Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 126(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 14/03/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan y
Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau
i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.26 Gofynnwyd
y 7 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i Arweinydd y Tŷa’r Prif Chwip: Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru): A
wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd
i'r afael â Islamoffobia a gwella cydlyniant cymunedol yn sgil y llythyrau yn
annog pobl i gosbi Mwslimiaid sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.53 Gofyn
i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Bethan
Sayed (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Arweinydd y Tŷ
ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag Islamoffobia a
gwella cydlyniant cymunedol yn sgil y llythyrau yn annog pobl i gosbi
Mwslimiaid sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.10 Gwnaeth David Rees ddatganiad
ar Wythnos Wyddoniaeth Prydain, ac sut y mae gwyddoniaeth wedi bod o fudd i
economi Cymru. Gwnaeth Dawn Bowden ddatganiad
ar lyfrgell gymunedol Bedlinog. Gwnaeth Nick Ramsay ddatganiad ar ymweliad arfaethedig y
Llysgennad Ruben Zamora â’r Cynulliad. Gwnaeth Russell George ddatganiad i hyrwyddo’r Drenewydd
fel y gymdogaeth orau ym Mhrydain i gerddwyr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 20 mewn perthynas a'r Datganiad am Gynigion y Gyllideb Ddrafft NDM6690 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog:
Rheol Sefydlog 20 - Datganiad am Gynigion y Gyllideb Ddrafft’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2018. 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 20, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.17 NDM6690
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol
Sefydlog 20 - Datganiad am Gynigion y Gyllideb Ddrafft’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2018. 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 20, fel y nodir yn Atodiad B i
Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B mewn perthynas â'r Gofyniad am Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder (adran 110A o'r Ddeddf) NDM6689 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog:
Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B - Gofyniad am Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder
(adran 110A o'r Ddeddf)’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2018. 2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B, fel y
nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes, i fod yn weithredol o 1
Ebrill 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.17 NDM6689
Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau
Sefydlog 26, 26A a 26B - Gofyniad am Asesiadau Effaith ar Gyfiawnder (adran
110A o'r Ddeddf)’, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mawrth 2018. 2.
Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 26, 26A a 26B, fel y nodir yn
Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes, i fod yn weithredol o 1 Ebrill 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Cwmnïau Rheoli Ystadau NDM6681 Hefin
David (Caerffili) 1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau. 2. Diben y Bil hwn fyddai: a) rhoi hawliau sy'n cyfateb i hawliau llesddeiliaid i rydd-ddeiliaid
sy'n talu'r ffioedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn mannau cymunedol a
chyfleusterau ar ystâd breifat neu ddefnydd cymysg a fydd yn eu galluogi i
herio rhesymoldeb taliadau gwasanaeth; b) sicrhau, pan mae rhydd-ddeiliad yn talu tâl rhent, nad yw'r perchennog
sy'n codi rhent yn gallu cymryd meddiant neu roi prydles ar yr eiddo os nad yw
tâl rhent yn cael ei dalu am gyfnod byr o amser; ac c) rhoi hawliau i rydd-ddeiliaid yng Nghymru sy'n cyfateb i hawliau
rhydd-ddeliaid yn Lloegr o ganlyniad i newidiadau i reoleiddio cwmnïau rheoli
ystadau a gynlluniwyd gan Lywodraeth y DU.
Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.26 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM6681 Hefin David (Caerffili) 1. Yn nodi'r cynnig ar
gyfer Bil ar reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau. 2. Diben y Bil hwn
fyddai: a) rhoi hawliau sy'n
cyfateb i hawliau lesddeiliaid i rydd-ddeiliaid sy'n talu'r ffioedd ar
gyfer gwaith cynnal a chadw mewn mannau cymunedol a chyfleusterau ar ystâd
breifat neu ddefnydd cymysg a fydd yn eu galluogi i herio rhesymoldeb taliadau
gwasanaeth; b) sicrhau, pan mae
rhydd-ddeiliad yn talu tâl rhent, nad yw'r perchennog sy'n codi rhent yn gallu
cymryd meddiant neu roi prydles ar yr eiddo os nad yw tâl rhent yn cael ei dalu
am gyfnod byr o amser; ac c) rhoi hawliau i
rydd-ddeiliaid yng Nghymru sy'n cyfateb i hawliau rhydd-ddeliaid yn Lloegr o
ganlyniad i newidiadau i reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau a gynlluniwyd gan
Lywodraeth y DU. Cefnogwyr: Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon NDM6688 Lynne
Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Addysg a Dysgu
Proffesiynol Athrawon', a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2017. Nodyn: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru ar 7 Chwefror 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.52 NDM6688 Lynne
Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Addysg a Dysgu
Proffesiynol Athrawon', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2017. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru – Pobl Ifanc a chymunedau yng Nghymru NDM6692 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) 1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled
Cymru'n profi allfudo sylweddol o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a
thu hwnt. 2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau
Cymru. 3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer cynllun
grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig a'u
denu i'r ardaloedd hynny. 4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i greu cyfleoedd i
bobl ifanc i'w galluogi i ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gwella'r cyfleoedd economaidd a roddir i bobl ifanc mewn cymunedau ym
mhob rhan o Gymru; b) darparu cefnogaeth well i fusnesau newydd yng Nghymru a gwella'r
isadeiledd digidol a thrafnidiaeth y maent yn dibynnu arnynt; c) cefnogi ymagwedd ranbarthol newydd i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd dan
bwysau arbennig o ganlyniad i ymfudiad allanol, e.e. rhanbarth Arfor a'r
cymoedd. d) ystyried a ellir lleoli sefydliadau cenedlaethol presennol neu newydd
mewn ardaloedd yng Nghymru sydd angen mwy o gyfleoedd gwaith; e) darparu tai fforddiadwy a diwygio'r system gynllunio i alluogi pobl
ifanc i aros a/neu ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau; f) ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Adolygiad Diamond i gymell myfyrwyr
sy'n gadael i astudio i ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru: 1. Yn nodi compact Plaid Cymru â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur o
2016-2017 a chytundeb clymblaid Cymru'n Un â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad
Llafur Cymru o 2007-2011, ac yn credu bod Llywodraeth bresennol Cymru a
Llywodraethau Cymru yn y gorffennol wedi methu â chreu cyfleoedd i bobl ifanc
ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i greu
swyddi sy'n talu'n dda i bobl ifanc mewn cymunedau yng Nghymru drwy gymryd
camau sy'n cynnwys: a) lleihau mewnfudo torfol a'r pwysau cysylltiedig y mae'n ei roi ar
gyflogau galwedigaethau heb sgiliau a lled-fedrus, fel y datgelwyd yn
mhapur gweithio Banc Lloegr ar effaith mewnfudo ar gyflogau galwedigaethol; b) lleihau trethi a rheoleiddio ar gyfer pob busnes, yn enwedig busnesau
bach a chanolig; c) lleihau baich treth incwm ac yswiriant cenedlaethol; d) rhoi'r gorau i'r agenda cynhesu byd-eang a datgarboneiddio sy'n agenda
gwneuthuredig, a'i gymorthdaliadau gwyrdd cysylltiedig, sy'n trosglwyddo cyfoeth
oddi wrth y tlawd i'r cyfoethog; e) annog cynllunwyr a llunwyr polisi i symbylu creu swyddi â chyflogau da
mewn ardaloedd gwledig, pentrefi a threfi llai, yn hytrach na dinasoedd mawr yn
unig; ac f) torri cyllideb cymorth tramor nad yw'n ddyngarol ac ailgyfeirio'r
arbedion yn gymesur i bobl Cymru. Bank of England - The impact of immigration on
occupational wages: evidence from Britain (Saesneg yn unig) [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol] Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu strategaeth ddiwydiannol fodern ac uchelgeisiol Llywodraeth
y DU sy'n nodi cynllun tymor hir i hybu cynhyrchiant a grym ennill pobl ifanc
ledled Cymru a'r DU. 2. Yn nodi'r ffigurau a ryddhawyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
sy'n dangos bod graddedigion Cymru yn ennill llai nag yn unman arall yn y DU. 3. Yn gresynu bod Llywodraethau Llafur Cymru – gyda chefnogaeth pleidiau
eraill – ers 1999, wedi methu â chynyddu ffyniant economaidd ac addysgol pobl
ifanc yng Nghymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc
a chymorth i fusnesau ac entrepreneuriaid drwy: a) diddymu ardrethi busnes i bob busnes bach (hyd at £15,000); b) cyflwyno cynllun teithio ar fysiau am ddim a chardiau disgownt
rheilffordd ar gyfer pawb rhwng 16 a 24 oed; ac c) cynyddu cyfleoedd i bobl ifanc i sicrhau cyllid ar gyfer busnesau
newydd. UK Government -
The UK's Industrial Strategy (Saesneg yn unig) [Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol] Gwelliant 3. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod y cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i bobl ifanc,
gan gynnwys drwy: a) Twf Swyddi Cymru, sydd wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael
swyddi o ansawdd da; b) prentisiaethau o ansawdd uchel a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru
wedi’i wneud i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod
tymor y Cynulliad hwn; c) mynediad at dai gan fod 10,000 o dai fforddiadwy wedi’u codi yn ystod y
pedwerydd Cynulliad a chan fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau 20,000 yn
rhagor yn ystod tymor y Cynulliad hwn; d) helpu myfyrwyr â’u costau byw drwy sicrhau y byddant yn derbyn swm sy’n
cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio; e) cynnal Bwrsariaeth y GIG i helpu pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn GIG
Cymru; f) buddsoddi £100m i wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod
tymor y Cynulliad hwn. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.35 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6692 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) 1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled Cymru'n profi allfudo sylweddol
o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a thu hwnt. 2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau
Cymru. 3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer
cynllun grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig
a'u denu i'r ardaloedd hynny. 4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i greu cyfleoedd i
bobl ifanc i'w galluogi i ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) gwella'r cyfleoedd economaidd a roddir i bobl ifanc mewn cymunedau ym
mhob rhan o Gymru; b) darparu cefnogaeth well i fusnesau newydd yng Nghymru a gwella'r
isadeiledd digidol a thrafnidiaeth y maent yn dibynnu arnynt; c) cefnogi ymagwedd ranbarthol newydd i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd
dan bwysau arbennig o ganlyniad i ymfudiad allanol, e.e. rhanbarth Arfor a'r
cymoedd. d) ystyried a ellir lleoli sefydliadau cenedlaethol presennol neu newydd
mewn ardaloedd yng Nghymru sydd angen mwy o gyfleoedd gwaith; e) darparu tai fforddiadwy a diwygio'r system gynllunio i alluogi pobl
ifanc i aros a/neu ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau; f) ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Adolygiad Diamond i gymell
myfyrwyr sy'n gadael i astudio i ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi compact Plaid
Cymru â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur o 2016-2017 a chytundeb
clymblaid Cymru'n Un â Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Llafur Cymru o
2007-2011, ac yn credu bod Llywodraeth bresennol Cymru a Llywodraethau Cymru yn
y gorffennol wedi methu â chreu cyfleoedd i bobl ifanc ddewis byw a gweithio yn
eu cymunedau. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i greu swyddi sy'n talu'n dda i bobl
ifanc mewn cymunedau yng Nghymru drwy gymryd camau sy'n cynnwys: a) lleihau mewnfudo
torfol a'r pwysau cysylltiedig y mae'n ei roi ar gyflogau galwedigaethau
heb sgiliau a lled-fedrus, fel y datgelwyd yn mhapur gweithio Banc Lloegr ar
effaith mewnfudo ar gyflogau galwedigaethol; b) lleihau trethi a
rheoleiddio ar gyfer pob busnes, yn enwedig busnesau bach a chanolig; c) lleihau baich treth
incwm ac yswiriant cenedlaethol; d) rhoi'r gorau i'r
agenda cynhesu byd-eang a datgarboneiddio sy'n agenda gwneuthuredig, a'i
gymorthdaliadau gwyrdd cysylltiedig, sy'n trosglwyddo cyfoeth oddi wrth y tlawd
i'r cyfoethog; e) annog cynllunwyr a
llunwyr polisi i symbylu creu swyddi â chyflogau da mewn ardaloedd gwledig,
pentrefi a threfi llai, yn hytrach na dinasoedd mawr yn unig; ac f) torri cyllideb
cymorth tramor nad yw'n ddyngarol ac ailgyfeirio'r arbedion yn gymesur i bobl
Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Dileu popeth a
rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu
strategaeth ddiwydiannol fodern ac uchelgeisiol Llywodraeth y DU sy'n nodi
cynllun tymor hir i hybu cynhyrchiant a grym ennill pobl ifanc ledled Cymru a'r
DU. 2. Yn nodi'r ffigurau a
ryddhawyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch sy'n dangos bod graddedigion
Cymru yn ennill llai nag yn unman arall yn y DU. 3. Yn gresynu bod
Llywodraethau Llafur Cymru – gyda chefnogaeth pleidiau eraill – ers 1999, wedi
methu â chynyddu ffyniant economaidd ac addysgol pobl ifanc yng Nghymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc a chymorth i fusnesau ac
entrepreneuriaid drwy: a) diddymu ardrethi
busnes i bob busnes bach (hyd at £15,000); b) cyflwyno cynllun
teithio ar fysiau am ddim a chardiau disgownt rheilffordd ar gyfer pawb rhwng
16 a 24 oed; ac c) cynyddu cyfleoedd i
bobl ifanc i sicrhau cyllid ar gyfer busnesau newydd. UK Government - The UK's
Industrial Strategy (Saesneg yn unig) Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Julie James (Gorllewin
Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt
3 a rhoi yn ei le: Yn cydnabod y cymorth y
mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i bobl ifanc, gan gynnwys drwy: a) Twf Swyddi Cymru,
sydd wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da; b) prentisiaethau o
ansawdd uchel a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i greu o leiaf
100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn; c) mynediad at dai gan
fod 10,000 o dai fforddiadwy wedi’u codi yn ystod y pedwerydd Cynulliad a chan
fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau 20,000 yn rhagor yn ystod tymor y
Cynulliad hwn; d) helpu myfyrwyr â’u
costau byw drwy sicrhau y byddant yn derbyn swm sy’n cyfateb i’r cyflog byw
cenedlaethol tra byddant yn astudio; e) cynnal Bwrsariaeth y
GIG i helpu pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn GIG Cymru; f) buddsoddi £100m i
wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6692 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled Cymru'n profi allfudo sylweddol
o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a thu hwnt. 2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau
Cymru. 3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer
cynllun grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig
a'u denu i'r ardaloedd hynny. 4. Yn cydnabod y cymorth
y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i bobl ifanc, gan gynnwys drwy: a) Twf Swyddi Cymru,
sydd wedi helpu mwy na 18,000 o bobl ifanc i gael swyddi o ansawdd da; b) prentisiaethau o
ansawdd uchel a’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i greu o leiaf
100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn; c) mynediad at dai gan
fod 10,000 o dai fforddiadwy wedi’u codi yn ystod y pedwerydd Cynulliad a chan
fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau 20,000 yn rhagor yn ystod tymor y
Cynulliad hwn; d) helpu myfyrwyr â’u costau
byw drwy sicrhau y byddant yn derbyn swm sy’n cyfateb i’r cyflog byw
cenedlaethol tra byddant yn astudio; e) cynnal Bwrsariaeth y
GIG i helpu pobl ifanc i ddechrau ar yrfa yn GIG Cymru; f) buddsoddi £100m i
wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Derbyniwyd y cynnig fel
y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.35 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6685
Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 NDM6685 Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer - gohiriwyd o 28 Chwefror Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.06 NDM6664 Vikki Howells (Cwm Cynon) Bancio
tir, treth ar dir gwag a rhai gwersi o Gwm Cynon. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Enwebiad o dan Reol Sefydlog 10.5 ar gyfer penodi Archwilydd Cyffredinol Cymru NDM6691 Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.5: 1. Yn mynegi ei ddiolchgarwch am gyfraniad Huw Vaughan Thomas yn ystod ei
dymor yn swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru. 2. Gan weithredu o dan adran 2(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
2013, ac ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru
yn unol ag adran 2(3), yn enwebu Adrian Crompton i’w benodi i swydd Archwilydd
Cyffredinol Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau’n syth ar
ôl i swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod yn wag. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.18 NDM6691
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.5: 1.
Yn mynegi ei ddiolchgarwch am gyfraniad Huw Vaughan Thomas yn ystod ei dymor yn
swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru. 2.
Gan weithredu o dan adran 2(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac ar
ôl ymgynghori â chynrychiolwyr cyrff llywodraeth leol yng Nghymru yn unol ag
adran 2(3), yn enwebu Adrian Crompton i’w benodi i swydd Archwilydd Cyffredinol
Cymru gan Ei Mawrhydi am dymor o wyth mlynedd i ddechrau’n syth ar ôl i swydd
Archwilydd Cyffredinol Cymru ddod yn wag. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |