Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 237(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 23/10/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.19 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 5 eu hateb gan y Dirprwy Weinidog y Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol [Gofyn
i’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit] Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yng
ngoleuni Tŷ'r Cyffredin neithiwr yn cymeradwyo bargen Brexit am y tro
cyntaf ers y refferendwm, ar ffurf Bil Cytundeb Ymadael y Prif Weinidog, a
wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad i'r Cynulliad? [Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth] Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa
drafodaethau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal gyda’r awdurdodau perthnasol
yng ngoleuni’r newyddion trasig bod cyrff 39 o bobl wedi’u darganfod mewn
cynhwysydd lori yn Essex ar ôl iddynt ddod i mewn i’r DU trwy Gaergybi? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.15 Gofyn
i’r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Andrew RT Davies (Canol
De Cymru): Yng ngoleuni Tŷ'r Cyffredin neithiwr yn cymeradwyo bargen
Brexit am y tro cyntaf ers y refferendwm, ar ffurf Bil Cytundeb Ymadael y Prif
Weinidog, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad i'r Cynulliad? I’w ateb
gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Pa drafodaethau fydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal
gyda’r awdurdodau perthnasol yng ngoleuni’r newyddion trasig bod cyrff 39 o
bobl wedi’u darganfod mewn cynhwysydd lori yn Essex ar ôl iddynt ddod i mewn
i’r DU trwy Gaergybi? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.35 Gwnaeth Jayne Bryant
ddatganiad am - 180 mlynedd ers Gwrthryfel Casnewydd. Gwnaeth Delyth Jewell
ddatganiad am - Trychineb Aberfan. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb LHDT NDM7144 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddarparu adroddiad o gynnydd am ei gwaith i fynd i'r afael â throseddau
casineb LHDT yng Nghymru. 2. Yn galw am
ddatganoli cyfiawnder er mwyn sicrhau dull integredig o fynd i'r afael â
throseddau casineb LHDT ac amddiffyn pobl LHDT yng Nghymru. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion ar sut y gallai creu system
gyfiawnder ddatganoledig i Gymru hybu diogelwch a llesiant pobl LHDT. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.38 NDM7144 Sian Gwenllian (Arfon) Cynnig
bod cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad o gynnydd am ei gwaith i fynd
i'r afael â throseddau casineb LHDT yng Nghymru. 2.
Yn galw am ddatganoli cyfiawnder er mwyn sicrhau dull integredig o fynd i'r
afael â throseddau casineb LHDT ac amddiffyn pobl LHDT yng Nghymru. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ei chynigion ar sut y gallai creu
system gyfiawnder ddatganoledig i Gymru hybu diogelwch a llesiant pobl LHDT. Cyd-gyflwynwyr Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllido Ysgolion yng Nghymru NDM7166 Lynne
Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Cyllido Ysgolion yng Nghymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2019. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru ar 16 Hydref 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.29 NDM7166 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Cyllido Ysgolion yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Gorffennaf 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mynd i'r Afael â Digartrefedd NDM7167 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod nad yw polisïau
cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn
sy'n ofynnol. 2. Yn cymeradwyo'r
arferion da sydd i'w gweld yn y sector ac yn croesawu sefydlu Grŵp
Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru. 3. Yn nodi: a) bod 25 o farwolaethau
wedi'u nodi ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru yn 2018, sy'n gynnydd nodedig
o'r 11 o farwolaethau a nodwyd yn 2017; b) bod 25,937 o bobl
wedi profi digartrefedd ledled Cymru yn 2017/18, yn ôl ffigurau gan Shelter
Cymru; c) bod nifer y bobl sy'n
cysgu ar y stryd wedi cynyddu 75 y cant rhwng 2012 a 2017, a bod y nifer sy'n
cysgu mewn ceir, pebyll ac ar gludiant cyhoeddus wedi cynyddu 50 y cant yn ôl
ymchwil gan Crisis a Phrifysgol Heriot-Watt; 4. Yn nodi ymhellach
gynllun gweithredu 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i fynd i'r afael â
digartrefedd: 'Mwy na Lloches yn Unig'. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i benodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol rhywun sydd â
phrofiad o fyw yn ddigartref ac sy'n gallu craffu ar gynnydd tuag at roi terfyn
ar ddigartrefedd yng Nghymru. Y
Ceidwadwyr Cymreig – Mwy na Lloches yn Unig Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn cydnabod bod yna
fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd. 2. Yn cymeradwyo'r
arfer da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y
trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. 3. Yn croesawu sefydlu
Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn
partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei
adroddiad cyntaf. 4. Yn nodi: a) Bod un person
digartref sy'n marw yn drasiedi. b) Yr effaith y mae
cyni a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref. 5. Yn nodi ymhellach
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac
ymgyrch adduned y sector cyhoeddus. Grŵp
Gweithredu ar Ddigartrefedd: Adroddiad Hydref 2019 Strategaeth
ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 - 7 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn credu bod methiant
holl Lywodraethau Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf i ddatrys digartrefedd yng
Nghymru yn warth cenedlaethol. Gwelliant 3 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Dileu pwynt 2. Gwelliant 4 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn credu bod dyblygu
gwasanaethau, cyflogau uchel uwch reolwyr yn y trydydd sector, ynghyd â
thoriadau i lywodraeth leol yng Nghymru yn gwneud sefyllfa lle mae digartrefedd
eisoes yn wael yn waeth. Gwelliant 5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnwys is-bwynt
newydd ar ddiwedd pwynt 3: 'Mae'r tueddiadau hyn
wedi'u nodi yn Lloegr, lle mae hefyd gynnydd wedi bod yn nifer y marwolaethau
ymysg y rhai sy'n cysgu ar y stryd. ' Gwelliant 6 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwyntiau 4 a 5. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd
gwelliant 7. Gwelliant 8 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod
toriadau Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn
digartrefedd, fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd. Gwelliant 9 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu na chafodd
angen blaenoriaethol ei ddileu'n raddol er mwyn gwneud lle i ddyletswydd
gyffredinol i sicrhau llety diogel yn ystod Deddf Tai (Cymru) 2014, ac yn credu
bod hwn yn gyfle a gollwyd. Gwelliant 10 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd
sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol
i'w feysydd cyfrifoldeb. Crisis
- Everybody In - How to End Homelessness in Great Britain 2018 (Saesneg yn
unig) Gwelliant 11 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Sicrhau bod Deddf
Crwydradaeth 1824 yn cael ei datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr
heddlu yng Nghymru er mwyn osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu
allan a chardota. Gwelliant 12 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn ogystal â darparu
tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n
briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau
iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD
ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin
rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi
cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gwelliant 13 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatgan argyfwng digartrefedd ac i gyflwyno polisïau tai yn gyntaf i
dynnu pobl oddi ar y strydoedd. Gwelliant 14 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i flaenoriaethu anghenion lleol wrth ymdrin â digartrefedd. Gwelliant 15 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gychwyn adolygiad bon a brig o'r holl arian cyhoeddus a gaiff ei wario
yn y sector tai er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.34 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7167 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod nad yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a
chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol. 2. Yn cymeradwyo'r arferion da sydd i'w gweld yn y sector ac yn croesawu
sefydlu Grŵp Gweithredu Digartrefedd Llywodraeth Cymru. 3. Yn nodi: a) bod 25 o farwolaethau wedi'u nodi ymhlith pobl ddigartref yng Nghymru
yn 2018, sy'n gynnydd nodedig o'r 11 o farwolaethau a nodwyd yn 2017; b) bod 25,937 o bobl wedi profi digartrefedd ledled Cymru yn 2017/18, yn
ôl ffigurau gan Shelter Cymru; c) bod nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd wedi cynyddu 75 y cant rhwng
2012 a 2017, a bod y nifer sy'n cysgu mewn ceir, pebyll ac ar gludiant
cyhoeddus wedi cynyddu 50 y cant yn ôl ymchwil gan Crisis a Phrifysgol
Heriot-Watt; 4. Yn nodi ymhellach gynllun gweithredu 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i
fynd i'r afael â digartrefedd: 'Mwy na Lloches yn Unig'. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi tsar digartrefedd, yn ddelfrydol
rhywun sydd â phrofiad o fyw yn ddigartref ac sy'n gallu craffu ar gynnydd tuag
at roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn cydnabod bod yna
fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd. 2. Yn cymeradwyo'r arfer
da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y
trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. 3. Yn croesawu sefydlu
Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn
partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei
adroddiad cyntaf. 4. Yn nodi: a) Bod un person
digartref sy'n marw yn drasiedi. b) Yr effaith y mae cyni
a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref. 5. Yn nodi ymhellach
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac
ymgyrch adduned y sector cyhoeddus. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1, wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliannau 2 - 6 eu dad-ddethol Yn unol â Rheol Sefydlog
12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliant 7. Gwelliant 8 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod toriadau
Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn digartrefedd,
fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 8:
Derbyniwyd gwelliant 8. Gwelliant 9 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu na chafodd
angen blaenoriaethol ei ddileu'n raddol er mwyn gwneud lle i ddyletswydd gyffredinol
i sicrhau llety diogel yn ystod Deddf Tai (Cymru) 2014, ac yn credu bod hwn yn
gyfle a gollwyd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 9:
Gwrthodwyd gwelliant 9. Gwelliant 10 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y
DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar ddigartrefedd
sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n berthnasol
i'w feysydd cyfrifoldeb. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 10:
Derbyniwyd gwelliant 10. Gwelliant 11 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 11:
Derbyniwyd gwelliant 11. Gwelliant 12 - Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn ogystal â darparu
tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n
briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau
iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD
ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin
rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi
cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 12:
Derbyniwyd gwelliant 12. Gwelliant 13 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ddatgan argyfwng digartrefedd ac i gyflwyno polisïau tai yn gyntaf i
dynnu pobl oddi ar y strydoedd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 13:
Gwrthodwyd gwelliant 13. Gwelliant 14 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i flaenoriaethu anghenion lleol wrth ymdrin â digartrefedd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 14:
Gwrthodwyd gwelliant 14. Gwelliant 15 - Neil McEvoy (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gychwyn adolygiad bon a brig o'r holl arian cyhoeddus a gaiff ei wario yn y
sector tai er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 15:
Gwrthodwyd gwelliant 15. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7167 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) 1. Yn cydnabod bod yna
fwy y gellir ei wneud bob amser i fynd i'r afael â digartrefedd. 2. Yn cymeradwyo'r arfer
da a welir yn y sector tai mewn perthynas â digartrefedd, gan gynnwys y
trefniadau partneriaeth sy'n cefnogi gwaith Tai yn Gyntaf Llywodraeth Cymru. 3. Yn croesawu sefydlu
Grŵp Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd mewn
partneriaeth â'r sector, gan gynnwys elusennau digartrefedd, ac yn croesawu ei
adroddiad cyntaf. 4. Yn nodi: a) Bod un person
digartref sy'n marw yn drasiedi. b) Yr effaith y mae cyni
a diwygiadau i'r system les wedi'i chael ar y niferoedd sy'n ddigartref. 5. Yn nodi ymhellach
Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ac
ymgyrch adduned y sector cyhoeddus. 6. Yn cydnabod bod
toriadau Llywodraeth y DU i nawdd cymdeithasol wedi cyfrannu at y cynnydd mewn
digartrefedd, fel y rhagwelodd y sector fyddai'n digwydd. 7. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i fabwysiadu argymhellion yr adroddiad Crisis ar roi terfyn ar
ddigartrefedd sy'n berthnasol i feysydd polisi sydd heb eu datganoli, ac yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad argyfwng sy'n
berthnasol i'w feysydd cyfrifoldeb. 8. Sicrhau bod Deddf
Crwydradaeth 1824 yn cael ei datgymhwyso'n weithredol ym mhob un o ardaloedd yr
heddlu yng Nghymru er mwyn osgoi gwneud pobl ddigartref yn droseddwyr am gysgu
allan a chardota. 9. Yn ogystal â darparu
tai, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n
briodol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, fel pobl â phroblemau
iechyd meddwl, anableddau dysgu, defnyddwyr sylweddau problematig, pobl ag ADHD
ac anhwylderau niwroddatblygiadol, carcharorion, cyn-filwyr, goroeswyr cam-drin
rhywiol yn ystod plentyndod a goroeswyr cam-drin domestig a'r rhai sydd wedi
cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.45 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7165 Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) Grym tai cydweithredol
fel modd o helpu i ddiwallu anghenion tai mewn cymunedau ledled Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.50 NDM7165 Dawn Bowden (Merthyr
Tudful a Rhymni) Grym tai cydweithredol fel modd o helpu i ddiwallu
anghenion tai mewn cymunedau ledled Cymru. |