Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 65(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/05/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.15

(45 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad Tueddiadau Tebygol y Dyfodol gan Lywodraeth Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.39

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Gêm Derfynol Cynghrair y Pencampwyr

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.14

(5 munud)

5.

Cynnig i amrywio trefn y gwelliannau ar gyfer Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

NDM6293 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)  yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:

(a) adrannau  3 - 26

(b) adran 2

(c) adrannau  27 - 52

(d) adrannau  54 - 91

(e) adran 53

(f) adrannau  92 – 124

(g) Atodlenni 1 – 4

(h) adran 1

(i)Teitl Hir 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.53

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

6.

Dadl: Gwasanaethau diabetes yng Nghymru

NDM6292 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi'i ddiweddaru a'r meysydd blaenoriaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddar i:

a. wella safon gofal diabetes ym mhob rhan o'r system iechyd a lleihau'r amrywiaeth o ran arferion gofal;

b. cefnogi'r sector gofal sylfaenol i reoli diabetes a chwblhau prosesau gofal allweddol;

c. galluogi pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well a lleihau'r perygl y byddant yn cael cymhlethdodau; a

d. defnyddio gwybodeg i sicrhau gwell integreiddio o ran gwasanaethau i bobl sydd â diabetes.

 Y Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes 2016-2020 a’r Adroddiad Blynyddol

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mor bwysig yw rhaglenni addysg strwythuredig i helpu pobl i reoli diabetes, ac yn gresynu na all dros 50 y cant o blant a phobl ifanc cymwys gymryd rhan yn y rhaglenni hyn ar hyn o bryd.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod mor bwysig yw mynd i'r afael â gordewdra o ran atal diabetes math 2.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6292 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi'i ddiweddaru a'r meysydd blaenoriaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddar i:

a. wella safon gofal diabetes ym mhob rhan o'r system iechyd a lleihau'r amrywiaeth o ran arferion gofal;

b. cefnogi'r sector gofal sylfaenol i reoli diabetes a chwblhau prosesau gofal allweddol;

c. galluogi pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well a lleihau'r perygl y byddant yn cael cymhlethdodau; a

d. defnyddio gwybodeg i sicrhau gwell integreiddio o ran gwasanaethau i bobl sydd â diabetes.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mor bwysig yw rhaglenni addysg strwythuredig i helpu pobl i reoli diabetes, ac yn gresynu na all dros 50 y cant o blant a phobl ifanc cymwys gymryd rhan yn y rhaglenni hyn ar hyn o bryd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

28

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod mor bwysig yw mynd i'r afael â gordewdra o ran atal diabetes math 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

1

48

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6292 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi'i ddiweddaru a'r meysydd blaenoriaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddar i:

a. wella safon gofal diabetes ym mhob rhan o'r system iechyd a lleihau'r amrywiaeth o ran arferion gofal;

b. cefnogi'r sector gofal sylfaenol i reoli diabetes a chwblhau prosesau gofal allweddol;

c. galluogi pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well a lleihau'r perygl y byddant yn cael cymhlethdodau;

d. defnyddio gwybodeg i sicrhau gwell integreiddio o ran gwasanaethau i bobl sydd â diabetes; a

e. yn cydnabod mor bwysig yw mynd i'r afael â gordewdra o ran atal diabetes math 2.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

1

50

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

7.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.36

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: