Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 122(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 28/02/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Arweinydd y Tŷ ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.21 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.06 Gofynnwyd y 3 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni
dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.16 Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad ar Aber-porth di-blastig Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar Mis Hanes LGBT 2018 Gwnaeth Darren Millar ddatganiad ar y Brecwast
Gweddi Seneddol Gŵyl Ddewi Cychwynnol |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd NDM6663 Mick
Antoniw (Pontypridd)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.21 NDM6663 Mick Antoniw (Pontypridd) Yn cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i
Lywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2018. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ad-drefnu gweinidogol: adroddiad yr Ysgrifennydd Parhaol NDM6668 Paul
Davies (Preseli Penfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru
i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i
fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth
y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd - hynny yw, y datgelwyd
gwybodaeth heb ganiatâd - gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu
gweinidogol diweddar. ITV Cymru
- Leak inquiry clears First Minister - 25 Ionawr 2018 (Saesneg
yn unig) Wales Online
- Outside the headlines: Politics updates from Cardiff Bay, Westminster
and our town halls - 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig) Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.02 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6668 Paul
Davies (Preseli Penfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r
golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys,
yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd
gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd - hynny yw, y datgelwyd
gwybodaeth heb ganiatâd - gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu
gweinidogol diweddar.
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Darlledu NDM6669 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i
gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw yng Nghymru; 2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV Cymru a'r
toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr bresennol; 3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar radio
masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion Llywodraeth y DU i
ddad-reoleiddio'r farchnad radio ymhellach; 4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau technolegau
cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach o
blatfformau a dulliau o gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys; 5. Yn cytuno y dylai fod ystyriaeth lawn o ddatganoli cyfrifoldebau dros
ddarlledu i Gymru; 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ymarferoldeb datganoli pwerau
dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i’r Cynulliad o fewn blwyddyn. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu Pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle: Yn nodi y parheir i ddisgwyl i’r Adran
Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o
S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams. Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i
sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n
ddigonol. Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i
holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch
gwaith. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei dad-ddethol] Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 6 a rhoi yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i hyfywedd datganoli pwerau dros
ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn blwyddyn. Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o
arian i S4C er mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau. Gwelliant 4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r
rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi
i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod
i feddiant S4C yn dilyn adolygiad Ogwen.
Gwelliant 5. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a
chomisiynu yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd. Gwelliant 6. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod system ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa
i gyrraedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o
ddatganoli, er ei bod wedi methu â gwneud hynny hyd yma. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.40 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6669 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw
yng Nghymru. 4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau
technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach
o blatfformau a dulliau o gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu Pwyntiau 5 a 6 a
rhoi yn eu lle: Yn nodi y parheir i
ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r
adolygiad annibynnol o S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams. Yn galw ar Lywodraeth y
DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n
cael ei gyllido’n ddigonol. Yn cydnabod y dylai
darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol
y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei dad-ddethol. Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r rhwymedigaeth
statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er mwyn iddi
gyflawni ei phwrpasau. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn galw ar Lywodraeth Cymru
a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU
i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu
unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn dilyn adolygiad
Ogwen. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Yn nodi'r
rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y
cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant 6. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn nodi bod system ddarlledu
genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl genhedloedd a
rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi methu â
gwneud hynny hyd yma. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6669 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd democratiaeth hyfyw
yng Nghymru. 4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn natblygiadau
technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a Chymreig fod ar nifer helaethach
o blatfformau a dulliau o gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys. 6. Yn galw ar Lywodraeth
y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n
cael ei gyllido’n ddigonol. 7. Yn cydnabod y dylai darlledwyr
gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas
Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith. 8. Yn nodi'r
rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er
mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau. 9. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar
Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion
er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn
dilyn adolygiad Ogwen. 10. Yn nodi'r
rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y
cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd. 11. Yn nodi bod system
ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl
genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi
methu â gwneud hynny hyd yma.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Parhau ag aelodaeth o’r Undeb Tollau NDM6670 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi parhad aelodaeth Cymru a'r Deyrnas
Unedig o undeb tollau presennol yr UE, yn hytrach nag undeb tollau newydd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi cytundeb Cymru a'r Deyrnas Unedig ar drefniant tollau newydd
rhwng y DU a'r UE, gyda gofynion tollau sydd mor llyfn â phosibl; gan adeiladu
perthynas newydd o ran yr economi a diogelwch gyda'r UE tra'n galluogi'r DU i
wneud cytundebau masnach rhyngwladol newydd.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei dad-ddethol] Gwelliant 2. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn ailddatgan ei gefnogaeth i weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i
gymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn Undeb Tollau gyda’r UE, er mwyn
integreiddio gydag economïau ein cymdogion agosaf gymaint ag sy’n bosib wrth
beidio â bod yn aelod-wladwriaeth o’r UE. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.09 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6670 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi parhad aelodaeth Cymru a'r Deyrnas Unedig o undeb tollau
presennol yr UE, yn hytrach nag undeb tollau newydd.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cefnogi
cytundeb Cymru a'r Deyrnas Unedig ar drefniant tollau newydd rhwng y DU a'r UE,
gyda gofynion tollau sydd mor llyfn â phosibl; gan adeiladu perthynas newydd o ran
yr economi a diogelwch gyda'r UE tra'n galluogi'r DU i wneud cytundebau masnach
rhyngwladol newydd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
ailddatgan ei gefnogaeth i weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i gymryd rhan
yn y Farchnad Sengl ac mewn Undeb Tollau gyda’r UE, er mwyn integreiddio gydag
economïau ein cymdogion agosaf gymaint ag sy’n bosib wrth beidio â bod yn
aelod-wladwriaeth o’r UE. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6670 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
ailddatgan ei gefnogaeth i weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i gymryd
rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn Undeb Tollau gyda’r UE, er mwyn integreiddio
gydag economïau ein cymdogion agosaf gymaint ag sy’n bosib wrth beidio â bod yn
aelod-wladwriaeth o’r UE.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.44 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Yn dilyn pleidlais y Cynulliad o blaid y cynnig a
gyflwynwyd ar y cyd gan Paul Davies a Rhun ap Iorwerth yn galw ar yr
Ysgrifennydd Parhaol i gyhoeddi ei hadroddiad diweddar ar ddatgelu gwybodaeth
heb ganiatâd am ad-drefnu’r Cabinet, cododd Paul Davies Bwynt o Drefn i geisio
cyfarwyddyd gan y Llywydd ar statws y bleidlais honno ac a ddylid ei pharchu.
Nododd y Llywydd fod unrhyw bleidlais y Cynulliad Cenedlaethol yn bwysig ac yn
cael effaith, a phenderfyniad y Llywodraeth ydyw nawr i benderfynu sut y mae’n
dewis ymateb; er y byddai’n disgwyl i’r Llywodraeth gymryd unrhyw benderfyniad
a gaiff ei basio gan y senedd hon o ddifrif. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Dadl Fer - gohiriwyd tan 14 Mawrth |