Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 2(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30. Yn dilyn y cyfarfod ar 11 Mai 2016, parhaodd y Llywydd gyda phroses
enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8. Gofynnodd y Llywydd am gadarnhad bod enwau Carwyn Jones a Leanne Wood yn
parhau. Tynnodd Rhun ap Iorwerth enwebiad Leanne Wood yn ôl. Pwynt o Drefn Cododd Mark Reckless bwynt o drefn ynghylch tynnu enwebiad Leanne Wood fel
Prif Weinidog yn ôl gan ddyfynnu Rheol Sefydlog 8.3 bod yn rhaid cynnal
pleidlais arall drwy alw'r gofrestr pe byddai'r pleidleisiau'n gyfartal.
Dyfarnodd y Llywydd y byddai'n afresymol gorfodi unrhyw un nad oedd bellach yn
dymuno cael ei enwebu fel Prif Weinidog i fod yn ymgeisydd ac nad oedd
darpariaeth yn y Rheolau Sefydlog i ail-agor yr enwebiadau wedi iddynt gael eu
cau. Yn unol ag Adran 47(4) o Ddeddf Llywodraeth Cymru, dywedodd y Llywydd y
byddai'n argymell i'w Mawrhydi y dylid penodi Carwyn Jones yn Brif
Weinidog. Gwahoddodd y Llywydd Carwyn Jones i annerch y Cynulliad, a dilynwyd ef gan
arweinwyr y gwrthbleidiau. |
|
Cynnig o dan Rheol Sefydlog 12.10(ii) i ddwyn ymlaen y Cwestiynau i’r Prif Weinidog i’r Cyfarfod Llawn nesaf Yn
unol â Rheol Sefydlog 12.10, gall y Cynulliad ystyried hefyd:
(i) unrhyw fusnes o dan Reol
Sefydlog 12.16; a
(ii)
unrhyw fusnes arall y mae’r Cynulliad yn cytuno arno drwy benderfyniad.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.03. Cyflwynodd Jane Hutt gynnig heb rybudd o dan Reol Sefydlog 12.10(ii) i
ddwyn ymlaen y cwestiynau i’r Prif Weinidog i’r cyfarfod llawn nesaf ar 24 Mai
2016, yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36. Daeth y
cyfarfod i ben am 14.04 Bydd y
Cynulliad yn eistedd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13.30 ddydd Mawrth 24 Mai 2016
yn amodol ar gymeradwyaeth Ei Mawrhydi o enwebiad y Prif Weinidog. |