Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 6(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/06/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
cwestiynau 1 i 2 a 4 i 7. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1 a 7
gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 16.1 i sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro NDM6023 Elin Jones (Ceredigion) Yn sefydlu Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro i gyflawni swyddogaethau'r
pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac ystyried unrhyw fater
cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall sydd o fewn cymhwysedd y
Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y
Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd deddfwriaeth. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.04 NDM6023 Elin
Jones (Ceredigion) Yn
sefydlu Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro i gyflawni
swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac
ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol, deddfwriaethol neu lywodraethol arall
sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig
â chymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd
deddfwriaeth. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(5 munud) |
Cynnig i Ethol Aelodau i Bwyllgor NDM6028 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: (i) Huw Irranca-Davies
(Llafur Cymru), Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), David Melding (Ceidwadwyr
Cymreig) a Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig) yn aelodau o'r
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro; a (ii) David Melding
(Ceidwadwyr Cymreig) yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol dros dro. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.04 NDM6028 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol: (i)
Huw Irranca-Davies (Llafur Cymru), Dafydd Elis-Thomas (Plaid Cymru), David
Melding (Ceidwadwyr Cymreig) a Michelle Brown (Plaid Annibyniaeth y Deyrnas
Unedig) yn aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros
dro; a (ii)
David Melding (Ceidwadwyr Cymreig) yn Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dros dro. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6020 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu y byddai
Cymru'n gryfach, yn ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai'n parhau'n rhan
o'r Undeb Ewropeaidd. Cefnogir gan: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.06 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: NDM6020 Eluned Morgan (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Dawn Bowden (Merthyr
Tudful a Rhymni) Dafydd Elis-Thomas
(Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu y byddai Cymru'n gryfach, yn
ddiogelach ac yn fwy llewyrchus pe byddai'n parhau'n rhan o'r Undeb Ewropeaidd. Cefnogir gan: David Melding (Canol De
Cymru) R
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6021 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi llwyddiannau enfawr
tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth gymryd rhan ym mhencampwriaeth Euro 2016
yn Ffrainc ar hyn o bryd.
3. Yn mynegi pryder at
ganfyddiadau Arolwg Iechyd diweddar Llywodraeth Cymru, a oedd yn pwysleisio
maint yr heriau o ran iechyd y cyhoedd sy'n wynebu Cymru ac a ganfu bod 24 y
cant o oedolion yn cael eu hystyried yn ordew a bod 59 y cant o oedolion yn
cael eu hystyried i fod dros eu pwysau neu'n ordew. 4. Yn credu bod yn rhaid
i Lywodraeth Cymru weithio gyda chyrff llywodraethu a phartneriaid allweddol i
ddefnyddio digwyddiadau fel y ffaith bod Cymru wedi cyrraedd y rowndiau
terfynol, ac wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth Euro 2016, i wella iechyd y
cyhoedd ac ysgogi mwy o gyfranogid mewn gweithgarwch corfforol. Cyflwynwyd y Gwelliant a
ganlyn: Gwelliant 1 - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Yn gresynu at doriadau i
chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.01 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6021 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi llwyddiannau enfawr tîm
pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth gymryd rhan ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn
Ffrainc ar hyn o bryd. 3. Yn mynegi pryder at ganfyddiadau Arolwg
Iechyd diweddar Llywodraeth Cymru, a oedd yn pwysleisio maint yr heriau o ran
iechyd y cyhoedd sy'n wynebu Cymru ac a ganfu bod 24 y cant o oedolion yn cael
eu hystyried yn ordew a bod 59 y cant o oedolion yn cael eu hystyried i fod
dros eu pwysau neu'n ordew. 4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru
weithio gyda chyrff llywodraethu a phartneriaid allweddol i ddefnyddio
digwyddiadau fel y ffaith bod Cymru wedi cyrraedd y rowndiau terfynol, ac wedi
cymryd rhan yng nghystadleuaeth Euro 2016, i wella iechyd y cyhoedd ac ysgogi
mwy o gyfranogid mewn gweithgarwch corfforol.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6022 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) 2. Yn gresynu bod datganoli
plismona wedi'i hepgor; 3. Yn gresynu at fethu â
sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol benodol neu ar wahân; ac 4. Yn gresynu at y cyfle
a gollwyd i ddatganoli gweinyddu cyfiawnder. Cyflwynwyd y Gwelliant a
ganlyn: Gwelliant
1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r Bil fel
sylfaen ar gyfer setliad cyfansoddiadol llawnach. Yn cymeradwyo
datganiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gydweithredu yn ystod y
broses ddeddfwriaethol i sicrhau'r canlyniad gorau i bobl Cymru. Yn credu bod y Bil yn
cynnig cyfle i sicrhau gwell cydbwysedd i gyfansoddiad Prydain a thrwy hynny
gryfhau'r Undeb. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.56 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6022 Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) 2. Yn gresynu bod datganoli plismona wedi'i
hepgor; 3. Yn gresynu at fethu â sefydlu
awdurdodaeth gyfreithiol benodol neu ar wahân; ac 4. Yn gresynu at y cyfle a gollwyd i
ddatganoli gweinyddu cyfiawnder.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.55 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6024 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Cyflawni dyfodol ynni
craffach i Gymru: Blaenoriaethau polisi ynni ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.58 NDM6024 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Cyflawni dyfodol ynni craffach i Gymru:
Blaenoriaethau polisi ynni ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru. |