Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 146(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/06/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 6 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.20 Gofynnwyd y 9 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.06 Gofynnwyd
y 5 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth: Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb
i'r 203 o swyddi a gollwyd yng nghanolfan alwadau Barclays ym Mhontprennau,
Caerdydd? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.23 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd): Pa gamau y bydd Llywodraeth
Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i'r 203 o swyddi a gollwyd yng nghanolfan alwadau
Barclays ym Mhontprennau, Caerdydd? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.45 Gwnaeth
Rhun ap Iorwerth ddatganiad ar
dathlu 50 mlynedd ers agor Clwb Ffitrwydd a Chodi Pwysau Caergybi ac Ynys Môn Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad ar
Marwolaeth Frank Vickery. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Adroddiad ar y Tanwariant sy’n deillio o Benderfyniadau’r Bwrdd Taliadau Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.48 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Ansawdd Aer NDM6733
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) David
Melding (Canol De Cymru) Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi: a) mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân; b) effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae
ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o
farwolaethau y flwyddyn, sef 6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a c) bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn
goresgyn llygredd aer. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â
llygredd aer parhaus a chyflwyno parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella
iechyd dinasyddion. Cefnogwyr: Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ym mhwynt 2, dileu 'a chyflwyno parthau aer glân i newid
ymddygiad a' a rhoi 'drwy gyflwyno dewisiadau amgen ar gyfer trafnidiaeth a
mynd i'r afael â llygredd diwydiannol er mwyn' yn ei le. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6733 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi: a)
mai 21 Mehefin yw diwrnod aer glân; b)
effaith niweidiol llygredd aer ar ein hiechyd - mae ffigurau Iechyd Cyhoeddus
Cymru yn dangos bod llygredd aer yn achosi 2,000 o farwolaethau y flwyddyn, sef
6 y cant o gyfanswm y marwolaethau yng Nghymru; a c)
bod yn rhaid delio â NO2 a mater gronynnol er mwyn goresgyn llygredd aer. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygredd aer parhaus a chyflwyno
parthau aer glân i newid ymddygiad a gwella iechyd dinasyddion. Cefnogwyr: Lee Waters (Llanelli) Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol NDM6745 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu iechyd
a gofal cymdeithasol Cymru. 2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei
werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar
GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, erbyn mis
Ionawr 2019, strategaeth integredig cynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a
gofal gymdeithasol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau yn gallu mynd i'r afael
â'r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud GIG Cymru yn
esiampl fel cyflogwr o ganlyniad i'w gefnogaeth ar gyfer llesiant yn y gweithle
drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a
datblygu polisïau cadarn sy'n cefnogi iechyd, lles a datblygiad proffesiynol
parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt 2 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu, oherwydd methiant
llywodraethau olynol yng Nghymru i ymgymryd â gwaith cynllunio'r gweithlu
digonol, fod gan y GIG yng Nghymru brinder staff ar draws llawer o feysydd
arbenigol, yn enwedig nyrsio, ymarfer cyffredinol, meddygaeth frys, seiciatreg,
radioleg ac endosgopi; a bod y prinderau hyn yn rhoi straen aruthrol ar staff
presennol ac yn effeithio ar ofal cleifion.
Gwelliant
2 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn
eu lle: Yn croesawu ymrwymiad
Llywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi strategaeth
integredig gynhwysfawr ar gyfer gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn
2019 i sicrhau bod ein gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am
wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y dyfodol; b) gwneud GIG Cymru yn esiampl
o gyflogwr o ran y modd y mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu
polisïau cadarn sy’n hybu iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y
gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. [Os
derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant
3 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ym mhwynt 4, dileu 'weithredu
mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar gyfer gweithwyr y GIG a datblygu' a
rhoi 'ddatblygu' yn ei le. Gwelliant
4 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw am agor canolfan ar
gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg feddygol ledled Cymru i
sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei angen arno. Gwelliant
5 - Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig: Yn galw am sicrhau bod
cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys targedau cadarn ar
gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion ynghylch sut y bydd staff
presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu Cymraeg. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.15 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Y gweithlu iechyd a gofal
cymdeithasol NDM6745 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad
hanfodol a wneir gan weithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. 2. Yn credu y bydd gweithlu
iach sy'n cael ei werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid
sydd ei angen ar GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyhoeddi, erbyn mis Ionawr 2019, strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer
gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru i sicrhau bod ein gwasanaethau yn
gallu mynd i'r afael â'r galw am wasanaethau diogel o ansawdd uchel yn y
dyfodol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i wneud GIG Cymru yn esiampl fel cyflogwr o ganlyniad i'w gefnogaeth ar gyfer
llesiant yn y gweithle drwy weithredu mynediad â blaenoriaeth at driniaeth ar
gyfer gweithwyr y GIG a datblygu polisïau cadarn sy'n cefnogi iechyd, lles a
datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu gofal cymdeithasol a iechyd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu, oherwydd methiant llywodraethau olynol yng
Nghymru i ymgymryd â gwaith cynllunio'r gweithlu digonol, fod gan y GIG yng
Nghymru brinder staff ar draws llawer o feysydd arbenigol, yn enwedig nyrsio,
ymarfer cyffredinol, meddygaeth frys, seiciatreg, radioleg ac endosgopi; a bod
y prinderau hyn yn rhoi straen aruthrol ar staff presennol ac yn effeithio ar
ofal cleifion. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 - Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer
gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn 2019 i sicrhau bod ein
gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd
uchel yn y dyfodol; b) gwneud GIG Cymru yn esiampl o gyflogwr o ran y modd y
mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n hybu
iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu iechyd a gofal
cymdeithasol. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan
fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol Gwelliant
4 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw am agor canolfan ar gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg
feddygol ledled Cymru i sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei
angen arno. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant
5 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw am sicrhau bod cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn cynnwys
targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion ynghylch sut y
bydd staff presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddysgu Cymraeg. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol a wneir gan weithlu
iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. 2. Yn credu y bydd gweithlu iach sy'n cael ei
werthfawrogi a'i gefnogi yn allweddol i sbarduno'r gweddnewid sydd ei angen ar
GIG Cymru i fod yn gynaliadwy yn y dyfodol. 3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i: a) cyhoeddi strategaeth integredig gynhwysfawr ar gyfer
gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn 2019 i sicrhau bod ein
gwasanaethau’n gallu mynd i’r afael â’r galw am wasanaethau diogel o ansawdd
uchel yn y dyfodol; b) gwneud GIG Cymru yn esiampl o gyflogwr o ran y modd y
mae’n cefnogi llesiant yn y gwaith drwy ddatblygu polisïau cadarn sy’n hybu
iechyd, llesiant a datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu iechyd a gofal
cymdeithasol. 4.
Yn galw am agor canolfan ar gyfer addysg feddygol ym Mangor ac ehangu addysg
feddygol ledled Cymru i sicrhau bod gan bob rhanbarth y gweithlu iechyd sydd ei
angen arno. 5.
Yn galw am sicrhau bod cynlluniau gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn
cynnwys targedau cadarn ar gyfer darparu gweithlu dwyieithog a manylion
ynghylch sut y bydd staff presennol y GIG yn cael eu hannog a'u cefnogi i
ddysgu Cymraeg.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd./Gwrthodwyd y
cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.14 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: |