Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 198(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 20/03/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 10 cwestiwn
cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 5, 9 â 10 gan y Dirprwy Weinidog.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.21 Gofynnwyd y 9 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y
Gweinidog ddatganiad am effaith cwymp y cwmni adeiladu Dawnus, sydd wedi mynd i
ddwylo'r gweinyddwyr? Gofyn
i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r wybodaeth
ddiweddaraf am Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn dilyn cyhoeddi adolygiad
annibynnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.10 Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Joyce Watson (Canolbarth a
Gorllewin Cymru): A wnaiff
y Gweinidog ddatganiad am effaith cwymp y cwmni adeiladu Dawnus, sydd wedi mynd
i ddwylo'r gweinyddwyr? Gofyn
i Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Suzy Davies (Gorllewin De
Cymru): A wnaiff y
Gweinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am Fargen Ddinesig Bae Abertawe, yn
dilyn cyhoeddi adolygiad annibynnol Bargen Ddinesig Bae Abertawe? |
|||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.44 Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am - Nodi 35 mlynedd ers dechrau Streic y Glowyr 1984-85. |
|||||||||
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud) Dechreuodd yr eitem a 15:46 NDM7017 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3 a
17.13(ii), yn ethol Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o’r
Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn lle David Rowlands (Plaid
Annibyniaeth y Deyrnas Unedig). Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) NDM7003
– Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
(Cymru). 'Bil
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)' Dogfen
Ategol Cofnodion: Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod
Pleidleisio. NDM7003 – Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo’r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol NDM6998
Russell George (Sir
Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Diweddariad ar y
Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 24 Ionawr 2019. Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan
Lywodraeth Cymru ar 13 Mawrth 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.01 NDM6998 Russell George (Sir
Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad: Diweddariad ar y
Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2019. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach NDM6996
Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg
Uwch ac Addysg Bellach, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 4 Rhagfyr 2018. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru ar 1 Chwefror 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 NDM6996 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg – Gradd ar Wahân? Effaith
Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Rhagfyr 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Y Cwrdiaid yn Nhwrci NDM6999
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, er bod
materion tramor yn fater a gedwir i Lywodraeth a Senedd y DU ar hyn o bryd, mae
adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu: "“The Welsh
Ministers, the First Minister and the Counsel General may make appropriate
representations about any matter affecting Wales”. 2. Yn cydnabod y
gymuned Cwrdaidd sylweddol yng Nghymru. 3. Yn nodi bod
preswylydd o Gymru - İmam Sis, dyn Cwraidd ifanc - ar streic newyn
amhenodol, ddigyfaddawd o 17 Rhagfyr 2018, a ddechreuwyd i brotestio yn erbyn
ynysu'r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan sydd wedi'i garcharu gan Dwrci ers
1999 o dan amodau sydd, yn ôl pob deall, yn mynd yn groes i rwymedigaethau
cyfreithiol gwladwriaeth Twrci mewn perthynas â hawliau dynol. 4. Yn nodi bod
streiciau newyn yn digwydd ledled Ewrop a'r byd, gan gynnwys gan Leyla Güven,
aelod etholedig o Senedd Twrci. 5. Yn nodi bod Twrci
yn un o lofnodwyr sawl cytuniad hawliau dynol rhyngwladol, gan gynnwys y
Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel aelod o Gyngor Ewrop. 6. Yn mynegi ei bryder
ynghylch y rhesymau dros y streiciau newyn. 7. Yn cydnabod mai nod
y streiciau newyn yn y pen draw yw gweld ateb heddychlon, gwleidyddol i'r
cwestiwn Cwrdaidd yn Nhwrci. 8. Yn cadarnhau
pwysigrwydd cynnal rhwymedigaethau hawliau dynol yn Nhwrci. 9. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i ysgrifennu at y
Pwyllgor i Atal Artaith a Thriniaeth Annynol neu Ddiraddiol neu Gosb yn galw ar
y Pwyllgor i ymweld â Charchar Imrali i asesu amodau Abdullah Öcalan. Deddf
Llywodraeth Cymru 2006
(Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, dileu 'ynysu'r
arweinydd Cwrdaidd' a rhoi yn ei le 'ynysu arweinydd Cwrdaidd y PKK (Plaid
Gweithwyr Cwrdistan)'. Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi bod y PKK yn
sefydliad terfysgol a waharddwyd yn y DU, yr Undeb Ewropeaidd, ac Unol
Daleithiau America. Yn condemnio pob
gweithred derfysgol a gyflawnir gan y PKK ac yn cydnabod y dioddefwyr a'r sifiliaid
a laddwyd ac a gafodd eu dal yn eu hymosodiadau. Yn cydnabod hawl Twrci
i amddiffyn ei hun rhag ymosodiadau terfysgol gan y PKK. Gwelliant
3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwynt 7 a rhoi
yn ei le: Yn cydnabod mai nod o
streicwyr newyn yw galluogi Abdullah Öcalan i gael gafael ar gynrychiolaeth
gyfreithiol a chysylltu â'i deulu. Gwelliant
4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 8 ac ailrifo'n unol â hynny: Yn nodi fod
Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU a Llysgennad EM â Thwrci wedi pwysleisio
wrth Lywodraeth Twrci yr angen i barchu hawliau dynol, osgoi anafu sifiliaid a
dychwelyd at y broses heddwch. Gwelliant
5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yy galw ar y PKK i
roi'r gorau i derfysgaeth fel modd o hybu ei amcanion a dychwelyd at y broses
heddwch. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.20 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6999 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, er bod materion tramor yn fater a gedwir i Lywodraeth a
Senedd y DU ar hyn o bryd, mae adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn
darparu: "“The Welsh Ministers, the First Minister and the Counsel General
may make appropriate representations about any matter affecting Wales”. 2. Yn cydnabod y gymuned Cwrdaidd sylweddol yng Nghymru. 3. Yn nodi bod preswylydd o Gymru - İmam Sis, dyn Cwraidd ifanc - ar
streic newyn amhenodol, ddigyfaddawd o 17 Rhagfyr 2018, a ddechreuwyd i
brotestio yn erbyn ynysu'r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan sydd wedi'i
garcharu gan Dwrci ers 1999 o dan amodau sydd, yn ôl pob deall, yn mynd yn
groes i rwymedigaethau cyfreithiol gwladwriaeth Twrci mewn perthynas â hawliau
dynol. 4. Yn nodi bod streiciau newyn yn digwydd ledled Ewrop a'r byd, gan
gynnwys gan Leyla Güven, aelod etholedig o Senedd Twrci. 5. Yn nodi bod Twrci yn un o lofnodwyr sawl cytuniad hawliau dynol
rhyngwladol, gan gynnwys y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel aelod o
Gyngor Ewrop. 6. Yn mynegi ei bryder ynghylch y rhesymau dros y streiciau newyn. 7. Yn cydnabod mai nod y streiciau newyn yn y pen draw yw gweld ateb
heddychlon, gwleidyddol i'r cwestiwn Cwrdaidd yn Nhwrci. 8. Yn cadarnhau pwysigrwydd cynnal rhwymedigaethau hawliau dynol yn
Nhwrci. 9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i
ysgrifennu at y Pwyllgor i Atal Artaith a Thriniaeth Annynol neu Ddiraddiol neu
Gosb yn galw ar y Pwyllgor i ymweld â Charchar Imrali i asesu amodau Abdullah
Öcalan.
Derbyniwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. |
|||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Yr ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth NDM7000
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod ymgyrch
barhaus menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth; 2. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i wneud trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg i bob menyw a
anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951, sydd wedi gorfod ysgwyddo baich y cynnydd yn
annheg, o ran oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA) gyda diffyg hysbysiad priodol. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gefnogi'r ymgyrch
WASPI. 4. Yn galw ar y
Cwnsler Cyffredinol i ystyried pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd
mewn perthynas â'r ymgyfreitha disgwyliedig yn erbyn yr Adran Gwaith a
Phensiynau am y camdrafod honedig o godi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod
a aned yn y 1950au. Cefnogwr Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu pwyntiau 2 a 4
ac ailrifo'n unol â hynny. Gwelliant
2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod
Llywodraethau olynol y DU wedi cyfathrebu gyda menywod yr effeithiwyd arnynt
ers y newidiadau i oedran pensiwn menywod ers Deddf Pensiynau 1995 a Deddf
Pensiynau 2007 a bod ymgynghoriad cyhoeddus a dadleuon helaeth wedi cael eu
cynnal yn y Senedd o ran cynnydd ychwanegol i oedran pensiwn y wladwriaeth yn
2011. 'Deddf
Pesiynau 1995' (Saesneg yn unig) 'Deddf Pensiynau
2007' (Saesneg yn unig) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.56 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7000 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod ymgyrch barhaus menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y
wladwriaeth; 2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud trefniadau pensiwn gwladol
trosiannol teg i bob menyw a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951, sydd wedi gorfod
ysgwyddo baich y cynnydd yn annheg, o ran oedran pensiwn y wladwriaeth (SPA)
gyda diffyg hysbysiad priodol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i
gefnogi'r ymgyrch WASPI. 4. Yn galw ar y Cwnsler Cyffredinol i ystyried pa gamau y gallai
Llywodraeth Cymru eu cymryd mewn perthynas â'r ymgyfreitha disgwyliedig yn
erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am y camdrafod honedig o godi oedran pensiwn
y wladwriaeth i fenywod a aned yn y 1950au.
Derbyniwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. |
|||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.36 |
||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6997
Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Brwydro dros
Wasanaethau'r Dyfodol - yr achos dros warchod gwasanaethau yn ysbyty
Llwynhelyg. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.38 NDM6997 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Brwydro dros
Wasanaethau'r Dyfodol - yr achos dros warchod gwasanaethau yn ysbyty
Llwynhelyg. |