Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 136(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/05/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 2, 6 a 9 gan
Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 3. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.18 Gofynnwyd
cwestiynau 1, 3-7 a 9. Tynnwyd cwestiynau 2 ac 8 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan
y Gweinidog Tai ac Adfywio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth: Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y
Cabinet ddatganiad yn dilyn penderfyniad Virgin Media i gau ei ganolfan alwadau
yn Abertawe gan arwain at golli dros 700 o swyddi? Gofyn
i’r Gweinidog Tai ac Adfywio. Hefin David (Caerffili): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU
am y cynnig arfaethedig i ganoli swyddi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau
yn ystâd ddiwydiannol Trefforest? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.08 Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):
A
wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn penderfyniad Virgin Media i
gau ei ganolfan alwadau yn Abertawe gan arwain at golli dros 700 o swyddi? Gofyn i’r Gweinidog
Tai ac Adfywio: Hefin David (Caerffili): Pa drafodaethau y mae
Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y cynnig arfaethedig i
ganoli swyddi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystâd ddiwydiannol
Trefforest? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.49 Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad ar wythnos Ymwybyddiaeth o Dystonia (5–13 Mai). Gwnaeth
Jayne Bryant ddatganiad ar Arglwyddes Rhondda, yn dilyn 60 mlynedd ers Deddf Arglwyddiaethau
Oes yr wythnos flaenorol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Prentisiaethau yng Nghymru NDM6716
Russell
George (Sir Drefaldwyn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a
Sgiliau ar Brentisiaethau yng Nghymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2018. Nodyn: Gosodwyd
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 1 Mai 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.52 NDM6716
Russell George (Sir Drefaldwyn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Brentisiaethau yng
Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2018 Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Treth trafodiadau tir ar dir masnachol NDM6719
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer
treth trafodiadau tir ar drafodiadau tir masnachol dros £1 miliwn yn sylweddol
uwch na'r cyfraddau cyfatebol ar gyfer trafodiadau o'r fath yn Lloegr
(pump y cant) a'r Alban (4.5 y cant). 2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r
broses oddeutu £12 miliwn i brynu safle gorsaf bysiau Caerdydd ar 29
Mawrth 2018, gan felly osgoi ei chyfundrefn dreth trafodiadau tir ei hun gan
dri diwrnod a sicrhau bod y trafodiad wedi digwydd o dan dreth dir y dreth
stamp Llywodraeth y DU. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn sgil sylwadau gan y
sector, i ailystyried y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer y dreth
trafodiadau tir newydd ar drafodion tir masnachol dros £1 miliwn a fydd yn cael
effaith andwyol ar ddatblygu economaidd yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) Y cymeradwywyd y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y
dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth
unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y
cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1 Ebrill 2018. b) Nad oedd treth dir y dreth stamp yn daladwy wrth brynu
gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth
trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o dan y gyfundrefn honno. Gwelliant
2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu pwerau newydd sydd gan y Cynulliad i newid
cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru. Gwelliant
3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith i
adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.00 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6719 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer treth
trafodiadau tir ar drafodiadau tir masnachol dros £1 miliwn yn sylweddol uwch
na'r cyfraddau cyfatebol ar gyfer trafodiadau o'r fath yn Lloegr (pump y
cant) a'r Alban (4.5 y cant). 2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r broses oddeutu £12
miliwn i brynu safle gorsaf bysiau Caerdydd ar 29 Mawrth 2018, gan felly
osgoi ei chyfundrefn dreth trafodiadau tir ei hun gan dri diwrnod a sicrhau bod
y trafodiad wedi digwydd o dan dreth dir y dreth stamp Llywodraeth y DU. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn sgil sylwadau gan y sector, i ailystyried
y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer y dreth trafodiadau tir newydd ar
drafodion tir masnachol dros £1 miliwn a fydd yn cael effaith andwyol ar
ddatblygu economaidd yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin
Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) Y cymeradwywyd y
cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad
Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad
bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1
Ebrill 2018. b) Nad oedd treth dir y
dreth stamp yn daladwy wrth brynu gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r
gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o
dan y gyfundrefn honno Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu pwerau
newydd sydd gan y Cynulliad i newid cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd,
cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflymu ei gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag
eiddo. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6719 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) Y cymeradwywyd y
cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad
Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad
bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1
Ebrill 2018. b) Nad oedd treth dir y
dreth stamp yn daladwy wrth brynu gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r
gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o
dan y gyfundrefn honno Yn croesawu pwerau
newydd sydd gan y Cynulliad i newid cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd,
cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflymu ei gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag
eiddo.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Isafbris am alcohol NDM6718
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn
ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar
deuluoedd a chymunedau. 2. Yn credu: a) y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer isafbris uned
o alcohol yn cael effaith ariannol andwyol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas; a b) na fydd y gwerth arfaethedig o thua 50 ceiniog yr uned
alcoholig yn llwyddo i wneud unrhyw newid sylweddol i faint o alcohol
y mae'r rhai sy'n yfed llawer o alcohol yn gyson yn ei yfed. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i Fil Iechyd
y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a gwneud mwy i fynd i'r afael â
chamddefnyddio alcohol heb orfod troi at isafbris fesul uned. Bil
Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd
(Isafbris am Alcohol) (Cymru). Yn gresynu at yr effaith niweidiol y gall y Bil ei chael
ar gyllidebau aelwydydd sydd ar incwm isel ac y gall arwain at droi at
sylweddau anghyfreithlon yn lle alcohol. Yn cefnogi diwygio'r Bil, fel yr argymhellwyd gan y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, er mwyn paratoi adroddiad
gwerthuso sy'n cyfeirio at effeithiau isafbris drwy gyfeirio at grŵp
oedran, rhyw a statws economaidd-gymdeithasol, y defnydd o gyffuriau eraill yn
lle alcohol, trais yn y cartref, effaith ar wasanaethau cymorth a'r effaith ar
fanwerthwyr alcohol. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant
2. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol)
(Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar hyn o bryd. Yn nodi bod yr isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un
o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n
gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o alcohol yng Nghymru. Yn nodi’r pecyn gwerth £50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl
sydd â phroblemau alcohol a defnyddio sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn. [Os
derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant
3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le: Yn nodi bod angen i fesurau iechyd y cyhoedd gael cefnogaeth
y cyhoedd i fod yn llwyddiannus ac, er mwyn cyflawni hyn, bod angen pennu
isafbris ar lefel a ategir gan ymchwil cadarn a all ddangos yr
effaith y bydd yn ei chael ar iechyd y cyhoedd, ac yn cydnabod yr angen i osgoi
cael effaith anghymesur ar yfwyr cymedrol ar incwm is. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymgyrch gyfathrebu
eang i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth sy'n esbonio nodau a diben y ddeddfwriaeth,
gan gynnwys camau y gall yfwyr cymedrol eu cymryd i leihau'r effaith ariannol
ar eu hunain, er enghraifft drwy leihau faint o alcohol y maent yn ei yfed
yn gyffredinol neu ddewis diodydd gyda chynnwys alcohol is; byddai'r ddau
yn arwain at fanteision iechyd. Yn cydnabod manteision isafbris alcohol fesul
uned ar gyfer tafarndai. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.05 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6718 Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd
niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a
chymunedau. 2. Yn credu: a) y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer isafbris uned o alcohol yn
cael effaith ariannol andwyol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas; a b) na fydd y gwerth arfaethedig o thua 50 ceiniog yr uned alcoholig
yn llwyddo i wneud unrhyw newid sylweddol i faint o alcohol y mae'r
rhai sy'n yfed llawer o alcohol yn gyson yn ei yfed. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i Fil Iechyd y Cyhoedd
(Isafbris am Alcohol) (Cymru) a gwneud mwy i fynd i'r afael â chamddefnyddio
alcohol heb orfod troi at isafbris fesul uned.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn cefnogi egwyddorion
cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru). Yn gresynu at yr effaith
niweidiol y gall y Bil ei chael ar gyllidebau aelwydydd sydd ar incwm isel ac y
gall arwain at droi at sylweddau anghyfreithlon yn lle alcohol. Yn cefnogi diwygio'r
Bil, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon,
er mwyn paratoi adroddiad gwerthuso sy'n cyfeirio at effeithiau isafbris drwy
gyfeirio at grŵp oedran, rhyw a statws economaidd-gymdeithasol, y defnydd
o gyffuriau eraill yn lle alcohol, trais yn y cartref, effaith ar wasanaethau
cymorth a'r effaith ar fanwerthwyr alcohol. [Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin
Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt
1 a rhoi yn ei le: Yn nodi Bil Iechyd y
Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu
arno ar hyn o bryd. Yn nodi bod yr isafbris
uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i
fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o
alcohol yng Nghymru. Yn nodi’r pecyn gwerth
£50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio
sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn. [Os derbynnir gwelliant
2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Gan fod gwelliant 2
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6718 Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd
niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a
chymunedau. 2.Yn nodi Bil Iechyd y Cyhoedd
(Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar
hyn o bryd. 3.Yn nodi bod yr
isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth
Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a
niweidiol o alcohol yng Nghymru. 4.Yn nodi’r pecyn gwerth
£50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio
sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.58 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6713
David
Melding (Canol De Cymru) Tai yn y cymoedd: treftadaeth y mae gwerth
buddsoddi ynddi. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.03 NDM6713 David Melding (Canol De
Cymru) Tai yn y cymoedd:
treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi. |