol i’n hysgolion ac i symud gwariant tuag at wasanaethau
ataliol yn ei chyllideb nesaf, er mwyn creu’r amodau i’n disgyblion a’n
hathrawon lwyddo. Gwelliant 4 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ym mhwynt 5, dileu “i
gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad TGAU a safon uwch yn sylweddol yng
Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi” a rhoi yn
ei le “i ymddiheuro nad yw’r gyfundrefn addysg bresennol yn caniatáu i hanner
disgyblion ysgol Cymru gyrraedd eu llawn botensial”. Gwelliant 5 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod dysgwyr
TGAU a safon uwch Cymru yn cael eu niweidio gan newidiadau diweddar sy'n
glastwreiddio atebolrwydd ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r
duedd hon. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.36 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7153 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru. 2. Yn gresynu bod canlyniadau TGAU A*-C haf 2019 yn waeth na chanlyniadau
haf 2007. 3. Yn gresynu ymhellach at y gostyngiad yng nghanran y dysgwyr sy'n
sicrhau graddau TGAU A*-C mewn Saesneg, mathemateg a Chymraeg ail iaith. 4. Yn nodi bod ymchwil Llywodraeth Cymru wedi canfod bod perfformiad yn
erbyn dangosyddion allweddol ar gyfer blynyddoedd 4-9 wedi dirywio. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiant i wella cyrhaeddiad
TGAU a safon uwch yn sylweddol yng Nghymru ac ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni
ac ysgolion am eu siomi.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Ar ôl pwynt 1, dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff
ysgolion am eu gwaith caled ac am set gref o ganlyniadau. Yn croesawu: a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi
parhau i fod ar y lefel uchaf yn eu hanes; b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon
Uwch, mewn cymhariaeth â rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob
gradd ac wedi’i graddio’n gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed; c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi
dangos gwelliant yr haf hwn; d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr
ymgeiswyr ar gyfer TGAU gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng
nghanrannau’r disgyblion sy’n ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau
gwyddonol; e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C
yn y cwrs llawn Cymraeg fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant; f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU
Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu 22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi
ennill graddau A*-C o gymharu â 2018. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod
gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 ei ddad-ddethol. Gwelliant 5 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod dysgwyr TGAU a safon uwch Cymru yn
cael eu niweidio gan newidiadau diweddar sy'n glastwreiddio atebolrwydd
ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r duedd hon. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7153 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi canlyniadau TGAU a safon uwch yr haf hwn yng Nghymru. 2. Yn llongyfarch disgyblion, athrawon a staff ysgolion am eu gwaith
caled ac am set gref o ganlyniadau. 3. Yn croesawu: a) bod canlyniadau Safon Uwch yr haf hwn wedi parhau i fod ar y lefel
uchaf yn eu hanes; b) bod Cymru wedi gwella ei safle o ran Safon Uwch, mewn cymhariaeth â
rhanbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon, ar gyfer pob gradd ac wedi’i graddio’n
gyntaf ar gyfer A* am y tro cyntaf erioed; c) bod y canlyniadau TGAU yn gyffredinol wedi dangos gwelliant yr haf
hwn; d) bod cynnydd o dros 50 y cant yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer TGAU
gwyddoniaeth ers 2016, a bod cynnydd eleni yng nghanrannau’r disgyblion sy’n
ennill graddau A*-A ac A*-C mewn pynciau gwyddonol; e) bod nifer y disgyblion sy’n cael graddau A*-C yn y cwrs llawn Cymraeg
fel Ail Iaith wedi cynyddu 12.5 y cant; f) bod nifer y disgyblion a safodd TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu
22.8 y cant, a bod 2,800 yn rhagor wedi ennill graddau A*-C o gymharu â 2018.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y
gloch a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 18.38 ar gyfer y cyfnod
pleidleisio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7152 Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Gofalu am gartrefi
gofal: sut y gallem wneud mwy i ofalu am gartrefi gofal yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.42 NDM7152 Janet Finch-Saunders
(Aberconwy) Gofalu am gartrefi gofal: sut y gallem wneud mwy i ofalu
am gartrefi gofal yng Nghymru. |