Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 154(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.25 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.11 Gofynwyd
y ddau gwestiwn. |
|
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol [Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig] Lee
Waters (Llanelli) Pa asesiad y mae Ysgrifennydd
y Cabinet wedi'i wneud o benderfyniad yr Archwilydd Cyffredinol i gymhwyso
cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y drydedd flwyddyn yn olynol? [Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Addysg] Lynne Neagle (Torfaen) A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth
ddiweddaraf am y cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.18 [Atebwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig] Lee
Waters (Llanelli)
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o benderfyniad yr
Archwilydd Cyffredinol i gymhwyso cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y
drydedd flwyddyn yn olynol? [Atebwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg] Lynne
Neagle (Torfaen)
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Grant
Datblygu Disgyblion – Mynediad? |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.38 Gwnaeth Andrew
RT Davies ddatganiad yn canmol y cyfraniad y mae meddygon Indiaidd yn
ei wneud i'r GIG yng Nghymru Gwnaeth Suzy Davies ddatganiad am ymgyrch Keep me posted (sy’n sicrhau bod busnesau a
chynghorau’n parhau i anfon biliau papur at gwsmeriaid os mai dyna’u dymuniad) Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad am ddathlu 140 mlynedd ers sefydlu Amgueddfa Dinbych-y-pysgod
(amgueddfa annibynnol hynaf Cymru) Gwnaeth Jayne
Bryant ddatganiad am ddadorchuddio plac yn Ysbyty Sant Gwynllyw yn
gynharach y mis hwn i goffáu rhan yr ysbyty yn y Rhyfel Byd Cyntaf. |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Paul Davies: Cyflwyno Bil Arfaethedig Aelod - Bil Awtistiaeth (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.44 |
|
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ymadawiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 16.32 |
|
(15 munud) |
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 02-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 NDM6773
Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Adroddiad y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-18 a osodwyd
gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2. Yn cymeradwyo'r
argymhelliad yn yr adroddiad bod achos o dorri amodau wedi ei ganfod a phenderfynu
y dylai'r Aelod, o dan Reol Sefydlog 22.10 (iii) gael ei geryddu a'i wahardd o
drafodion y Cynulliad am gyfnod o 14 diwrnod calendr, gan ddechrau ar ddiwrnod
cyntaf tymor y Cynulliad ar ôl toriad yr haf (17 Medi 2018). Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.07 NDM6773 Jayne Bryant (Gorllewin
Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried Adroddiad
y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-18 a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 9 Gorffennaf 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 2. Yn cymeradwyo'r
argymhelliad yn yr adroddiad bod achos o dorri amodau wedi ei ganfod a phenderfynu
y dylai'r Aelod, o dan Reol Sefydlog 22.10 (iii) gael ei geryddu a'i wahardd o
drafodion y Cynulliad am gyfnod o 14 diwrnod calendr, gan ddechrau ar ddiwrnod
cyntaf tymor y Cynulliad ar ôl toriad yr haf (17 Medi 2018). Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(30 munud) |
Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017 - 18 NDM6774
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006: Yn nodi'r Adroddiad
Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd
gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Gorffennaf 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.10 NDM6774 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006: Yn
nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn
y Cynulliad, a osodwyd
gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Gorffennaf 2018 Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel NDM6771
John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwneud i’r economi weithio i’r
rheini sydd ag incwm isel', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2018. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf
2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.36 NDM6771 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwneud
i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2018. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Gorffennaf 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6772
John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Gweithredu terfynau cyflymder
diofyn o 20 mya mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.19 NDM6772 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Gweithredu
terfynau cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig yng
Nghymru. |