Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 316(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 19/01/2021 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar
ffurf rhithwir, gyda Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||
Cwestiwn Brys Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol: Rhun ap Iorwerth (Ynys Mon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cynllun brechu yn erbyn COVID-19
yng Nghymru yn dilyn adroddiadau mai polisi Llywodraeth Cymru yw dosbarthu’r
cyflenwad presennol o frechiadau yn raddol yn hytrach nac anelu i frechu
cymaint o bobl â phosib yn y cyfnod byrraf posib? |
||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.53 Gofynnwyd cwestiwn 1 a
chwestiynau 3-9. Cafodd cwestiynau 3 a 7 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Ni ofynnwyd cwestiwn 2. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.57 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.15 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Papur Gwyn ar y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.12 |
|
(45 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adroddiad Blynyddol Estyn 2019/20 Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.45 |
|
(15 munud) |
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 NDM7546 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws,
Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2021. Dogfennau Ategol Adroddiad y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.26 NDM7546 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau)
(Diwygio) (Cymru) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2021. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(15 munud) |
Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 NDM7545 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth
Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2021. Dogfennau Ategol Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 NDM7545 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 27.5: 1. Yn cymeradwyo Rheoliadau
Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Ionawr 2021. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) NDM7544 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau
a’r atodlenni i’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y
drefn ganlynol: a) Adrannau 1 -
3; b) Atodlen 1; c) Adrannau 4 - 6; d) Atodlen 2; e) Adrannau 7 - 10; f) Atodlen 3; g) Adran 11; h) Atodlen 4; i) Adrannau 12 – 14; j) Atodlen 5; k) Adrannau 15 – 16; l) Atodlen 6; m) Adrannau 17 – 18; n) Teitl hir. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.44 NDM7544 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r
adrannau a’r atodlenni i’r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yng Nghyfnod 3
yn y drefn ganlynol: a) Adrannau 1 - 3; b) Atodlen 1; c) Adrannau 4 - 6; d) Atodlen 2; e) Adrannau 7 - 10; f) Atodlen 3; g) Adran 11; h) Atodlen 4; i) Adrannau 12 – 14; j) Atodlen 5; k) Adrannau 15 – 16; l) Atodlen 6; m) Adrannau 17 – 18; n) Teitl hir. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Ni chafwyd cyfnod
pleidleisio. |