Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 185(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf.. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.23

(45 munud)

3.

Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu: Papur Gwyn ar Gynigion ar gyfer Newid Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.02

(45 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau Iach: Cymru Iach - Ein huchelgeisiau cenedlaethol i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru

Dogfen Ategol
Pwysau Iach: Cymru Iach

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.07

(45 munud)

5.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Gwneud Cymru'n Genedl Noddfa

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.53

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 6, 7 ac 8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)

6.

Rheoliadau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

NDM6944 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.47

NDM6944 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7.

Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

NDM6945 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.

Datganiadau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

NDM6945 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

8.

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019

NDM6943 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018.  

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

NDM6943 - Rebecca Evans (Gŵyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Rhagfyr 2018. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

(60 munud)

9.

Dadl ar adroddiadau'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar barodrwydd ar gyfer Brexit

NDM6946 - David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit – adroddiad dilynol ar barodrwydd porthladdoedd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.

2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit – Adrodd ar barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2018.

3. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit - Adrodd ar barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymatebion Llywodraeth Cymru i'r adroddiadau yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ionawr 2019:

Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol sy'n dwyn y teitl Paratoi ar gyfer Brexit: Adroddiad dilynol ar barodrwydd Porthladdoedd Cymru

Ymateb Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Paratoi ar gyfer Brexit – Adroddiad ar barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru

Ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o’r teitl ‘Paratoi ar gyfer Brexit; Adroddiad ar barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru’

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.57

NDM6946 - David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit – adroddiad dilynol ar barodrwydd porthladdoedd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2018.

2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit – Adrodd ar barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Rhagfyr 2018.

3. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol o'r enw 'Paratoi ar gyfer Brexit - Adrodd ar barodrwydd y sector bwyd a diod yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2018.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog Dros Dro (5 munud)

Dechreuodd yr eitem am 18.39

NNDM6953 – Rebecca Evans (Gwŷr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar “Y Rhagolygon am Gytundeb Brexit yn dilyn y Bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin” gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 30 Ionawr 2019.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Nid oedd cyfnod pleidleisio.