Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: 327(v2) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/03/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 8 gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.32

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(0 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am: John Hughes (cyfansoddwr y dôn y caiff Calon Lan ei chanu iddi yn draddodiadol)

Gwnaeth Bethan Sayed ddatganiad am: Wythnos ymwybyddiaeth anhwylderau bwyta 2021

(30 munud)

5.

Cynnig i ddirymu Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

NDM7576 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno bod Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a osodwyd gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2021, yn cael eu dirymu.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.24

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7576 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:

Yn cytuno bod Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, a osodwyd gerbron y Senedd ar 27 Ionawr 2021, yn cael eu dirymu.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

0

30

57

Gwrthodwyd y cynnig.

(30 munud)

6.

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant

NDM7610 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2020.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Chwefror 2021.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

7.

Dadl ar ddeisebau ynghylch rhaglen frechiadau COVID-19

NDM7608 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â’r rhaglen frechiadau COVID-19:

a) Deiseb ‘P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth’ a gasglodd 10,879 o lofnodion;

b) Deiseb ‘P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19’ a gasglodd 16,288 o lofnodion.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.30

NDM7608 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â’r rhaglen frechiadau COVID-19:

a) Deiseb ‘P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth’ a gasglodd 10,879 o lofnodion;

b) Deiseb ‘P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19’ a gasglodd 16,288 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

8.

Dadl ar ddeisebau ynghylch datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.51

NDM7609 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r deisebau canlynol ynghylch datblygu Canolfan Ganser newydd Felindre:

a) Deiseb ‘P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Felindre newydd arfaethedig’ a gasglodd 5,348 o lofnodion;

b) Deiseb ‘P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol’ a gasglodd 11,392 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(30 munud)

9.

Dadl y Grwp Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Buddsoddiad mewn ysgolion.

NDM7606 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod y diffyg buddsoddi mewn seilwaith ysgolion dros y degawdau diwethaf wedi golygu nad yw llawer o ysgolion yn addas at y diben.

2. Yn croesawu buddsoddiadau diweddar fel Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ond yn gresynu at y ffaith bod awdurdodau lleol yn eu defnyddio fel cyfrwng i uno ysgolion.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi terfyn ar greu ysgolion mawr iawn sy'n niweidiol i brofiad dysgu pobl ifanc;

b) sicrhau nad yw awdurdodau addysg lleol yn defnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion cymunedol; a

c) cyhoeddi canllawiau i awdurdodau addysg lleol i sicrhau nad oes rhaid i ddisgyblion ysgol deithio mwy na 15 munud mewn car neu ar gludiant cyhoeddus i fynychu eu hysgol agosaf.

Cyflwynwyd y gwelliannu a ganlyn:

Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle i ddysgu yn yr amgylcheddau dysgu gorau.

2. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol ac am ddewis model dysgu priodol ar gyfer ardal benodol.   

3. Yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol, wrth wneud newidiadau mawr i ysgolion, gan gynnwys cau ysgolion, gydymffurfio â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried ystod o ffactorau – yn bennaf oll, buddiannau dysgwyr.

4. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ystâd ysgolion a cholegau, ac yn parhau i wneud hynny drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif;

b) am fuddsoddi mwy na £300 miliwn yn ein hysgolion a’n colegau eleni; y gwariant blynyddol uchaf ers cychwyn y rhaglen;

c)  yn craffu ar y buddsoddiad yn y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif i sicrhau bod dulliau teithio llesol yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth newydd; a

d)   yn adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sy’n pennu’r amodau ar gyfer awdurdodau lleol o ran y gofyniad i ddarparu dull teithio i ddysgwyr rhwng y cartref a’r ysgol, i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i’r diben.

Cod trefniadaeth ysgolion

Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2  Mark Isherwood (Gogledd Cymru

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi terfyn ar danariannu disgyblion yng Nghymru;

b) darparu cyllid teg i awdurdodau lleol i ddiogelu ysgolion gwledig;

c) cyflwyno prosiectau yng ngham B Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif i ddechrau ailadeiladu Cymru;

d) sicrhau bod pob ysgol newydd yn cael ei chynllunio mewn ffordd sy'n ymwybodol o anabledd;

e) gwrthsefyll creu ysgolion mawr iawn a sicrhau nad oes unrhyw ysgol yn cael ei chau yn erbyn dymuniadau'r gymuned;

f) sicrhau na all awdurdodau addysg lleol ddefnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion lleol; a

g) cynnal archwiliad ledled Cymru o gyflwr yr ystâd bresennol ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.18

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7606 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod y diffyg buddsoddi mewn seilwaith ysgolion dros y degawdau diwethaf wedi golygu nad yw llawer o ysgolion yn addas at y diben.

2. Yn croesawu buddsoddiadau diweddar fel Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ond yn gresynu at y ffaith bod awdurdodau lleol yn eu defnyddio fel cyfrwng i uno ysgolion.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi terfyn ar greu ysgolion mawr iawn sy'n niweidiol i brofiad dysgu pobl ifanc;

b) sicrhau nad yw awdurdodau addysg lleol yn defnyddio diffyg buddsoddiad fel esgus i gau ysgolion cymunedol; ac

c) cyhoeddi canllawiau i awdurdodau addysg lleol i sicrhau nad oes rhaid i ddisgyblion ysgol deithio mwy na 15 munud mewn car neu ar gludiant cyhoeddus i fynychu eu hysgol agosaf.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

7

3

47

57

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle i ddysgu yn yr amgylcheddau dysgu gorau.

2. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol ac am ddewis model dysgu priodol ar gyfer ardal benodol.   

3. Yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol, wrth wneud newidiadau mawr i ysgolion, gan gynnwys cau ysgolion, gydymffurfio â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried ystod o ffactorau – yn bennaf oll, buddiannau dysgwyr.

4. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ystâd ysgolion a cholegau, ac yn parhau i wneud hynny drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif;

b) am fuddsoddi mwy na £300 miliwn yn ein hysgolion a’n colegau eleni; y gwariant blynyddol uchaf ers cychwyn y rhaglen;

c)  yn craffu ar y buddsoddiad yn y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif i sicrhau bod dulliau teithio llesol yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth newydd; a

d)   yn adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sy’n pennu’r amodau ar gyfer awdurdodau lleol o ran y gofyniad i ddarparu dull teithio i ddysgwyr rhwng y cartref a’r ysgol, i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i’r diben.

Cod trefniadaeth ysgolion

Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

30

2

25

57

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7606 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle i ddysgu yn yr amgylcheddau dysgu gorau.

2. Yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol ac am ddewis model dysgu priodol ar gyfer ardal benodol.   

3. Yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol, wrth wneud newidiadau mawr i ysgolion, gan gynnwys cau ysgolion, gydymffurfio â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac ystyried ystod o ffactorau – yn bennaf oll, buddiannau dysgwyr.

4. Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru:

a) wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ystâd ysgolion a cholegau, ac yn parhau i wneud hynny drwy ei Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif;

b) am fuddsoddi mwy na £300 miliwn yn ein hysgolion a’n colegau eleni; y gwariant blynyddol uchaf ers cychwyn y rhaglen;

c)  yn craffu ar y buddsoddiad yn y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif i sicrhau bod dulliau teithio llesol yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth newydd; a

d)   yn adolygu Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, sy’n pennu’r amodau ar gyfer awdurdodau lleol o ran y gofyniad i ddarparu dull teithio i ddysgwyr rhwng y cartref a’r ysgol, i sicrhau ei fod yn parhau yn addas i’r diben.

Cod trefniadaeth ysgolion

Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain ganrif

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

3

25

57

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.42 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 17.47.

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

11.

Dadl Fer

NDM7607 Nick Ramsay (Mynwy)

Addasu tai Cymru nawr ar gyfer pobol sydd yn byw gyda Clefyd Motor Niwron: sut allwn ni wneud yn sicr fod pobl sydd yn byw gyda MND yn cael cartrefi diogel a hygyrch, gan gadw eu annibyniaeth, urddas ag ansawdd bywyd.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.51