Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 144(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1-5, 7 ac 8. Tynnwyd cwestiwn 6 yn
ôl. Atebwyd cwestiwn 3 gan Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a Gweinidog yr Amgylchedd
ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.18 Gofynnwyd y 7 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus Mick
Antoniw (Pontypridd): Pa asesiad
y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r goblygiadau i gyn-lowyr a'u
teuluoedd a chymunedau yng Nghymru sy'n deillio o benderfyniad Llywodraeth yr
Alban i gynnal ymchwiliad annibynnol ar effaith plismona yn ystod streic y
glowyr? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.12 Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Mick Antoniw (Pontypridd): Pa asesiad y mae
Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r goblygiadau i gyn-lowyr a'u teuluoedd a
chymunedau yng Nghymru sy'n deillio o benderfyniad Llywodraeth yr Alban i
gynnal ymchwiliad annibynnol ar effaith plismona yn ystod streic y glowyr? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.17 Gwnaeth
Ann Jones ddatganiad ar Cofio Grenfell. Gwnaeth
Jane Hutt ddatganiad ar Ymgyrch
ffynhonnau dŵr yn y Barri . |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig i ethol Aelodau i Gomisiwn y Cynulliad (5 munud) Dechreuodd yr eitem am 15.20 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6744 Elin Jones (Ceredigion) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Gwrthodwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru NDM6736
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau 'Bywyd ar y strydoedd: atal a mynd i’r afael â
chysgu ar y stryd yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ebrill
2018. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru ar 6 Mehefin 2018 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.25 NDM6736
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 'Bywyd ar
y strydoedd: atal a mynd i’r afael â chysgu ar y stryd yng Nghymru', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ebrill 2018. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru ar 6 Mehefin 2018 Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gofalwyr NDM6738 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi mai 11 - 17 Mehefin yw wythnos y gofalwyr 2018. 2.
Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru
gan y rolau y mae'r 370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu
cyflawni. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu polisi Ceidwadwyr Cymru ar grant
dyfodol gofalwyr ifanc, a fyddai'n sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu
cynorthwyo i ymgymryd ag addysg bellach ac uwch amser llawn a chyfleoedd
hyfforddi. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ffigurau yn nodi nifer y gofalwyr y mae
eu hanghenion wedi cael eu hasesu ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol
a Llesiant (Cymru) 2014, a faint o'r anghenion hynny a asewyd sydd wedi'u
diwallu. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hawl i gael seibiant ar gyfer gofalwyr
a'r rheini y maent yn gofalu amdanynt. Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Dileu’r
cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn
cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi
hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu hunain fel gofalwyr ac i
anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan awdurdodau lleol. Yn
croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr a
ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn sicrhau bod
gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud gwahaniaeth
gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn
credu os caiff y broses o weinyddu lles ei datganoli, y gellir dileu
anghysonderau o fewn y system fudd-daliadau sy’n cael gwared ar gymorth i
ofalwyr sy'n dymuno ymgymryd ag addysg a hyfforddiant. Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny: Yn
nodi bod y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, gyda'r twf mewn contractau dim
oriau ac interniaethau di-dâl fel rhan o lwybrau gyrfa, yn creu rhwystrau ar
gyfer gofalwyr ifanc sydd am fynd ar drywydd cyflogaeth am dâl a gyrfaoedd ochr
yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu. Gwelliant 4 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu
pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i'r
GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o
ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall. Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i osod cerrig milltir ar gyfer y grŵp cynghori
gofalwyr ifanc a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ei
gynnydd yn rheolaidd. Gwelliant 6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y broses
o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i drafnidiaeth
am bris gostyngol. Gwelliant 7 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i egluro faint o’r swm arfaethedig o £3 miliwn ar
gyfer gofal seibiant i ofalwyr a gaiff ei ddyrannu i ofalwyr ifanc. Gwelliant 8 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r canllawiau
ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran y bobl y
maent yn gofalu amdanynt. Gwelliant 9 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant
priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu
amdanynt. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.18 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6738 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi mai 11 - 17 Mehefin
yw wythnos y gofalwyr 2018. 2. Yn cydnabod y cyfraniad
hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru gan y rolau y mae'r
370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu cyflawni. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithredu polisi Ceidwadwyr Cymru ar grant dyfodol gofalwyr ifanc, a fyddai'n
sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cynorthwyo i ymgymryd ag addysg bellach
ac uwch amser llawn a chyfleoedd hyfforddi. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi ffigurau yn nodi nifer y gofalwyr y mae eu hanghenion wedi cael eu
hasesu ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a
faint o'r anghenion hynny a aseswyd sydd wedi'u diwallu. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno hawl i gael seibiant ar gyfer gofalwyr a'r rheini y maent yn gofalu
amdanynt.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu
hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan
awdurdodau lleol. Yn croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru
ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn
sicrhau bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud
gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Gwelliant 3 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol
â hynny: Yn nodi bod y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, gyda'r
twf mewn contractau dim oriau ac interniaethau di-dâl fel rhan o lwybrau gyrfa,
yn creu rhwystrau ar gyfer gofalwyr ifanc sydd am fynd ar drywydd cyflogaeth am
dâl a gyrfaoedd ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4 - Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu
pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i'r
GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o
ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i osod cerrig milltir ar gyfer y grŵp cynghori
gofalwyr ifanc a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ei
gynnydd yn rheolaidd. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant
6 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y
broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i
drafnidiaeth am bris gostyngol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Gwelliant
7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i egluro faint o’r swm arfaethedig o £3 miliwn ar gyfer
gofal seibiant i ofalwyr a gaiff ei ddyrannu i ofalwyr ifanc. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
Gwrthodwyd gwelliant 7. Gwelliant
8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r canllawiau
ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran y bobl y
maent yn gofalu amdanynt. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Gwelliant
9 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant
priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu
amdanynt. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
Derbyniwyd gwelliant 9. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi mai 11 - 17 Mehefin
yw wythnos y gofalwyr 2018. 2. Yn cydnabod y cyfraniad
hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru gan y rolau y mae'r
370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu cyflawni. 3.
Yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn
i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o
ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall. 4. Yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu
hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan
awdurdodau lleol. 5. Yn croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth
Cymru ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er
mwyn sicrhau bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn
gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru. 6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y
broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i
drafnidiaeth am bris gostyngol. 7.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r
canllawiau ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran
y bobl y maent yn gofalu amdanynt. 8.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant
priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu
amdanynt.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Ariannu Ysgolion NDM6739 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod yr argyfwng ariannu mewn ysgolion yng Nghymru. 2.
Yn nodi ei effaith ar lwythi gwaith athrawon, morâl y staff ac argaeledd
adnoddau ysgol sydd, yn ei dro, yn cael effaith andwyol ar addysg plant. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
dwyn ynghyd randdeiliaid allweddol yn y system addysg i ystyried modelau ariannu
amgen ar gyfer ysgolion; b)
sicrhau bod prosesau mor dryloyw â phosibl a lleihau biwrocratiaeth yn y broses
o ariannu ysgolion; ac c)
sicrhau bod pob ysgol yn cael digon o arian i ddarparu addysg o ansawdd uchel
ar gyfer pob disgybl. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i
gefnogi ysgolion a chodi safonau: a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint
dosbarthiadau babanod; b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i
leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau
ysgolion; c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn
yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol; d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau
athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a e) buddsoddi mwy na
£90 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf
difreintiedig Cymru. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant
2 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi bod y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn darparu tua £1.20
o gyllid i Gymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr. Gwelliant
3 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddwyn ynghyd randdeiliaid
allweddol yn y system addysg i ystyried: a) y ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu; a b) y ffyrdd y gellir symleiddio'r cyllidebau a ddyrennir
i awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion er mwyn lleihau biwrocratiaeth a
defnyddio'r gyllideb addysgol gyffredinol yn fwy effeithiol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.22 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6739 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr argyfwng
ariannu mewn ysgolion yng Nghymru. 2. Yn nodi ei effaith ar lwythi
gwaith athrawon, morâl y staff ac argaeledd adnoddau ysgol sydd, yn ei dro, yn
cael effaith andwyol ar addysg plant. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) dwyn ynghyd randdeiliaid
allweddol yn y system addysg i ystyried modelau ariannu amgen ar gyfer
ysgolion; b) sicrhau bod prosesau mor
dryloyw â phosibl a lleihau biwrocratiaeth yn y broses o ariannu ysgolion; ac c) sicrhau bod pob ysgol yn
cael digon o arian i ddarparu addysg o ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i
gefnogi ysgolion a chodi safonau: a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint
dosbarthiadau babanod; b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i
leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau
ysgolion; c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn
yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol; d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau
athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a e) buddsoddi mwy na
£90 miliwn yn y Grant Datblygu Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf
difreintiedig Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi bod y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru yn darparu tua £1.20
o gyllid i Gymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei
ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol i
gefnogi ysgolion a chodi safonau: a) darparu £36 miliwn ychwanegol i leihau maint
dosbarthiadau babanod; b) cefnogi’r broses o greu rheolwyr busnes ysgolion i
leihau llwyth gwaith diangen a chaniatáu i benaethiaid ganolbwyntio ar safonau
ysgolion; c) gweithio gyda’r proffesiwn i leihau biwrocratiaeth yn
yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â hybu dysgu proffesiynol; d) cynnig manteisio ar ddatganoli cyflogau ac amodau
athrawon fel cyfle i godi statws y proffesiwn addysgu; a e) buddsoddi mwy na £90 miliwn yn y Grant Datblygu
Disgyblion i gefnogi dysgwyr mwyaf difreintiedig Cymru.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.16 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6737
Sian
Gwenllian (Arfon) Rhannu swyddi Aelodau'r
Cynulliad: A fyddai caniatáu i Aelodau'r Cynulliad rannu swydd yn arwain at
greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd ac un mwy cynrychioliadol o’r boblogaeth
gyfan? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.22 NDM6737
Sian Gwenllian (Arfon) Rhannu
swyddi Aelodau'r Cynulliad: A fyddai caniatáu i Aelodau'r Cynulliad rannu swydd
yn arwain at greu Cynulliad cydradd o ran rhywedd ac un mwy cynrychioliadol o’r
boblogaeth gyfan. |