Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 152(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 a 9 gan Weinidog yr Amgylchedd.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y
Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan y Gweinidog
Tai ac Adfywio. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi terfyn ar
lawdriaeth sy'n defnyddio rhwyll yn y GIG, yn sgil cyhoeddiad am roi terfyn ar
y llawdriniaethau hyn yn Lloegr? Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y
Cabinet ddatganiad am ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru,
yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed yn gynharach yr wythnos hon? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.09 [Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol] Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi terfyn ar lawdriniaeth sy'n
defnyddio rhwyll yn y GIG, yn sgil cyhoeddiad am roi terfyn ar y
llawdriniaethau hyn yn Lloegr? [Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol] Joyce
Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ehangu
addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad a
wnaed yn gynharach yr wythnos hon? |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.39 Gwnaeth Andrew R.T
Davies ddatganiad ar dathlu llwyddiannau Ron a Margaret Harries a
sicrhaodd gofadail ym Mae Caerdydd i gydnabod gwaith y gweithwyr pyllau,
llongau, trên a dociau. |
|
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â'r Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 NDM6767
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad y
Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18 - Ddeddf
Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013’, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018. 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i
adolygu Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn atodiad B i adroddiad y Pwyllgor
Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.40 NDM6767 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried adroddiad
y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18 - Ddeddf
Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018. 2. Yn cymeradwyo’r
cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn atodiad B i adroddiad y
Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru NDM6766 Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyllid Cychwynnol Llywodraeth
Cymru ar gyfer Prosiect CylchfforddCymru', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2018. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf
2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.41 NDM6766 Nick Ramsay (Mynwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus, 'Cyllid Cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer Prosiect
Cylchffordd Cymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mai 2018. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4
Gorffennaf 2018. Derbyniwyd y
cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal NDM6765 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o
feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2018. Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.20 NDM6765 Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth
wrthseicotig mewn cartrefi gofal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2018. Nodyn: Gosodwyd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r
adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell? NDM6768 Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad,
'Ardaloedd Menter: Mynd ymhell', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2018. Nodyn:
Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Gorffennaf 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.17 NDM6768 Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad,
'Ardaloedd Menter: Mynd ymhell', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2018. Nodyn:
Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 4 Gorffennaf 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Ni chafwyd cyfnod pleidleisio |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6763
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Diogelu dyfodol y Prince
Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i Gymru Cofnodion: Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Dirprwy Lywydd
am 17.57 oherwydd anawsterau technegol, gan ailgynnull am 18.03. Dechreuodd yr eitem am 18.03 NDM6763 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Diogelu
dyfodol y Prince Madog: Yr achos dros gael llong ymchwil forwrol genedlaethol i
Gymru. |