Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 267(v6)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 11/03/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1, 2, 4, 5, 7 ac 8. Ni ofynnwyd cwestiwn 3. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl.
Atebwyd cwestiynau 1 a 7 gan y Dirprwy Weinidog. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiad gan y Llywydd Dechreuodd
yr eitem am 14.30 Croesawodd
y Llywydd gynrychiolwyr o Gatalwnia, o dan arweiniad Llywydd Senedd Catalwnia,
Mr Roger Torrent. Estynnodd y Llywydd groeso cynnes iddynt i Gymru ac i’r
Senedd |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.32 Gofynnwyd
cwestiynau 1 – 6 ac 8. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) - Wedi ei ohirio o ddydd Mawrth 10 Mawrth 2020 Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.24 Gofynnwyd
y 3 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.32 Gofynnwyd
y 3 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru David Rees
(Aberafan): Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe gan Tata Steel ynglŷn
â nifer y swyddi a fydd yn cael eu colli yn y DU, a wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am yr effaith a gaiff y colledion hyn yng Nghymru, ac yn arbennig ar
y ffatri ym Mhort Talbot? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.50 Gofyn i Weinidog yr
Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru David Rees
(Aberafan): Yn dilyn y
cyhoeddiad ddoe gan Tata Steel ynglŷn â nifer y swyddi a fydd yn cael eu
colli yn y DU, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr effaith a gaiff y
colledion hyn yng Nghymru, ac yn arbennig ar y ffatri ym Mhort Talbot? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 16.07 Gwnaeth Jenny
Rathbone ddatganiad am - Mis Endometriosis. Gwnaeth Mike
Hedges ddatganiad am - Nodi 100 mlynedd ers marwolaeth Daniel James
(cyfansoddwr Calon Lân). Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am
- Cofio Dai Dower (Bocsiwr a
anwyd yn Abercynon) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog NDM7295 – Elin Jones Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog:
Rheol Sefydlog 12 – Pleidleisio drwy Ddirprwy' a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2020. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12 a gwneud newidiadau
canlyniadol i Reol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor
Busnes. 3.
Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â bod yn
weithredol ar 6 Ebrill 2021. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.12 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7295 – Elin Jones Cynnig bod y Cynulliad
Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 –
Pleidleisio drwy Ddirprwy' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2020. 2. Yn cymeradwyo'r
cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 12 a gwneud newidiadau canlyniadol i Reol
Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3. Yn nodi bod y
newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â bod yn weithredol ar
6 Ebrill 2021. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Archwiliad Cyfle Cyfartal NDM7247 - Helen
Mary Jones Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ddarparu archwiliad
cyfle cyfartal ar gyfer cwmnïau sy'n cael grantiau Llywodraeth Cymru. 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a) gwella ac annog cyfle cyfartal yn y sector preifat yng
Nghymru; a b) adeiladu ar ganfyddiadau Gwaith Teg Cymru: Adroddiad y
Comisiwn Gwaith Teg. Gwaith
Teg Cymru: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.12 NDM7247
- Helen Mary Jones Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ddarparu archwiliad cyfle cyfartal ar gyfer
cwmnïau sy'n cael grantiau Llywodraeth Cymru. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
gwella ac annog cyfle cyfartal yn y sector preifat yng Nghymru; a b)
adeiladu ar ganfyddiadau Gwaith Teg Cymru: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Diagnosis Cynnar o Ganser NDM7238 – David
Rees Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod
diagnosis cynnar o ganser yn gwella cyfleoedd goroesi. 2. Yn nodi bod
Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai pob cenedl gael strategaeth ar
ganser. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynllun cyflawni newydd ar gyfer canser yn
cynnwys mwy o bwyslais ar ddiagnosis cynharach i gleifion ac iddo fod ar waith
pan ddaw'r cynllun presennol i ben yn 2020. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd camau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar raglenni
sgrinio am ganser. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.26 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7238 – David Rees Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod diagnosis
cynnar o ganser yn gwella cyfleoedd goroesi. 2. Yn nodi bod Sefydliad
Iechyd y Byd yn argymell y dylai pob cenedl gael strategaeth ar ganser. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod ei chynllun cyflawni newydd ar gyfer canser yn cynnwys mwy
o bwyslais ar ddiagnosis cynharach i gleifion ac iddo fod ar waith pan ddaw'r
cynllun presennol i ben yn 2020. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gymryd camau i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar raglenni sgrinio am
ganser. Cyd-gyflwynwyr Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. NDM7296 – Siân
Gwenllian Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi mai Llywodraeth Cymru sy'n
gyfrifol am y GIG. 2. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi cadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys
24 awr a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. 3. Yn cydnabod bod recriwtio yn allweddol i
gadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol
yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. 4. Er mwyn helpu recriwtio, yn galw ar y
Gweinidog Iechyd i ddiddymu'r penderfyniad a wnaed yn 2014 i ddileu'r
gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn
Ysbyty Brenhinol Morgannwg fel rhan o Raglen De Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn nodi: a) yn unol â Deddf y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mai’r byrddau iechyd lleol perthnasol
yng Nghymru sydd â’r cyfrifoldeb statudol am ddarparu gwasanaethau’r GIG mewn
ardaloedd daearyddol yng Nghymru; b) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n adolygu ei ddarpariaeth ar gyfer y
gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hynny yn ardal y bwrdd iechyd sy'n
benodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg; c) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n ystyried nifer o opsiynau yn ymwneud â'r
gwasanaeth hwn ar hyn o bryd; d) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal dadansoddiadau data, modelu a recriwtio,
ac yn ymgysylltu â'r staff a’r cyhoedd er mwyn cynorthwyo penderfyniad gan ei
fwrdd; e) nad oes
penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â dyfodol y ddarpariaeth damweiniau
ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Deddf
y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (Saesneg yn unig) [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1, ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi penderfyniad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 12 Chwefror 2020 mewn cysylltiad â chadw
gwasanaethau brys 24 awr o dan arweiniad ymgyngorydd meddygol yn Ysbyty
Brenhinol Morgannwg. Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod
Llywodraeth Cymru wedi methu â dysgu gwersi o ymarferion ailstrwythuro
blaenorol byrddau iechyd ac nad yw wedi sicrhau bod byrddau iechyd hefyd wedi
cadw at yr egwyddorion ar ymgysylltu cyhoeddus sydd wedi’u diogelu yn 'Cymru
Iachach'. Cymru
Iachach - Llywodraeth Cymru Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymgynghori â'i
gymunedau mewn modd amserol a chynhwysol. Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder,
dystiolaeth lafar ddiweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Bwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 27 Chwefror 2020 nad oedd
y Bwrdd wedi bod wrthi'n recriwtio ymgyngynghorwyr meddygol adran achosion brys
Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.09 Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7296 – Siân Gwenllian Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y GIG. 2. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi
cadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr a arweinir gan feddygon
ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. 3. Yn cydnabod bod recriwtio yn allweddol i gadw gwasanaeth damweiniau ac
achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol
Morgannwg. 4. Er mwyn helpu recriwtio, yn galw ar y Gweinidog Iechyd i ddiddymu'r
penderfyniad a wnaed yn 2014 i ddileu'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys
a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg fel rhan o
Raglen De Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn nodi: a) yn unol â Deddf y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mai’r byrddau iechyd lleol perthnasol
yng Nghymru sydd â’r cyfrifoldeb statudol am ddarparu gwasanaethau’r GIG mewn
ardaloedd daearyddol yng Nghymru; b) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n adolygu ei ddarpariaeth ar gyfer y
gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hynny yn ardal y bwrdd iechyd sy'n
benodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg; c) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n ystyried nifer o opsiynau yn ymwneud â'r
gwasanaeth hwn ar hyn o bryd; d) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal dadansoddiadau data, modelu a recriwtio,
ac yn ymgysylltu â'r staff a’r cyhoedd er mwyn cynorthwyo penderfyniad gan ei
fwrdd; e) nad oes penderfyniad
wedi'i wneud eto ynglŷn â dyfodol y ddarpariaeth damweiniau ac achosion
brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. [Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol] Gwelliant 3 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod
Llywodraeth Cymru wedi methu â dysgu gwersi o ymarferion ailstrwythuro
blaenorol byrddau iechyd ac nad yw wedi sicrhau bod byrddau iechyd hefyd wedi
cadw at yr egwyddorion ar ymgysylltu cyhoeddus sydd wedi’u diogelu yn 'Cymru
Iachach'. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymgynghori â'i
gymunedau mewn modd amserol a chynhwysol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder,
dystiolaeth lafar ddiweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Bwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 27 Chwefror 2020 nad oedd
y Bwrdd wedi bod wrthi'n recriwtio ymgynghorwyr
meddygol adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7296 – Siân Gwenllian 1. Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn nodi: a) yn unol â Deddf y
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mai’r byrddau iechyd lleol perthnasol
yng Nghymru sydd â’r cyfrifoldeb statudol am ddarparu gwasanaethau’r GIG mewn
ardaloedd daearyddol yng Nghymru; b) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n adolygu ei ddarpariaeth ar gyfer y
gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hynny yn ardal y bwrdd iechyd sy'n
benodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg; c) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n ystyried nifer o opsiynau yn ymwneud â'r
gwasanaeth hwn ar hyn o bryd; d) bod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal dadansoddiadau data, modelu a recriwtio,
ac yn ymgysylltu â'r staff a’r cyhoedd er mwyn cynorthwyo penderfyniad gan ei
fwrdd; e) nad oes penderfyniad
wedi'i wneud eto ynglŷn â dyfodol y ddarpariaeth damweiniau ac achosion
brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn ymgynghori â'i
gymunedau mewn modd amserol a chynhwysol. 3. Yn nodi â phryder,
dystiolaeth lafar ddiweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Bwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 27 Chwefror 2020 nad oedd
y Bwrdd wedi bod wrthi'n recriwtio ymgynghorwyr meddygol adran achosion brys
Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Gwrthodwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Darllediadau Gemau Rygbi'r Chwe Gwlad NDM7297 – Siân Gwenllian Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon o bob math i
hunaniaeth ddiwylliannol a sifig Cymru. 2. Yn credu y dylai’r gallu i fwynhau
chwaraeon fod mor hygyrch â phosib i’r ystod ehangaf o boblogaeth ein cenedl. 3. Yn pryderu am yr adroddiadau y bydd y
darllediadau o gemau rygbi’r chwe gwlad ond ar gael i’w gwylio ar sail
talu-wrth-wylio yn y dyfodol. 4. Yn credu bod mynediad at ddarllediadau
rygbi cenedlaethol yn allweddol i sicrhau bod pobl ifanc yn cyfranogi mewn
rygbi llawr gwlad. 5. Yn credu y dylai darllediadau gemau rygbi
chwe gwlad Cymru barhau i fod ar gael i’w gwylio am ddim i bawb ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau hyn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.40 Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7297 – Siân Gwenllian Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd chwaraeon o bob math i hunaniaeth ddiwylliannol a
sifig Cymru. 2. Yn credu y dylai’r gallu i fwynhau chwaraeon fod mor hygyrch â phosib
i’r ystod ehangaf o boblogaeth ein cenedl. 3. Yn pryderu am yr adroddiadau y bydd y darllediadau o gemau rygbi’r
chwe gwlad ond ar gael i’w gwylio ar sail talu-wrth-wylio yn y dyfodol. 4. Yn credu bod mynediad at ddarllediadau rygbi cenedlaethol yn allweddol
i sicrhau bod pobl ifanc yn cyfranogi mewn rygbi llawr gwlad. 5. Yn credu y dylai darllediadau gemau rygbi chwe gwlad Cymru barhau i
fod ar gael i’w gwylio am ddim i bawb ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud
popeth o fewn ei gallu i sicrhau hyn.
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.07 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl Fer NDM7294- Vikki
Howells Tynged y meysydd glo: effaith datganoli ar gymunedau'r
meysydd glo; yr heriau sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd a rhai cwestiynau ynghylch
eu ffyniant yn y dyfodol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.12 NDM7294- Vikki Howells Tynged y meysydd glo: effaith datganoli ar gymunedau'r
meysydd glo; yr heriau sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd a rhai cwestiynau ynghylch
eu ffyniant yn y dyfodol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |