Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 284(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/07/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, penderfynodd y Llywydd bod Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.

Dywedodd y Llywydd hefyd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi cael eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd. Byddai'r cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 10.01

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(15 munud)

18.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 11.08

(45 munud)

2.

Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 11.27

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 5 ac 8 gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

(45 munud)

3.

Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 12.15

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 a 7 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

Am 13.01, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro tan 13.45.

Datganiad gan y Llywydd

Dywedodd y Llywydd ei bod yn ymwybodol fod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw, ‘Strategaeth Profi Cymru ar gyfer COVID-19’, ac, o gofio sylwadau blaenorol gan Aelodau, gan gynnwys ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes yn gynharach heddiw, dylai Gweinidogion sicrhau bod cyhoeddiadau pwysig yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i’r Aelodau yn y Siambr. Dywedodd y Llywydd y bydd yn ymestyn y Cwestiwn Amserol heddiw (profi ar gyfer staff cartrefi gofal) er mwyn galluogi’r Aelodau i ofyn cwestiynau i’r Llywodraeth ar y datganiad ysgrifenedig.

(60 munud)

4.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.46

(20 munud)

5.

Cwestiynau Amserol

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Janet Finch-Saunders(Aberconwy: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brofion Covid-19 wythnosol ar gyfer staff cartrefi gofal?

Gofyn i  Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

I’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Alun Davies (Blaenau Gwent):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru at y polisi cyfryngau a chymorth i'r diwydiant cyfryngau yn dilyn y gyfres ddiweddar o ddiswyddiadau?

Cofnodion:

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am brofion Covid-19 wythnosol ar gyfer staff cartrefi gofal?

Gofyn i  Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol; i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Alun Davies (Blaenau Gwent):  A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymagwedd Llywodraeth Cymru at y polisi cyfryngau a chymorth i'r diwydiant cyfryngau yn dilyn y gyfres ddiweddar o ddiswyddiadau?

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân - TYNNWYD YN ÔL

6.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 - TYNNWYD YN ÔL

NDM7349 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2020.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl

19.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 - TYNNWYD YN ÔL

NDM7350 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2020.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl

Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

7.

Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

NDM7347 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(5) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mehefin 2020.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8.

Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio Paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

NDM7348 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2020.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

NDM7348 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir (Diwygio paragraff 7 o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mehefin 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

9.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020

NDM7346 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2020.

Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.47

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7346 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2020.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

12

1

53

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

10.

Dadl: Cyfnod 4 y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

NDM7357 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 3

Dogfen Ategol
Datganiad y Llywydd yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.48

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, cynhaliwyd pleidlais wedi’i chofnodi a gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7357 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo’r Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).

Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), heb ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 3

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

11.

Dadl: Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru

NDM7355 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu adroddiad y Tasglu a gafodd ei gadeirio gan Phil Jones yn nodi argymhellion ynghylch sut i newid y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20 milltir yr awr.

2. Yn nodi’r ymchwil rhyngwladol sy’n dangos y manteision o ran diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith plant, yn sgil lleihau terfynau cyflymder diofyn i 20 milltir yr awr.

3.  Yn cydnabod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno prosiectau peilot ynghylch terfynau 20 milltir yr awr, cyn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr ar draws Cymru, a’r manteision a fydd yn deillio o hyn i gymunedau yn y dyfodol.

4.  Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i gychwyn ymgynghori ynghylch y bwriad i lunio gorchymyn drwy offeryn statudol (lle y bydd yn ofynnol derbyn cymeradwyaeth gan benderfyniad y Senedd) i leihau’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig i 20 milltir yr awr.

Anfonwyd adroddiad y Tasglu drwy e-bost at yr Aelodau ar 8 Gorffennaf 2020.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynigion fel rhan o'r ymgynghoriad i sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi yr adnoddau priodol i ymateb i'r gorchymyn arfaethedig.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.57

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynigion fel rhan o'r ymgynghoriad i sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi yr adnoddau priodol i ymateb i'r gorchymyn arfaethedig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

4

5

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM7355 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu adroddiad y Tasglu a gafodd ei gadeirio gan Phil Jones yn nodi argymhellion ynghylch sut i newid y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20 milltir yr awr.

2. Yn nodi’r ymchwil rhyngwladol sy’n dangos y manteision o ran diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y marwolaethau ymhlith plant, yn sgil lleihau terfynau cyflymder diofyn i 20 milltir yr awr.

3.  Yn cydnabod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno prosiectau peilot ynghylch terfynau 20 milltir yr awr, cyn cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr ar draws Cymru, a’r manteision a fydd yn deillio o hyn i gymunedau yn y dyfodol.

4.  Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i gychwyn ymgynghori ynghylch y bwriad i lunio gorchymyn drwy offeryn statudol (lle y bydd yn ofynnol derbyn cymeradwyaeth gan benderfyniad y Senedd) i leihau’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig i 20 milltir yr awr.

5, Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynigion fel rhan o'r ymgynghoriad i sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi yr adnoddau priodol i ymateb i'r gorchymyn arfaethedig.

Anfonwyd adroddiad y Tasglu drwy e-bost at yr Aelodau ar 8 Gorffennaf 2020.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

2

6

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd

(5 munud)

12.

Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18.10: Swyddogaethau Pwyllgor yn Ymwneud â Goruchwylio Swyddfa Archwilio Cymru

NDM7353 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.55

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7353 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

2

53

Derbyniwyd y cynnig.

(5 munud)

13.

Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Y Comisiwn Etholiadol a Phwyllgor y Llywydd

NDM7352 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Rheol Sefydlog 18B – Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i gyflwyno Rheol Sefydlog 18B newydd, a diwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B o adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM7352 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Rheol Sefydlog 18B – Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i gyflwyno Rheol Sefydlog 18B newydd, a diwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B o adroddiad y Pwyllgor Busnes.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

2

53

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

14.

Dadl y Pwyllgor Cyllid - Blaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22, yn sgil Covid 19

NDM7351 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn trafod y blaenoriaethau gwariant ar gyfer Cyllideb Ddraft Llywodraeth Cymru 2021-22.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Nodyn Cryno Ymgysylltu Digidol, Mehefin 2020

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.03

NDM7351 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn trafod y blaenoriaethau gwariant ar gyfer Cyllideb Ddraft Llywodraeth Cymru 2021-22.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

15.

Dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Effaith Covid-19 ar Blant a Phobl Ifanc

NDM7354 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Interim y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.01

NDM7354 Lynne Neagle (Torfaen)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi Adroddiad Interim y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(60 munud)

16.

Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol

NDM7356 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi croesawu’r gallu i Gymru weithredu’n annibynnol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

2. Yn cydnabod llwyddiant gwledydd annibynnol o faint tebyg i Gymru wrth ddelio gyda’r feirws.

3. Yn credu y byddai annibynniaeth yn rhoi mwy o hyblygrwydd a gwydnwch i Gymru wrth ymateb i heriau yn y dyfodol.

4. Yn nodi’r gefnogaeth gynyddol i Alban annibynnol ac Iwerddon unedig.

5. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio’r hawl gyfansoddiadol i ganiatau i’r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm gyfrwymol ar annibynniaeth. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi datganoli i Gymru.

2. Yn cydnabod y manteision i Gymru o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

3. Yn croesawu'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi'i rhoi i gynorthwyo gyda'r ymateb i'r pandemig coronafeirws yng Nghymru, gan gynnwys:

a) £2.8 biliwn wedi'i ddyrannu i gefnogi ymyriadau mewn materion datganoledig;

b) cymorth ar gyfer mwy na 316,500 o swyddi drwy'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws;

c) cymorth i fwy na 102,000 o bobl drwy'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws;

d) cyllid brys ar gyfer y diwydiant dur;

e) Bonws Cadw Swyddi i annog cyflogwyr i ddiogelu swyddi gweithwyr sydd ar ffyrlo;

f) Cynllun Kickstart ar gyfer ceiswyr gwaith ifanc;

g) gostyngiad mewn TAW ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch;

h) Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynorthwyo caffis, bwytai a thafarndai; ac

i) cyllid i ddatgarboneiddio adeiladau sector cyhoeddus Llywodraeth y DU yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gydweithredu â Llywodraeth Ei Mawrhydi i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, a 4 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu:

a) bod datganoli, drwy unrhyw fesur rhesymol, wedi methu; a

b) bod y gefnogaeth dros ddileu'r Senedd yn fwy na'r gefnogaeth dros annibyniaeth wleidyddol Cymru o'r DU.

[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau  3 a 4 eu dad-ddethol]

Gwelliant 3 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y gwahanol bolisïau o ran cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan wahanol lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig wedi arwain at ddryswch.

2. Yn cydnabod mai yr unig gwir wydnwch economaidd y mae Cymru yn ei fwynhau yw fel rhan o'r Deyrnas Unedig.

3. Yn nodi refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, a arweiniodd at yr Alban yn pleidleisio dros aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

4. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu a yw Cymru'n parhau i fod â llywodraeth ddatganoledig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm rhwymol ynghylch a ydym yn cadw neu'n diddymu llywodraeth a senedd ddatganoledig Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 4 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn croesawu arweinyddiaeth gref ac effeithiol Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID-19;

2.  Yn ystyried mai penderfyniadau a negeseuon ar y cyd gan bedair gweinyddiaeth y Deyrnas Unedig fydd y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â heriau'r pandemig i'n dinasyddion a'n busnesau; a

3.  Yn credu mai'r ffordd orau o gynnal buddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn aelod o Deyrnas Unedig ddiwygiedig, gan alluogi llywodraethau i weithredu mewn modd cydgysylltiedig.

Gwelliant 5 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid cael gwared ar y Senedd.

Gwelliant 6 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm rhwymol ar ei datsefydlu.

Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Yn credu y dylai Cymru gael ei chyfansoddiad a'i deddf hawliau ei hun.

Gwelliant 8 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Yn credu y dylid arfer sofraniaeth Cymru ar lefel gymunedol a chenedlaethol, gan gynnwys defnyddio refferenda rhwymol drwy hawl y cyhoedd i gynnig.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM7356 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi croesawu’r gallu i Gymru weithredu’n annibynnol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

2. Yn cydnabod llwyddiant gwledydd annibynnol o faint tebyg i Gymru wrth ddelio gyda’r feirws.

3. Yn credu y byddai annibynniaeth yn rhoi mwy o hyblygrwydd a gwydnwch i Gymru wrth ymateb i heriau yn y dyfodol.

4. Yn nodi’r gefnogaeth gynyddol i Alban annibynnol ac Iwerddon unedig.

5. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio’r hawl gyfansoddiadol i ganiatau i’r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm gyfrwymol ar annibynniaeth. 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

1

43

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cefnogi datganoli i Gymru.

2. Yn cydnabod y manteision i Gymru o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

3. Yn croesawu'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi'i rhoi i gynorthwyo gyda'r ymateb i'r pandemig coronafeirws yng Nghymru, gan gynnwys:

a) £2.8 biliwn wedi'i ddyrannu i gefnogi ymyriadau mewn materion datganoledig;

b) cymorth ar gyfer mwy na 316,500 o swyddi drwy'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws;

c) cymorth i fwy na 102,000 o bobl drwy'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws;

d) cyllid brys ar gyfer y diwydiant dur;

e) Bonws Cadw Swyddi i annog cyflogwyr i ddiogelu swyddi gweithwyr sydd ar ffyrlo;

f) Cynllun Kickstart ar gyfer ceiswyr gwaith ifanc;

g) gostyngiad mewn TAW ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch;

h) Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynorthwyo caffis, bwytai a thafarndai; ac

i) cyllid i ddatgarboneiddio adeiladau sector cyhoeddus Llywodraeth y DU yng Nghymru.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gydweithredu â Llywodraeth Ei Mawrhydi i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

40

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu:

a) bod datganoli, drwy unrhyw fesur rhesymol, wedi methu; a

b) bod y gefnogaeth dros ddileu'r Senedd yn fwy na'r gefnogaeth dros annibyniaeth wleidyddol Cymru o'r DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

2

2

49

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y gwahanol bolisïau o ran cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan wahanol lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig wedi arwain at ddryswch.

2. Yn cydnabod mai yr unig gwir wydnwch economaidd y mae Cymru yn ei fwynhau yw fel rhan o'r Deyrnas Unedig.

3. Yn nodi refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014, a arweiniodd at yr Alban yn pleidleisio dros aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

4. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu a yw Cymru'n parhau i fod â llywodraeth ddatganoledig.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm rhwymol ynghylch a ydym yn cadw neu'n diddymu llywodraeth a senedd ddatganoledig Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

2

2

49

53

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn croesawu arweinyddiaeth gref ac effeithiol Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID-19;

2.  Yn ystyried mai penderfyniadau a negeseuon ar y cyd gan bedair gweinyddiaeth y Deyrnas Unedig fydd y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â heriau'r pandemig i'n dinasyddion a'n busnesau; a

3.  Yn credu mai'r ffordd orau o gynnal buddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn aelod o Deyrnas Unedig ddiwygiedig, gan alluogi llywodraethau i weithredu mewn modd cydgysylltiedig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

24

53

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid cael gwared ar y Senedd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

2

2

49

53

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm rhwymol ar ei datsefydlu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

2

2

49

53

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Cymru gael ei chyfansoddiad a'i deddf hawliau ei hun.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

2

42

53

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid arfer sofraniaeth Cymru ar lefel gymunedol a chenedlaethol, gan gynnwys defnyddio refferenda rhwymol drwy hawl y cyhoedd i gynnig.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

1

2

50

53

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1.  Yn croesawu arweinyddiaeth gref ac effeithiol Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID-19;

2.  Yn ystyried mai penderfyniadau a negeseuon ar y cyd gan bedair gweinyddiaeth y Deyrnas Unedig fydd y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â heriau'r pandemig i'n dinasyddion a'n busnesau; a

3.  Yn credu mai'r ffordd orau o gynnal buddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn aelod o Deyrnas Unedig ddiwygiedig, gan alluogi llywodraethau i weithredu mewn modd cydgysylltiedig.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

24

53

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

17.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 19.58, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.

Dechreuodd yr eitem am 20.07

Daeth y cyfarfod i ben am 20.26

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 11.00, Dydd Mercher, 5 Awst 2020

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: