Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd

Cyswllt: Aled Elwyn Jones 

Amseriad disgwyliedig: 310(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/12/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.39

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 2 a 5 gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

2.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.28

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn. Cafodd cwestiynau 1 a 6 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(20 munud)

3.

Cwestiynau Amserol

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol

(5 munud)

4.

Datganiadau 90 Eiliad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.05

Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am -  Llongyfarchiadau Mr Church! Mae David Church yn athro Astudiaethau Crefyddol ysbrydoledig yn Ysgol Gyfun Aberpennar.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.07 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Dirprwy Lywydd.

(60 munud)

5.

Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) – Cefnogaeth i fabanod a rhieni newydd yn ystod Covid-19

NDM7462 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod bod y dystiolaeth yn ddiamwys bod 1,000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn, o feichiogrwydd i ddwy oed, yn gosod y sylfeini ar gyfer bywyd hapus ac iach a bod cysylltiad cryf rhwng cefnogaeth a llesiant babanod yn ystod y cyfnod hwn a gwell canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys cyflawniad addysgol, cynnydd yn y gwaith a gwell iechyd corfforol a meddyliol.     

2. Yn nodi, ers yr achosion o COVID-19 a'r cyfyngiadau symud ac ymbellhau cymdeithasol a ddaeth yn sgil hynny, fod corff cynyddol o ymchwil yn dangos bod rhieni'n wynebu pwysau digynsail, pryderon uwch, a'u bod mewn mwy o berygl o ddatblygu problemau iechyd meddwl yn y cyfnod amenedigol.   

3. Yn nodi bod arolwg Babies in Lockdown 2020 wedi dangos bod 66 y cant o ymatebwyr o Gymru wedi nodi mai iechyd meddwl rhieni oedd y prif bryder yn ystod y cyfyngiadau symud: dim ond 26 y cant oedd yn teimlo'n hyderus y gallent ddod o hyd i gymorth ar gyfer iechyd meddwl pe bai ei angen arnynt a bod 69 y cant o rieni'n teimlo bod y newidiadau a gyflwynwyd gan COVID-19 yn effeithio ar eu baban heb ei eni, babi neu blentyn ifanc. 

4. Yn nodi bod ymchwil New Parents and COVID-19 2020 wedi canfod bod dros hanner y 257 o ymatebwyr sydd wedi rhoi genedigaeth ers y cyfyngiadau symud yn teimlo bod eu profiad geni wedi bod yn anos na'r disgwyl oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws, dros 60 y cant heb dderbyn unrhyw fath o archwiliad ôl-enedigol a bron i chwarter am gael cymorth iechyd meddwl amenedigol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth i deuluoedd yn ystod beichiogrwydd a'r cyfnod amenedigol yn cael blaenoriaeth a bod y gweithlu bydwreigiaeth, ymwelwyr iechyd ac iechyd meddwl amenedigol yn cael ei ddiogelu rhag adleoli yn ystod y pandemig. 

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n rhagweithiol gyda byrddau iechyd i sicrhau y gall menywod gael cymorth diogel gan eu partneriaid yn ystod ymweliadau ysbyty yn ystod beichiogrwydd. 

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu buddsoddiad ychwanegol wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau gwirfoddol i ymdopi â'r cynnydd yn y galw oherwydd COVID-19.

Babies in Lockdown (Saesneg yn unig)

New Parents and COVID-19 (Saesneg yn unig)

Cyd-gyflwynwyr

Bethan Sayed

Leanne Wood

Cefnogwyr

Alun Davies

Dai Lloyd

David Rees

Dawn Bowden

Helen Mary Jones

Huw Irranca-Davies

Jack Sargeant

Jayne Bryant

Jenny Rathbone

Joyce Watson

Neil McEvoy

Vikki Howells

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

41

12

0

53

Derbyniwyd y cynnig.

(30 munud)

6.

Dadl ar Ddeiseb P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

NDM7502 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu’ a gasglodd 6,017 o lofnodion.

P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, cafodd eitemau 7-8 eu grwpio ar gyfer dadl, ond gyda phleidleisiau ar wahân.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.26 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.

7.

Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd

NDM7501 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi:

a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru; 

b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac

c) y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad yw dull gweithredu Cymru gyfan yn gymesur o ystyried bod COVID-19 yn cylchredeg ar wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Yn credu nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru ar werthu alcohol mewn tafarndai, caffis a bwytai yn gymesur.

Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Yn credu bod y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt yn annigonol, yn enwedig pan fo cwmnïau wedi gwario symiau enfawr ar sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel i staff a chwsmeriaid o ran COVID-19.

Gwelliant 5 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do.

Gwelliant 6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 7, 8 a 9 a gyflwynwyd i’r cynnig

Gwelliant 10 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ar drywydd camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn o'r sefyllfa yng Nghymru;

b) at y ffaith mai effaith gyfyngedig iawn a gaiff y cyfyngiadau ar gyfraddau heintio yng Nghymru;

c) at y ffaith y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith barhaol ar swyddi a bywoliaethau ac y byddant yn achosi niwed parhaol i'r sector lletygarwch yng Nghymru.

Gwelliant 11 Sian Gwenllian (Arfon)

Yn cytuno, er y gall lleoliadau lletygarwch aros ar agor, na ddylent fod yn destun gwaharddiad llwyr ar werthu alcohol fel y nodir ar hyn o bryd yn y rheoliadau a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr.

Gwelliant 12 Sian Gwenllian (Arfon)

Yn cytuno y dylai'r terfyn amser ar gyfer gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau diodydd trwyddedig fod yn gyson â'r terfyn amser a bennwyd ar gyfer lleoliadau lletygarwch.

Gwelliant 13 Sian Gwenllian (Arfon)

Yn cytuno y dylid caniatáu i leoliadau lletygarwch aros ar agor tan 8pm.

Gwelliant 14 Sian Gwenllian (Arfon)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu

a) yr amcanion penodol y mae'n gobeithio y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol newydd a amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn eu cyflawni; a

b) beth fydd y trothwy ar gyfer llacio'r mesurau hynny.

Gwelliant 15 Sian Gwenllian (Arfon)

Yn cytuno y dylid cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad o'r fath.

Gwelliant 16 Sian Gwenllian (Arfon)

Yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rhagdybiaeth o blaid cynnal pleidlais ystyrlon yn y Senedd cyn y bydd unrhyw gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach a gaiff yr un fath o effaith â'r rhai a amlinellir yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn dod i rym.

Gwelliant 17 Sian Gwenllian (Arfon)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfle i'r gwrthbleidiau wneud ceisiadau rhesymol am fodelu annibynnol gan y gell cyngor technegol ar gynigion amgen mewn perthynas â materion fel cau'r sector lletygarwch ac ymyriadau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7501 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi:

a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru; 

b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac

c) y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 1 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad yw dull gweithredu Cymru gyfan yn gymesur o ystyried bod COVID-19 yn cylchredeg ar wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o'r wlad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

28

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad oes digon o dystiolaeth i ddangos bod cyfyngiadau presennol Llywodraeth Cymru ar werthu alcohol mewn tafarndai, caffis a bwytai yn gymesur.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

28

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt yn annigonol, yn enwedig pan fo cwmnïau wedi gwario symiau enfawr ar sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel i staff a chwsmeriaid o ran COVID-19.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

28

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 6.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 7, 8 a 9 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.

Gwelliant 10 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu:

a) at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ar drywydd camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn o'r sefyllfa yng Nghymru;

b) at y ffaith mai effaith gyfyngedig iawn a gaiff y cyfyngiadau ar gyfraddau heintio yng Nghymru;

c) at y ffaith y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith barhaol ar swyddi a bywoliaethau ac y byddant yn achosi niwed parhaol i'r sector lletygarwch yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 10.

Gwelliant 11 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno, er y gall lleoliadau lletygarwch aros ar agor, na ddylent fod yn destun gwaharddiad llwyr ar werthu alcohol fel y nodir ar hyn o bryd yn y rheoliadau a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

29

53

Gwrthodwyd gwelliant 11.

Gwelliant 12 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylai'r terfyn amser ar gyfer gwerthu alcohol mewn archfarchnadoedd a siopau diodydd trwyddedig fod yn gyson â'r terfyn amser a bennwyd ar gyfer lleoliadau lletygarwch.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

4

32

52

Gwrthodwyd gwelliant 12.

Gwelliant 13 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid caniatáu i leoliadau lletygarwch aros ar agor tan 8pm.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 13:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

5

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 13.

Gwelliant 14 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu

a) yr amcanion penodol y mae'n gobeithio y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol newydd a amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn eu cyflawni; a

b) beth fydd y trothwy ar gyfer llacio'r mesurau hynny.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 14:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

1

28

52

Gwrthodwyd gwelliant 14.

Gwelliant 15 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylid cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad o'r fath.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 15:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

1

28

52

Gwrthodwyd gwelliant 15.

Gwelliant 16 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rhagdybiaeth o blaid cynnal pleidlais ystyrlon yn y Senedd cyn y bydd unrhyw gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach a gaiff yr un fath o effaith â'r rhai a amlinellir yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn dod i rym.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 16:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

22

2

28

52

Gwrthodwyd gwelliant 16.

Gwelliant 17 Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfle i'r gwrthbleidiau wneud ceisiadau rhesymol am fodelu annibynnol gan y gell cyngor technegol ar gynigion amgen mewn perthynas â materion fel cau'r sector lletygarwch ac ymyriadau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 17:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

1

31

52

Gwrthodwyd gwelliant 17.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7501 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi:

a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru; 

b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac

c) y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r dystiolaeth a oedd yn sail i'w phenderfyniad i gau lleoliadau adloniant dan do.

Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

10

9

52

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

8.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Coronafeirws – Cyfyngiadau mis Rhagfyr

NDM7505 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do yng Nghymru o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

2. Yn gresynu at effaith andwyol y cyfyngiadau ar fusnesau a swyddi yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) atal y cyfyngiadau ar unwaith; a

b) mabwysiadu dull mwy cymesur wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.35

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7505 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do yng Nghymru o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

2. Yn gresynu at effaith andwyol y cyfyngiadau ar fusnesau a swyddi yng Nghymru.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) atal y cyfyngiadau ar unwaith; a

b) mabwysiadu dull mwy cymesur wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

9

27

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

(15 munud)

9.

Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 03-20

NDM7503 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 03-20 a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Rhagfyr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cadarnhau’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi’i thorri.

3. Yn penderfynu ar y canlynol am gyfnod o 21 diwrnod, ac eithrio yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos 21 Ionawr 2021:

a) bydd hawliau a breintiau’r Aelodau a’i fynediad i’r Senedd a Thŷ Hywel yn cael eu tynnu’n ôl o dan Reol Sefydlog 22.10 (ii);

b) caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.10(iii); a

c) ni fydd yr Aelod yn cael hawlio cyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae paragraffau a. a b. uchod yn gymwys iddynt, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7503 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 03-20 a osodwyd gerbron y Senedd ar 2 Rhagfyr 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9.

2. Yn cadarnhau’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi’i thorri.

3. Yn penderfynu ar y canlynol am gyfnod o 21 diwrnod, ac eithrio yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos ar 21 Ionawr 2021:

a) bydd hawliau a breintiau’r Aelodau a’i fynediad i’r Senedd a Thŷ Hywel yn cael eu tynnu’n ôl o dan Reol Sefydlog 22.10 (ii);

b) caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 20.10(iii); ac

c) ni fydd yr Aelod yn cael hawlio cyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae paragraffau a. a b. uchod yn gymwys iddynt, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

2

6

53

Derbyniwyd y cynnig.

Derbyniwyd cynnig gweithdrefnol i ohirio Dadl Fer Andrew RT Davies tan ddydd Mercher 16 Rhagfyr

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 19.03 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 19.10

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol:

(30 munud)

11.

Dadl Fer

NDM7504 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)

Pwysigrwydd cefnogwyr mewn digwyddiadau chwaraeon ar gyfer gwead cymdeithasol ein cymunedau.

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem tan 16 Rhagfyr 2020