Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 114(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/01/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiad y Llywydd Cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod
Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a Deddf
Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 wedi cael Cydsyniad
Brenhinol y diwrnod hwnnw. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-2, 4, a 6-10. Cafodd cwestiynau 6 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Tynnwyd cwestiynau 3 a 5 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Arweinydd y Tŷ ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.20 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.08 Gofynnwyd y 6 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff
Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynigion newid gwasanaeth mwyaf diweddar
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a allai arwain at gau Ysbyty Llwyn Helyg yn y
dyfodol? Gofyn
i Brif Weinidog Cymru (i’w ateb gan y Gweinidog Tai ac Adfywio): Neil McEvoy
(Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniad
Llywodraeth Cymru i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn dau gwmni mewn perthynas
â gwerthu tir drwy Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.30 Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynigion newid gwasanaeth mwyaf
diweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a allai arwain at gau Ysbyty Llwyn
Helyg yn y dyfodol? Gofyn
i Brif Weinidog Cymru (atebwyd gan y Gweinidog Tai ac Adfywio): Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y
Prif Weinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i gymryd camau
cyfreithiol yn erbyn dau gwmni mewn perthynas â gwerthu tir drwy Gronfa Buddsoddi
Cymru mewn Adfywio? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.01 Gwnaeth
Jane Hutt ddatganiad i nodi 40 mlwyddiant Cymorth i Ferched Cymru. Gwnaeth
Julie Morgan ddatganiad ar Wasanaeth Coffa’r Holocost y Sipsiwn a Theithwyr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth NDM6632
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr amcangyfrifon
ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.04 NDM6632
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar yr amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda
deddfwriaeth, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru NDM6634
Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau ar Fargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Tachwedd 2017. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Ionawr
2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.43 NDM6634 Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau ar Fargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Tachwedd 2017. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6631
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu bod 'Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr
economi' gan Lywodraeth Cymru yn methu â darparu strategaeth gynhwysfawr ar
gyfer cyflawni ffyniant economaidd yng Nghymru. Ffyniant
i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu: a) na fydd Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr
Economi gan Lywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i
ffyniant economaidd yng Nghymru; b) y caiff ffyniant economaidd Cymru hefyd ei
lesteirio gan Lywodraeth y DU yn camddyrannu gwariant cyhoeddus ar gymorth
tramor nad yw'n ddyngarol, cymorthdaliadau gwyrdd, taliadau llog ar y
ddyled genedlaethol a phrosiectau oferedd fel HS2; a c) tra y gallai gwariant ar y GIG a gwasanaethau
cyhoeddus eraill gael ei gynyddu'n sylweddol os byddai gwariant yn cael ei
ddargyfeirio o'r blaenoriaethau cyfeiliornus hyn, bydd tlodi cymharol Cymru fel
cenedl dim ond yn cael ei unioni gan bolisi economaidd tymor hir sy'n
seiliedig ar drethi is a rheoleiddio gweithgarwch busnes mewn ffordd fwy
cymesur. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei dad-ddethol] Gwelliant
2: Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu
hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a
datgarboneiddio. 2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a
gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru
drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd. 3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd
newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy
sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi
amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru. 4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun
sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng
diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno
twf economaidd cynhwysol. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth
ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.42 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6631 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu bod 'Ffyniant i Bawb:
y cynllun gweithredu ar yr economi' gan Lywodraeth Cymru yn methu â darparu
strategaeth gynhwysfawr ar gyfer cyflawni ffyniant economaidd yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu: a) na fydd Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr
Economi gan Lywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol i
ffyniant economaidd yng Nghymru; b) y caiff ffyniant economaidd Cymru hefyd ei lesteirio
gan Lywodraeth y DU yn camddyrannu gwariant cyhoeddus ar gymorth tramor nad
yw'n ddyngarol, cymorthdaliadau gwyrdd, taliadau llog ar y ddyled
genedlaethol a phrosiectau oferedd fel HS2; a c) tra y gallai gwariant ar y GIG a gwasanaethau
cyhoeddus eraill gael ei gynyddu'n sylweddol os byddai gwariant yn cael ei
ddargyfeirio o'r blaenoriaethau cyfeiliornus hyn, bydd tlodi cymharol Cymru fel
cenedl dim ond yn cael ei unioni gan bolisi economaidd tymor hir sy'n seiliedig
ar drethi is a rheoleiddio gweithgarwch busnes mewn ffordd fwy cymesur. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2: Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu
hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a
datgarboneiddio. 2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a
gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru
drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd. 3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd
newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy
sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi
amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru. 4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun
sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng
diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno
twf economaidd cynhwysol. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth
ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6631 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu
hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a
datgarboneiddio. 2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd
yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru drwy sicrhau
bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd. 3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd
newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy
sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi
amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru. 4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun
sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng
diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno
twf economaidd cynhwysol. 5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth
ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.48 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6633
Sian
Gwenllian (Arfon) Canrif ers i fenywod gael yr hawl i bleidleisio, ond ydy
Cymru heddiw yn gydradd? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.51 NDM6633
Sian Gwenllian (Arfon) Canrif
ers i fenywod gael yr hawl i bleidleisio, ond ydy Cymru heddiw yn gydradd? |