Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 188(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 06/02/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1 a 3 - 8. Ni ofynnwyd cwestiwn 2. Cafodd
cwestiynau 3 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 1. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb
rybudd ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.20 Gofynnwyd y 7
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau Amserol Ni
ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni ddewiswyd unrhyw
Gwestiynau Amserol |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw geisiadau i wneud Datganiad 90 Eiliad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb NDM6952
David
J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i
bawb, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.12 NDM6952
David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i
bawb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5
Hydref 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Diwydiant Dur NDM6950
David
Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r
buddsoddiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol cynaliadwy i'r
diwydiant dur yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 2. Yn cydnabod yr
heriau sy'n wynebu diwydiant dur Cymru yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi sector dur Cymru sy'n ddiwydiant allweddol
i economi Cymru. 4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau uchel ynni sy'n wynebu'r sector dur
yn y DU o'i gymharu â chostau trydan yn yr UE. Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.03 NDM6950 David Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu'r buddsoddiadau a wnaed gan
Lywodraeth Cymru i gefnogi dyfodol cynaliadwy i'r diwydiant dur yng Nghymru yn
ystod y blynyddoedd diwethaf. 2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu diwydiant
dur Cymru yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi
sector dur Cymru sy'n ddiwydiant allweddol i economi Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â
chostau uchel ynni sy'n wynebu'r sector dur yn y DU o'i gymharu â chostau
trydan yn yr UE. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol NDM6959
Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) 1. Nodi bod anghydraddoldeb
economaidd rhanbarthol yn parhau'n amlwg ar draws Cymru, fel sy'n amlwg yn y
ffigurau GVA diweddaraf. 2. Yn gresynu bod
polisïau Llywodraeth Cymru wedi methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau
economaidd rhwng rhanbarthau yng Nghymru. 3. Yn croesawu'r
cyfraniad y bydd y fargen dinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth Bae
Abertawe, bargen twf y Gogledd a bargen twf y Canolbarth yn eu gwneud i fynd
i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i: a) gweithio'n
adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddarparu bargeinion twf yng Nghymru; b) adolygu'r cynllun
gweithredu economaidd i gynnwys strategaeth i gynyddu cyflogau a ffyniant
economaidd ym mhob rhan o Gymru ac ymdrin ag anghydraddoldebau economaidd rhwng
y rhanbarthau; ac (c) hyrwyddo polisi
datblygu rhanbarthol ar ôl Brexit sy'n cefnogi cymunedau difreintiedig ledled
Cymru, gan gynnwys y rhai hynny y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd. Ffyniant
i bawb: cynllun gweithredu ar yr economi Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Rebecca Evans (Gŵyr) Dileu popeth a rhoi’r
canlynol yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru yn: 1. Cydnabod pa mor
bwysig yw economïau rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er
mwyn sbarduno twf cynhwysol. 2. Nodi’r mesurau
traws-lywodraethol a nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys
penodi prif Swyddogion Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi
Datblygiad Economaidd Rhanbarthol ar draws Cymru. 3. Nodi’r rôl bwysig
sydd gan y Bargeinion Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf
economaidd rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach
megis seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau. 4. Nodi’r cyhoeddiad
diweddar bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD)
yn helpu i ddatblygu polisi datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail
yr arferion gorau yn rhyngwladol. 5. Galw ar Lywodraeth
y DU i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng
cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn
deg ar draws y wlad. 6. Galw ar Lywodraeth
y DU i barchu’r setliad datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn
gwneud y penderfyniadau strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn
lle’r cyllid strwythurol, er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd
rhwng rhanbarthau. 7. Nodi’r ffaith bod
cyllidebau rhanbarthol dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr
Economi a Thrafnidiaeth ar draws Cymru. [Os derbynnir
gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
2 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu pwynt 2 a rhoi
yn ei le: Yn nodi bod polisi
llymder Llywodraeth y DU, ar y cyd gyda chamreolaeth Llywodraeth Cymru, wedi
arwain at gynnydd mawr mewn anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau Cymru. Gwelliant
3 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Yn is-bwynt (a) ym
mhwynt 4, ar ôl 'Llywodraeth y DU' ychwanegu 'ac awdurdodau lleol'. Gwelliant
4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am fil
buddsoddiad rhanbarthol, gyda’r nod o sicrhau buddsoddiad ariannol teg dros
Gymru i gyd. Gwelliant
5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith
bod bwrdd prosiect Arfor wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen
amlinellol o weithgarwch am y ddwy flynedd nesaf. Yn nodi’r ffaith bod
£2 filiwn wedi ei chlustnodi yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a
buddsoddi i Arfor yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y
cytundeb ar y gyllideb gyda Llywodraeth Cymru. Yn cadarnhau
pwysigrwydd manteisio ar y cyswllt anhepgor rhwng ffyniant economaidd a
ffyniant ieithyddol ar hyd y gorllewin Cymraeg. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.46 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6959 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) 1. Nodi bod anghydraddoldeb economaidd
rhanbarthol yn parhau'n amlwg ar draws Cymru, fel sy'n amlwg yn y ffigurau GVA
diweddaraf. 2. Yn gresynu bod polisïau Llywodraeth Cymru wedi
methu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd rhwng rhanbarthau yng
Nghymru. 3. Yn croesawu'r cyfraniad y bydd y fargen
dinas-ranbarth Caerdydd, bargen dinas-ranbarth Bae Abertawe, bargen twf y
Gogledd a bargen twf y Canolbarth yn eu gwneud i fynd i'r afael ag
anghydraddoldeb rhanbarthol yng Nghymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i
ddarparu bargeinion twf yng Nghymru; b) adolygu'r cynllun gweithredu economaidd i
gynnwys strategaeth i gynyddu cyflogau a ffyniant economaidd ym mhob rhan o
Gymru ac ymdrin ag anghydraddoldebau economaidd rhwng y rhanbarthau; ac (c) hyrwyddo polisi datblygu rhanbarthol ar ôl
Brexit sy'n cefnogi cymunedau difreintiedig ledled Cymru, gan gynnwys y rhai
hynny y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: 1. Cydnabod pa mor bwysig yw economïau
rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er mwyn sbarduno twf
cynhwysol 2. Nodi’r mesurau traws-lywodraethol a nodir yn y
Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys penodi prif Swyddogion
Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Datblygiad Economaidd
Rhanbarthol ar draws Cymru. 3. Nodi’r rôl bwysig sydd gan y Bargeinion
Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf economaidd
rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach megis
seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau. 4. Nodi’r cyhoeddiad diweddar bod y Sefydliad ar
gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn helpu i ddatblygu polisi
datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail yr arferion gorau yn
rhyngwladol. 5. Galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r
anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac
i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn deg ar draws y wlad. 6. Galw ar Lywodraeth y DU i barchu’r setliad
datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau
strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn lle’r cyllid strwythurol,
er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau. 7. Nodi’r ffaith bod cyllidebau rhanbarthol
dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr Economi a Thrafnidiaeth
ar draws Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan
fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol Gwelliant 4 - Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am fil buddsoddiad rhanbarthol, gyda’r
nod o sicrhau buddsoddiad ariannol teg dros Gymru i gyd. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5 - Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r ffaith bod bwrdd prosiect Arfor
wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen amlinellol o weithgarwch
am y ddwy flynedd nesaf. Yn nodi’r ffaith bod £2 filiwn wedi ei chlustnodi
yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i Arfor yn ystod
2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y cytundeb ar y gyllideb gyda
Llywodraeth Cymru. Yn cadarnhau pwysigrwydd manteisio ar y cyswllt
anhepgor rhwng ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol ar hyd y gorllewin
Cymraeg. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6959 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: 1. Cydnabod pa mor bwysig yw economïau
rhanbarthol cryf a chydnerth ar draws pob rhan o Gymru er mwyn sbarduno twf
cynhwysol 2. Nodi’r mesurau traws-lywodraethol a nodir yn y
Cynllun Gweithredu ar yr Economi, gan gynnwys penodi prif Swyddogion
Rhanbarthol a thimau yn Llywodraeth Cymru i gefnogi Datblygiad Economaidd
Rhanbarthol ar draws Cymru. 3. Nodi’r rôl bwysig sydd gan y Bargeinion
Dinesig a’r Bargeinion Twf i’w chwarae o ran sbarduno twf economaidd
rhanbarthol pan fyddant yn cael eu cydgysylltu ag ymyriadau ehangach megis
seilwaith, trafnidiaeth a sgiliau. 4. Nodi’r cyhoeddiad diweddar bod y Sefydliad ar
gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn helpu i ddatblygu polisi
datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru ar sail yr arferion gorau yn
rhyngwladol. 5. Galw ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r
anghydraddoldeb o ran cyllido seilwaith rhwng cenhedloedd a rhanbarthau’r DU ac
i wneud mwy i rannu cyfleoedd buddsoddi yn deg ar draws y wlad. 6. Galw ar Lywodraeth y DU i barchu’r setliad
datganoli ac i sicrhau mai Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniadau
strategol ar reoli a gweinyddu trefniadau cyllido yn lle’r cyllid strwythurol,
er mwyn mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd rhwng rhanbarthau. 7. Nodi’r ffaith bod cyllidebau rhanbarthol
dangosol yn cael eu datblygu ar gyfer buddsoddiad yn yr Economi a Thrafnidiaeth
ar draws Cymru. 8. Yn croesawu’r ffaith bod bwrdd prosiect Arfor
wedi cael ei gyfarfod cyntaf ac wedi cytuno ar raglen amlinellol o weithgarwch
am y ddwy flynedd nesaf. 9. Yn nodi’r ffaith bod £2 filiwn wedi ei
chlustnodi yn y gyllideb ar gyfer cymorth ysgrifenyddiaeth a buddsoddi i Arfor
yn ystod 2018-19 a 2019-20 fel blaenoriaeth Plaid Cymru yn y cytundeb ar y
gyllideb gyda Llywodraeth Cymru. 10. Yn cadarnhau pwysigrwydd manteisio ar y
cyswllt anhepgor rhwng ffyniant economaidd a ffyniant ieithyddol ar hyd y
gorllewin Cymraeg.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.47 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6957
Hefin
David (Caerffili) Caerffili ddi-blastig,
Cymru ddi-blastig: Beth y gellir ei wneud
ar lefel leol a chenedlaethol i leihau llygredd plastig. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.50 NDM6957 Hefin David (Caerffili) Caerffili ddi-blastig,
Cymru ddi-blastig: Beth y gellir ei wneud ar
lefel leol a chenedlaethol i leihau llygredd plastig. |