Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 96(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/10/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

Gofynnwyd cwestiynau 1-5 a 7-12. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran cyflwyno ateb tymor hir i’r costau yswiriant meddygol uchel sy'n wynebu meddygon teulu yng Nghymru?

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (i’w ateb gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol):

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am ddiogelu plant ym Mhowys?

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.03

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o ran cyflwyno ateb tymor hir i’r costau yswiriant meddygol uchel sy'n wynebu meddygon teulu yng Nghymru?

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (atebwyd gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol):

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am adroddiad diweddar Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am ddiogelu plant ym Mhowys?

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.29

Gwnaeth Hefin David ddatganiad ar Gofeb Genedlaethol Lofaol Cymru yn Senghennydd.

Gwnaeth Jeremy Miles ddatganiad ar ganmlwyddiant y Blaid Gydweithredol.

Gwnaeth Bethan Jenkins ddatganiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd.

(5 munud)

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 15.34

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau canlynol gyda'i gilydd, ond gyda phleidleisiau ar wahân.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynigion o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM6541 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Neil McEvoy (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

10

0

49

Derbyniwyd y cynnig.

NDM6542 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

10

0

49

Derbyniwyd y cynnig.

NDM6543 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Adam Price (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

10

0

50

Derbyniwyd y cynnig.

(5 munud)

Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau

Dechreuodd yr eitem am 15.43

Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau canlynol gyda'i gilydd, a chytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.40 i grwpio’r pleidleisiau ar y cynigion.

NDM6544 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn lle Sian Gwenllian (Plaid Cymru).

NDM6545 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Sian Gwenllian (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).

Derbyniwyd y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

5.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas ag Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau'r Cynulliad

NDM6535 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B - Uwch-fwyafrifoedd ar gyfer Biliau'r Cynulliad' a osodwyd​ yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Hydref 2017; ac

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

NDM6527

Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David Melding (Canol De Cymru)
Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod cyflymder y chwyldro mewn technoleg drafnidiaeth yn herio rhagdybiaethau cynllunio presennol ac yn golygu bod angen ail-feddwl dylunio a pholisi cyhoeddus yn sylweddol.

2. Yn credu y bydd angen i weithgynhyrchwyr trafnidiaeth a'u cadwyni cyflenwi addasu neu farw wrth i'r motor tanio gael ei ddiddymu'n raddol dros yr 20 mlynedd nesaf o ganlyniad i:

a) cerbydau heb yrwyr, a fydd yn amharu ar dybiaethau ynghylch y berchnogaeth breifat o geir, cynllunio trefol, rheoli tagfeydd ar y ffyrdd a rôl bysiau i gysylltu cymunedau; a

b) cerbydau trydan, sy'n golygu bod angen i drydan gael ei gynhyrchu a'i gyflenwi mewn ffordd fwy gwasgaredig gan gynnwys pwyntiau trydanu ledled Cymru;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i alinio polisïau â chyflymder y newid a sicrhau bod pob dinesydd yn cael budd o hyn, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'

Cefnogwyd gan
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)​

7.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM6534 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru; a

b) ymestyn cymhwysedd ar gyfer breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus.

2. Yn nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau.

3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion.

4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu'n helaeth â phobl ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy, integredig ac amlfoddol.

'Ymgynghoriad: Teithiau bws rhatach ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru'

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.32

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6534 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymestyn cymhwysedd ar gyfer hawlio teithiau bws am ddim i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru; a

b) ymestyn cymhwysedd ar gyfer breintiau cerdyn rheilffordd i bob person rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

26

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd economaidd, addysgol a chymdeithasol helpu pobl ifanc â chostau cludiant cyhoeddus.

2. Yn nodi'r ymgynghoriad a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun Pas Teithio newydd ac uchelgeisiol i Bobl Ifanc sy'n annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio'r bysiau.

3. Yn cydnabod bod angen costio unrhyw gynigion.

4. Yn nodi pwysigrwydd ymgysylltu'n helaeth â phobl ifanc, awdurdodau lleol, darparwyr addysg a chwmnïau bysiau i sicrhau bod y ddarpariaeth, o'i hehangu, yn targedu'r rheini sydd angen yr help fwyaf.

5. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru trwy Trafnidiaeth i Gymru i annog mwy o bobl ifanc i ddefnyddio rhwydwaith cludiant cynaliadwy, integredig ac amlfoddol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

8

16

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

1

0

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

(60 munud)

8.

Dadl Plaid Cymru

NDM6536 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi Gogledd Cymru.

2. Yn gresynu at danariannu hanesyddol yng ngogledd Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru.

3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol ar gyfer gogledd Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, gan gynnwys:

a) gwell cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de;

b) cyllid i gefnogi dylunio a datblygu trydydd croesiad dros y Fenai;

c) cyllid i fwrw ymlaen â chanlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ynghylch creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yng ngogledd Cymru;

d) sefydlu cynllun grant ffermwyr ifanc a fydd o fudd i'r diwydiant amaethyddol yng ngogledd Cymru;

e) creu cronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru;

f) rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol, y mae sawl un ohonynt yng ngogledd Cymru;

g) cyllid ychwanegol ar gyfer Croeso Cymru a fydd yn hwb i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno, fel rhan o'i strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhanbarthol yn economi Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi'r Gogledd i Gymru a'r DU.

2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.

3. Yn croesawu'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys:

a) buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494;

b) £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch;

c) £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain; a

d) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai.

4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant dur, sy'n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i'r gwaith, cymuned a gweithwyr yn Shotton.

5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r Gogledd Orllewin.

6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid Cymru.

7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun Gweithredu Economaidd yn ei flaen a all gynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-dethol]

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 3.

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod "gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd" ac yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth.

'Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru - Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru'

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM6536 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r angen i gryfhau perfformiad economi Gogledd Cymru.

2. Yn gresynu at danariannu hanesyddol yng ngogledd Cymru gan Lywodraeth Lafur Cymru.

3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru yn sicrhau buddsoddiad sylweddol ar gyfer gogledd Cymru fel rhan o gytundeb y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19 a 2019/20, gan gynnwys:

a) gwell cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a'r de;

b) cyllid i gefnogi dylunio a datblygu trydydd croesiad dros y Fenai;

c) cyllid i fwrw ymlaen â chanlyniad yr astudiaeth ddichonoldeb ynghylch creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yng ngogledd Cymru;

d) sefydlu cynllun grant ffermwyr ifanc a fydd o fudd i'r diwydiant amaethyddol yng ngogledd Cymru;

e) creu cronfa ddatblygu ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig yng ngogledd Cymru;

f) rhyddhad ardrethi o 100 y cant ar gyfer cynlluniau ynni dŵr cymunedol, y mae sawl un ohonynt yng ngogledd Cymru;

g) cyllid ychwanegol ar gyfer Croeso Cymru a fydd yn hwb i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno, fel rhan o'i strategaeth economaidd hir-ddisgwyliedig, ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhanbarthol yn economi Cymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

8

0

42

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi'r Gogledd i Gymru a'r DU.

2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.

3. Yn croesawu'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys:

a) buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494;

b) £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch;

c) £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain; a

d) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai.

4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant dur, sy'n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i'r gwaith, cymuned a gweithwyr yn Shotton.

5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r Gogledd Orllewin.

6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid Cymru.

7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun Gweithredu Economaidd yn ei flaen a all gynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

24

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod "gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd" ac yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol hanfodol economi'r Gogledd i Gymru a'r DU.

2. Yn nodi rôl Llywodraeth Cymru fel arweinydd trawsffiniol i ddatblygu cynigion â phartneriaid ar gyfer Bargen Twf y Gogledd.

3. Yn croesawu'r rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol o dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn y rhanbarth, sy'n cynnwys:

a) buddsoddi £250m yng nghoridor yr A55/A494;

b) £20m i sefydlu Athrofa Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch;

c) £50m ar gyfer Metro'r Gogledd Ddwyrain; a

d) cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai.

4. Yn croesawu cymorth cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant dur, sy'n helpu i roi dyfodol cynaliadwy i'r gwaith, cymuned a gweithwyr yn Shotton.

5. Yn nodi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect gwerth £14 biliwn Wylfa Newydd a gwaith i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gadael gwaddol gynaliadwy o swyddi, seilwaith a thai o ansawdd da yn Ynys Môn a'r Gogledd Orllewin.

6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar â Phlaid Cymru.

7. Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddod â Cynllun Gweithredu Economaidd yn ei flaen a all gynnal swyddi a thwf yn y rhanbarth.

8. Yn nodi bod dogfen Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 'Gweledigaeth ar gyfer Twf yr Economi yng Ngogledd Cymru', yn nodi bod "gogledd Cymru mewn lle da i dderbyn ystod o gyfrifoldebau newydd" ac yn cymeradwyo ei alwad am ddatganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru dros gyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

8

14

50

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

9.

Cyfnod Pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.20

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

10.

Dadl Fer

NDM6533 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Diogelu a hawliau cleifion yn y GIG yng Nghymru - cynorthwyo'r dioddefwr

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.25