Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Amseriad disgwyliedig: 328(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 09/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r
Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||
(60 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau
am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 9 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif
Weinidog ar ôl cwestiwn 2. Atebodd y Dirprwy Weinidog
a’r Prif Chwip cwestiynau 1-2 a 4-6 am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion
yn ymwneud â’i chyfrifoldebau. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. |
|||||||||
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.50 |
|||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.13 |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 NDM7614 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)
(Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2021. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.35 NDM7614 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio)
(Rhif 4) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Chwefror 2021. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(0 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 5-8 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân - Gohiriwyd tan 16 Mawrth 2021 |
|||||||||
Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Diwygio Targed Allyriadau 2050) 2021 Ni chyflwynwyd cynnig. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon. |
||||||||||
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) (Diwygio) 2021 Ni chyflwynwyd cynnig. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon. |
||||||||||
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) (Diwygio) 2021 Ni chyflwynwyd cynnig. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon. |
||||||||||
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2021 Ni chyflwynwyd cynnig. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem hon. |
||||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021 NDM7616 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf
Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch
Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn
unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021. Dogfennau Ategol Adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.44 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7616 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau sy’n
ddarostyngedig i ddyletswydd ynghylch Anghydraddoldebau
Economaidd-gymdeithasol) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(15 munud) |
Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 NDM7615 Rebecca Evans
(Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1.
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 yn cael ei llunio yn unol
â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 9 Chwefror 2021. Dogfennau Ategol Adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.48 NDM7615 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog
27.5: 1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Llywodraeth Leol
ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 yn cael ei llunio yn
unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Chwefror 2021. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl: Trydedd Gyllideb Atodol 2020-21 NDM7622 Rebecca Evans
(Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 20.30: 1. Yn cymeradwyo'r Drydedd
Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2021. 2. Yn nodi bod y
categori adnoddau cronnus ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan
Ran 2 o Atodlen 4 i Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 wedi'i ddiwygio i
gynnwys 'ad-dalu arian pensiwn dros ben’ fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm
Esboniadol a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Pwyllgor
Cyllid i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2021. 3. Yn nodi ymhellach
yr addasiadau cyfatebol yn Atodlen 6 ar dudalennau 27 a 28 i gysoni'n gywir yr
adnoddau y gofynnir amdanynt drwy leihau DEL Adnoddau Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru £974,000, cynyddu’r AME Adnoddau £974,000 a chynyddu'r Gronfa
Adnoddau DEL heb ei Dyrannu £974,000. Troednodyn: Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng
yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; (v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a (vi) manylion am
unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 –
20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o
dan Reol Sefydlog 20.1A. Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: -
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfennau
Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.52 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7622 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30: 1. Yn cymeradwyo'r
Drydedd Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 2 Mawrth 2021. 2. Yn nodi bod y
categori adnoddau cronnus ar gyfer Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o dan
Ran 2 o Atodlen 4 i Gynnig y Gyllideb Atodol ar dudalen 22 wedi'i ddiwygio i
gynnwys 'ad-dalu arian pensiwn dros ben’ fel yr adlewyrchir yn y Memorandwm
Esboniadol a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i'r Pwyllgor
Cyllid i'w ystyried yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2021. 3. Yn nodi ymhellach yr
addasiadau cyfatebol yn Atodlen 6 ar dudalennau 27 a 28 i gysoni'n gywir yr
adnoddau y gofynnir amdanynt drwy leihau DEL Adnoddau Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru £974,000, cynyddu’r AME Adnoddau £974,000 a chynyddu'r Gronfa
Adnoddau DEL heb ei Dyrannu £974,000. Troednodyn: Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng yr
adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau
yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; (v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a (vi) manylion am unrhyw
newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B
ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan
Reol Sefydlog 20.1A. Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r prif
wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2021-22 NDM7611 Rebecca Evans
(Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y
penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru
2021-22 fel a ganlyn: a) y gyfradd Gymreig a
gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c; b) y gyfradd Gymreig a
gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac c)
y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.19 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7611 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad
ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2021-22 fel a
ganlyn: a) y gyfradd Gymreig a
gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c; b) y gyfradd Gymreig a
gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c; ac c) y gyfradd Gymreig a
gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Cyllideb Derfynol 2021-22 NDM7613 Rebecca Evans
(Gwyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb
Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 2 Mawrth 2021. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.28 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7613 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.25, yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2021-22 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl: Setliad Llywodraeth Leol 2021-22 NDM7617 Rebecca Evans
(Gwyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo
Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol –
Cynghorau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 2 Mawrth 2021. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.29 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7617 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran
84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad
Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2021-22 (Setliad Terfynol – Cynghorau) a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2021. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl: Setliad yr Heddlu 2021-22 NDM7612 Rebecca Evans
(Gwyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo
Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2021-2022 (Setliad Terfynol –
Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 4 Chwefror 2021. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 18.00 Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7612 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran
84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad
Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2021-2022 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu) a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Chwefror 2021. Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) NDM7627 Kirsty Williams
(Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.23 Yn unol a Rheol Sefydlog
26.50C, gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. NDM7627 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo’r Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Bil Cwricwlwm ac Asesu
(Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.48 cafodd y trafodion eu hatal dros
dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. Dechreuodd yr eitem am 18.51. |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |