Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 222(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Gofynnwyd cwestiynau 1-5, 8 a 9. Tynnwyd cwestiynau 6 a 7
yn ôl. Atebwyd cwestiynau 2 a 9 gan y Dirprwy Weinidog. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.19 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog Brexit ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Caiff y
cwestiwn hwn ei ateb gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adolygiad o ddatganoli a
gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Brif Weinidog y DU? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.05 I’w
cael gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit. Alun
Davies (Blaenau Gwent): A
wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr adolygiad o ddatganoli a gyhoeddwyd yr
wythnos diwethaf gan Brif Weinidog y DU? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.21 Gwnaeth Leanne Wood
ddatganiad am - Glyn Houston, actor o'r Rhondda. Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Parc Aberdâr
yn dathlu 150 mlynedd. Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad am - Tecwyn
Roberts o Landdaniel, Ynys Môn – a fu’n aelod blaengar o dîm NASA pan laniodd
Apollo 11 ar y lleuad ar 20 Gorffennaf 1969. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cynnig i ddirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019 NDM7106 Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2: Yn cytuno y dylid
dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio)
2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad
ar 6 Mehefin 2019. Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. NDM7106 Suzy Davies (Gorllewin De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2: Yn cytuno y dylid dirymu
Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mehefin 2019. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Cynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru NDM7116 Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar yr Ymchwiliad i Gynyrchiadau
Ffilm a Theledu Mawr yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 16 Mai 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.53. NDM7116 Bethan Sayed (Gorllewin
De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar yr Ymchwiliad i Gynyrchiadau
Ffilm a Theledu Mawr yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) NDM7115 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i
egwyddorion cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Gosodwyd y Bil
Senedd ac Etholiadau (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol
gerbron y Cynulliad ar 12 Chwefror 2019. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)
gerbron y Cynulliad ar 28 Mehefin 2019. Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. NDM7115 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion
cyffredinol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Gosodwyd y Bil Senedd ac
Etholiadau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 12 Chwefror 2019. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Blaid Cymru - Diwygio'r Cynulliad NDM7118 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw am
gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad. 2. Yn galw am
weithredu ar unwaith er mwyn cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad erbyn
dechrau’r Chweched Cynulliad. 3. Yn galw am ddiwygio
system etholiadol y Cynulliad a chyflwyno system pleidlais sengl drosglwyddadwy
o ethol Aelodau erbyn etholiadau nesaf y Cynulliad yn 2021. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le; Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y
panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. 2. Yn credu nad oes
awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng
Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar: a) deddfu cynigion
adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin; b) cyflymu'r broses o
ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Senedd
Sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi
Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion. 2. Yn cytuno bod angen
cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad. 3. Yn galw am ragor o
waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Senedd
sy'n Gweithio i Gymru - Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod heriau
sylweddol o ran capasiti Aelodau'r Cynulliad i ymgymryd â gwaith craffu
boddhaol ar ddeddfwriaeth a Llywodraeth Cymru. 2. Yn galw am i ymchwiliad
pellach i effaith unrhyw gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad ac a oes
cefnogaeth gyhoeddus i symudiad o'r fath. 3. Yn galw am unrhyw
gynnydd yn nifer Aelodau'r Cynulliad i gael ei ariannu drwy arbedion
cyffredinol i drethdalwyr, yn deillio o ganlyniad i leihad yn nifer gyffredinol
y cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru. 4. Yn galw ar i unrhyw
Aelodau Cynulliad ychwanegol gael eu hethol ar sail heb fod yn llai cyfrannol
na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd. Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7118 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw am gynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad. 2. Yn galw am weithredu ar unwaith er mwyn cynyddu’r nifer o Aelodau
Cynulliad erbyn dechrau’r Chweched Cynulliad. 3. Yn galw am ddiwygio system etholiadol y Cynulliad a chyflwyno system
pleidlais sengl drosglwyddadwy o ethol Aelodau erbyn etholiadau nesaf y
Cynulliad yn 2021.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu'r cyfan a rhoi
yn ei le; Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad y
panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad. 2. Yn credu nad oes
awydd ymysg y cyhoedd sy'n pleidleisio i gynyddu nifer y gwleidyddion yng
Nghymru ar hyn o bryd, ac y dylai ymdrechion ganolbwyntio yn hytrach ar: a) deddfu cynigion
adolygiad 2018 o Etholaethau Seneddol i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin; b) cyflymu'r broses o
ddiwygio etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi
Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion. 2. Yn cytuno bod angen
cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad. 3. Yn galw am ragor o
waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 2
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7118 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cyhoeddi
Senedd sy'n Gweithio i Gymru a'i hargymhellion. 2. Yn cytuno bod angen
cynnydd yn nifer yr Aelodau Cynulliad. 3. Yn galw am ragor o
waith trawsbleidiol i fwrw ymlaen â'r materion hyn.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.56 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7117 Jayne
Bryant (Gorllewin Casnewydd) Gofalu am ein
gofalwyr: Sicrhau'r gydnabyddiaeth, y seibiant a'r cymorth y mae ein gofalwyr
yn eu haeddu. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.00 NDM7117 Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Gofalu am ein gofalwyr:
Sicrhau'r gydnabyddiaeth, y seibiant a'r cymorth y mae ein gofalwyr yn eu
haeddu. |