Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 81(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/07/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

Datganiad y Llywydd

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Cyhoeddodd y Llywydd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 3 Gorffennaf 2017.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.16

(45 munud)

3.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.38

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Polisi a Deddfwriaeth yr Amgylchedd Hanesyddol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.20

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Y Gronfa Triniaethau Newydd - Adroddiad Cynnydd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.13

(30 munud)

6.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Diweddariad ar Wasanaeth Braenaru 111 y GIG yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.43

(60 munud)

7.

Dadl: Ystyried yr achos dros drethi newydd yng Nghymru

NDM6352 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Deddf Cymru 2014 yn caniatáu ar gyfer creu trethi Cymreig newydd.

2. Yn cydnabod y bydd gofyn profi'r agwedd newydd hon ar y peirianwaith datganoli.

3. Yn croesawu ystod eang o syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r posibiliadau cyllidol newydd hyn yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai unrhyw drethi newydd gadw at y farn a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2016, "ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid."

'Datganiad Ysgrifenedig - Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)'

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd gael ei gwblhau o fewn chwe blynedd i gyflwyno'r trethi hynny.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.05

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6352 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Deddf Cymru 2014 yn caniatáu ar gyfer creu trethi Cymreig newydd.

 

2. Yn cydnabod y bydd gofyn profi'r agwedd newydd hon ar y peirianwaith datganoli.


3. Yn croesawu ystod eang o syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r posibiliadau cyllidol newydd hyn yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai unrhyw drethi newydd gadw at y farn a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2016, "ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid".

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

9

0

53

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd gael ei gwblhau o fewn chwe blynedd i gyflwyno'r trethi hynny.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM6352 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod Deddf Cymru 2014 yn caniatáu ar gyfer creu trethi Cymreig newydd.

 

2. Yn cydnabod y bydd gofyn profi'r agwedd newydd hon ar y peirianwaith datganoli.


3. Yn croesawu ystod eang o syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r posibiliadau cyllidol newydd hyn yng Nghymru.

4. Yn credu y dylai unrhyw drethi newydd gadw at y farn a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2016, "ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid".

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd gael ei gwblhau o fewn chwe blynedd i gyflwyno'r trethi hynny.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

53

0

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

8.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.08

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: