Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 269(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 18/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd
y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl
Cwestiwn 3. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-3 a 5-9. Cafodd cwestiynau 3 a 7 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.15 Gofynnwyd cwestiynau
1, 3, 4, 6, 8, 10 ac 11. Tynnwyd cwestiynau 2, 5 a 7 yn ôl. Ni ofynnwyd
cwestiwn 9. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 3. |
|
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Alun Davies
(Blaenau Gwent): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cymorth
i fusnesau a'r economi a wnaed ar 17 Mawrth 2020? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.49 Gofyn
i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Alun Davies
(Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cymorth i
fusnesau a'r economi a wnaed ar 17 Mawrth 2020? |
|
(5 munud) |
Cynnig i atal Reolau Sefydlog NNDM7309 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei
gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn
darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er
mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher, 18 Mawrth 2020. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.49 NNDM7309 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn
atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei
gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn
darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er
mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn
ddydd Mercher, 18 Mawrth 2020. |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog NNDM7310 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau
sy’n deillio o newid enw’r sefydliad’ a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020; a 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A
i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3.
Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2020. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 NNDM7310 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau
sy’n deillio o newid enw’r sefydliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18
Mawrth 2020; a 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r
Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i Adroddiad y Pwyllgor
Busnes. 3.
Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2020. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i newid enw'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd NNDM7311 – Elin Jones
(Ceredigion) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3: 1.
Yn cytuno i newid enw a chylch gwaith Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad i’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd. 2.
Yn nodi y bydd y newid yn dod i rym ar 6 Mai 2020. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.21 NNDM7311 – Elin Jones
(Ceredigion) Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3: 1.
Yn cytuno i newid enw a chylch gwaith Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y
Cynulliad i’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd. 2.
Yn nodi y bydd y newid yn dod i rym ar 6 Mai 2020. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog NNDM7312 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes y Cynulliad ac Amgylchiadau
Eithriadol' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3.
Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael
effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.22 NNDM7312 – Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes y Cynulliad ac Amgylchiadau
Eithriadol' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i
adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3.
Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael
effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|
(5 munud) |
Cynnig i ethol Cadeirydd Dros Dro a Llywydd Dros Dro dynodedig NNDM7313 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1.
Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24D, yn ethol David Melding yn Gadeirydd Dros Dro o
dan y telerau a bennir o dan Reol Sefydlog 6.24E. 2.
Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24A, yn ethol David Melding yn Llywydd Dros Dro
dynodedig Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.30 NNDM7313 – Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1.
Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24D, yn ethol David Melding yn Gadeirydd Dros Dro o
dan y telerau a bennir o dan Reol Sefydlog 6.24E. 2.
Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24A, yn ethol David Melding yn Llywydd Dros Dro
dynodedig Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36. |
|
(0 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad - WEDI'I OHIRIO Cofnodion: Gohiriwyd
yr eitem hon. |
|
(0 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Cytundebau rhyngwladol y DU ar ôl Brexit: Rôl i’r Cynulliad - WEDI'I OHIRIO NDM7302 David
Rees (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar gytundebau rhyngwladol y
DU ar ôl Brexit - rôl i’r Cynulliad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 18 Rhagfyr 2019. Er gwybodaeth: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru ar 5 Chwefror 2020. Cofnodion: Gohiriwyd
yr eitem hon. |
|
(0 munud) |
Dadl ar Ddeiseb P-05-912 - Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl - WEDI'I OHIRIO NDM7301 Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r ddeiseb
‘P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn
annisgwyl’ a gasglodd 5,682 o lofnodion. P-05-912
Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl Cofnodion: Gohiriwyd
yr eitem hon. |
|
(0 munud) |
Dadl Plaid Brexit - Creulondeb i Anifeiliaid - WEDI'I OHIRIO NDM7299 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd
rhoi diwedd ar greulondeb i anifeiliaid yng Nghymru. 2. Yn cefnogi'r
gwaharddiad ar y fasnach ffwr. 3. Yn cydnabod natur
farbaraidd maglau a'r dioddefaint a achosir ganddynt. 4. Yn pryderu bod
bwlch mewn deddfwriaeth gyfredol wedi caniatáu i'r rhai sy'n gosod trapiau
barhau i ddal llwynogod, cwningod a mincod. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i wahardd gosod trapiau a defnyddio
maglau yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 -
Rebecca Evans (Gwyr) Dileu’r cyfan a rhoi
yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw am ddileu pob
math o greulondeb i anifeiliaid yng Nghymru drwy: a) deddfwriaeth
ynghylch lles anifeiliaid a gaiff ei hatgyfnerthu’n raddol ac yn gyson; b) polisïau ynghylch
lles anifeiliaid sy’n cyd-fynd â’r dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael a’r
safonau moesegol uchaf; c) camau gorfodi
effeithol o ran y gyfraith drwy’r heddlu a’r timau troseddu gwledig; d) camau gweithredu
mwy cydgysylltiedig rhwng Llywodraeth Cymru, yr heddlu, awdurdodau lleol a
sefydliadau bywyd gwyllt; e) creu diwylliant o
barch a thosturi tuag at bopeth byw. 2. Yn cefnogi Deddf
Hela 2004, gan gredu bod hela llwynogod gan ddefnyddio cŵn yn farbaraidd,
ac yn gwrthwynebu unrhyw gam i wanhau Deddf Hela 2004. 3. Yn llongyfarch
Llywodraeth Cymru ar ei pholisïau presennol er mwyn gwarchod rhag creulondeb i
anifeiliaid yng Nghymru, ac yn enwedig mewn perthynas â dileu TB Buchol ymysg
gwartheg. Cofnodion: Gohiriwyd
yr eitem hon. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Ni
chafwyd Cyfnod Pleidleisio |
||
Dadl Fer - TYNNWYD YN ÔL Cofnodion: Tynnwyd yr eitem hon yn ôl |