Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 63(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/04/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

Teyrngedau i Claire Clancy wrth iddi ymddeol

Rhoes y Llywydd deyrnged i Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad, wrth iddi ymddeol. Yna, rhoddwyd teyrngedau gan arweinwyr y pleidiau a chan Dafydd Elis-Thomas, y cyn-Lywydd.

 

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.40

 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

 

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.29

 

Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog i ganiatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried

Dechreuodd yr eitem am 14.40

 

NNDM6290 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

 

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM6289 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 4 Ebrill 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


(90 munud)

3.

Dadl: Y goblygiadau i Gymru yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd

NNDM6289 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru –
Plaid Cymru, "Diogelu Dyfodol Cymru" fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi'r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a'r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.

3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU "Legislating for the United Kingdom's withdrawal from the European Union", a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy'n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad datganoli.

4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i'r strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i'r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.
 
5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy'n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu'n esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o'r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath.

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â'r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogel.

7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i'r perwyl hwnnw.

8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i'r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.

Dogfennau Ategol
Diogelu Dyfodol Cymru
Llythyr y Prif Weinidog yn tanio Erthygl 50
Canllawiau Drafft yr UE ar gyfer Negodiadau Brexit
Papur Gwyn "Legislating for the United Kingdom's withdrawal from the European Union"

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu nad yw Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Plaid Cymru, "Diogelu Dyfodol Cymru" yn gredadwy oherwydd ei ragdybiaethau pesimistaidd afrealistig o gostau honedig gadael yr UE.

Gwelliant 2 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):

Ym mhwynt 3, dileu 'ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad datganoli'.

Gwelliant 3 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):

Ym mhwynt 5, dileu 'bydd rhaid i' a rhoi yn ei le 'dylai'.

Gwelliant 4 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):

Ym mhwynt 5, dileu 'rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath' a rhoi yn ei le:

'yn cydnabod bod ymddygiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wrth barhau i frwydro yn erbyn ymgyrch y refferendwm ar ôl y canlyniad ar 23 Mehefin 2016 yn gwneud canlyniad o'r fath yn afrealistig'.

Gwelliant 5 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):

Dileu pwynt 6.

Gwelliant 6 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, pe bai anhyblygrwydd yr UE yn atal cytundeb masnach rydd â'r DU, byddai costau pontio gadael yr UE, yn seiliedig ar reolau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu lleddfu'n sylweddol gan arbedion Prydain o £8 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau net i Gyllideb yr UE, a refeniw net tebygol ar dollau ar fasnach rhwng yr UE a'r DU o £8 biliwn y flwyddyn.

Gwelliant 7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.


 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.40

 

NNDM6289 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru –

Plaid Cymru, “Diogelu Dyfodol Cymru” fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi’r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a’r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.

 

3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU “Legislating for the United Kingdom’s withdrawal from the European Union”, a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy’n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o’r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a’r setliad datganoli.

 

4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i’r strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i’r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.

 

5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy’n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu’n esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o’r fath.

 

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â’r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogelu.

 

7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i’r perwyl hwnnw.

 

8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i’r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn credu nad yw Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Plaid Cymru, "Diogelu Dyfodol Cymru" yn gredadwy oherwydd ei ragdybiaethau pesimistaidd afrealistig o gostau honedig gadael yr UE.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

10

38

54

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu 'ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o'r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a'r setliad datganoli'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 5, dileu 'bydd rhaid i' a rhoi yn ei le 'dylai'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 5, dileu 'rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o'r fath' a rhoi yn ei le:

'yn cydnabod bod ymddygiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wrth barhau i frwydro yn erbyn ymgyrch y refferendwm ar ôl y canlyniad ar 23 Mehefin 2016 yn gwneud canlyniad o'r fath yn afrealistig'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

10

37

53

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

38

54

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - David J Rowlands (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu, pe bai anhyblygrwydd yr UE yn atal cytundeb masnach rydd â'r DU, byddai costau pontio gadael yr UE, yn seiliedig ar reolau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu lleddfu'n sylweddol gan arbedion Prydain o £8 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau net i Gyllideb yr UE, a refeniw net tebygol ar dollau ar fasnach rhwng yr UE a'r DU o £8 biliwn y flwyddyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

6

10

38

54

Derbyniwyd/Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

39

6

54

Derbyniwyd gwelliant 7.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NNDM6289 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth gref i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru –

Plaid Cymru, “Diogelu Dyfodol Cymru” fel dull credadwy a chynhwysfawr o fynd ati i amddiffyn a hyrwyddo buddiannau Cymru wrth i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

2. Yn nodi’r llythyr a anfonodd Prif Weinidog y DU ar 29 Mawrth 2017 yn unol ag Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, a’r mandad negodi drafft a gyhoeddwyd gan Lywydd y Cyngor Ewropeaidd mewn ymateb iddo.

 

3. Yn nodi ymhellach Bapur Gwyn Llywodraeth y DU “Legislating for the United Kingdom’s withdrawal from the European Union”, a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2017, sy’n amlinellu ei chynigion ar gyfer deddfwriaeth i roi ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar waith, ond yn credu bod gwendidau mawr yn y dadansoddiad o’r rhyngberthynas rhwng pwerau presennol yr UE a’r setliad datganoli.

 

4. Yn ailddatgan y bydd rhaid i’r strwythurau cyfansoddiadol a llywodraethol yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd gael eu seilio ar barch llwyr i’r setliad datganoli a threfniadau gwell ar gyfer cynnal perthynas rynglywodraethol, gyda phedair llywodraeth y DU yn parchu ei gilydd mewn modd cydradd.

 

5. Yn ailddatgan hefyd yn y modd cryfaf posibl y bydd rhaid i unrhyw fframweithiau sy’n ymwneud â meysydd polisi datganoledig, y bydd eu hangen o bosibl er mwyn sicrhau bod marchnad y DU yn gweithredu’n esmwyth, gael eu cytuno drwy gonsensws rhwng Llywodraeth y DU a phob un o’r tair Gweinyddiaeth Ddatganoledig ac y dylent fod yn destun mecanweithiau annibynnol i ddatrys anghydfod; rhaid i gytundeb a chonsensws fod wrth wraidd dulliau gweithredu a fframweithiau cyffredin o’r fath.

 

6. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am gael cymryd rhan uniongyrchol yn y negodiadau ar ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd ac ar y berthynas fasnach ac unrhyw berthynas arall â’r Undeb yn y dyfodol, er mwyn sicrhau bod buddiannau penodol Cymru yn cael eu diogelu.

 

7. Yn cadarnhau ei farn na ddylai Cymru fod o dan unrhyw anfantais yn ariannol yn sgil ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ymrwymiad llawn a chyhoeddus i’r perwyl hwnnw.

 

8. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi adroddiad rheolaidd i’r Cynulliad am y cynnydd a wneir o ran y materion hyn.

 

9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil parhad (Cymru) er mwyn cynnal cyfansoddiad Cymru a throi yr holl ddeddfwriaeth Ewropeaidd sy'n berthnasol i feysydd polisi datganoledig yn ddeddfau i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

1

16

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

(45 munud)

4.

Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) – flwyddyn yn ddiweddarach

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.07

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Dyfodol Gwasanaethau Treftadaeth Cymru – partneriaeth strategol newydd a dyfodol Cadw

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.51

(45 munud)

6.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.47

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):

7.

Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017

NDM6280 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.34

NDM6280 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu'r Weithdrefn) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017

NDM6281 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osdodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

Dogfennau Ategol
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle (Cymru) (Diwygio) 2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Cofnodion:

NDM6281 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osdodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Mawrth 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

9.

Dadl: Cyfnod 4 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

NDM6291 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

Dogfennau Ategol
Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)
Memorandwm Esboniadol
Datganiad y Llywydd - Adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 - Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.37

 

NDM6291 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo’r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(0 munud)

10.

TYNNWYD YN OL: Dadl: Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd

11.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.48

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: