Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 51(v4) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cofnod y Trafodion

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14.17

I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cwmni Kancoat o Abertawe?

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.39

(45 munud)

3.

Datganiad gan Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Chwaraeon Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.57

(45 munud)

4.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: Cymunedau Cryf - Camau Nesaf

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.17

(45 munud)

5.

Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.06

(15 munud)

6.

Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017

NDM6234 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2017

Dogfennau Ategol
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.02

NDM6234 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2017.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

7.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil

NDM6233 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil sy'n ymwneud â graddio addysg uwch, cymorth ariannol i fyfyrwyr, y cynllun annibynnol ar gyfer ymdrin â chwynion myfyrwyr a chymorth ar gyfer ymchwil, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd ac fe'i diwygiwyd ar 1 Rhagfyr. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Ionawr yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Dogfennau Ategol
Bil Addysg Uwch ac Ymchwil
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Diwygiedig
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.15

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6233 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil sy'n ymwneud â graddio addysg uwch, cymorth ariannol i fyfyrwyr, y cynllun annibynnol ar gyfer ymdrin â chwynion myfyrwyr a chymorth ar gyfer ymchwil, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd ac fe'i diwygiwyd ar 1 Rhagfyr. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Ionawr yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

8

51

Derbyniwyd y cynnig.

(60 munud)

8.

Dadl: Morlynnoedd Llanw

NDM6237

Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:

1. Croesawu Adroddiad Hendry a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlynnoedd llanw ym Mhrydain.

2. Cydnabod yr angen i Lywodraeth Prydain gysylltu â Llywodraeth Cymru yn barhaus wrth ddatblygu a gweithredu polisïau ar gyfer morlynnoedd llanw.

3. Cydnabod, wrth sicrhau y trawsnewidiad i economi carbon isel, y dylai Cymru gael cymaint o fanteision economaidd â phosib o'r diwydiant ynni morlynnoedd llanw a thechnolegau llanw eraill, ar yr amod bod prosiectau o'r fath yn derbyn y gymeradwyaeth angenrheidiol.

Dogfen Ategol
Adroddiad Hendry

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.31

9.

Dadl: Setliad yr Heddlu 2017-18

NDM6235 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-2018 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.

Dogfen Ategol
Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-2018 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.34

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM6235 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-2018 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

9

52

Derbyniwyd y cynnig.

10.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.52

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: