Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 44(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1, 2 a 4 - 6. Ni ofynnwyd cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.52 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 Gwnaeth
Simon Thomas ddatganiad ar Chelsea Manning. Gwnaeth
Suzy Davies ddatganiad ar gyfarpar diffibrilio allanol awtomataidd a'u
manteision i'r gymuned. Gwnaeth
Jayne Bryant ddatganiad ar Arlywydd Obama a’i ymweliad â Chasnewydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6208 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Brif Weinidog
Cymru - yn absenoldeb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU - i gwrdd â
Chadeirydd dros dro Tata Steel i wella telerau'r cytundeb a gynigir gan isadran
y cwmni yn y DU i weithwyr dur yng Nghymru; ac y dylai cynnig diwygiedig o'r
fath gynnwys ymrwymiadau cyfrwymol ac ysgrifenedig ar gyflogaeth, buddsoddi a
diogelu hawliau pensiwn cronedig. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a
phartïon â diddordeb i baratoi strategaeth arall pe byddai'r cynnig presennol
yn cael ei wrthod gan y gweithlu dur yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol ac allweddol y
diwydiant dur i Gymru a'i heconomi. 2. Yn croesawu'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth
Cymru wedi'i rhoi er mwyn helpu i sicrhau bod dur yn parhau i gael ei gynhyrchu
a bod swyddi dur yn cael eu cadw ar holl safleoedd TATA yng Nghymru. 3. Yn nodi'r trafodaethau diweddar rhwng undebau llafur a
TATA ynghylch pensiynau ac yn cydnabod mai penderfyniad i'r gweithwyr fydd
unrhyw newidiadau i'r cynllun pensiwn drwy bleidlais ddemocrataidd ac na ddylai
fod unrhyw ymyrraeth wleidyddol. 4. Yn annog TATA i egluro'n glir ac yn fanwl i'r
gweithwyr oblygiadau'r cytundeb y maent wedi cytuno arno. 5. Yn nodi'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi arwain
trafodaethau ag uwch reolwyr TATA dros y misoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod
hawliau'r gweithwyr yn cael eu diogelu ac y bydd y trafodaethau hynny'n parhau
dros yr wythnosau nesaf. 6. Yn cydnabod y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau
i wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu gweithwyr, eu swyddi ac i sicrhau
diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael
eu dad-ddethol] Gwelliant 2. Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cytuno â gweithwyr ac undebau o weithfeydd dur Tata
ym Mhort Talbot na ddylai gwleidyddion fod yn ceisio dylanwadu ar weithwyr
ynghylch y cynnig arfaethedig i gadw'r gweithfeydd ar agor. 2. Yn credu ei bod hi'n hanfodol bod gweithwyr yn cael yr
amser a'r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad ar y cynigion ar sail
gwybodaeth. [Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei
dad-ddethol] Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi sylwadau'r Prif Weinidog ar y cynnig i
weithwyr Tata Steel a'i effaith ar ddyfodol hirdymor y diwydiant dur yng
Nghymru. 2. Yn cydnabod rôl Llywodraeth y DU o ran cefnogi'r
diwydiant dur drwy gyflwyno'r rheolau newydd ar gaffael cyhoeddus a thrwy
gynyddu cymorth ynghylch costau ynni, gan sicrhau arbedion o £400 miliwn i'r
diwydiant erbyn diwedd tymor Senedd bresennol y DU. 3. Yn cydnabod mai dyma'r unig gynnig sydd ar gael i
weithlu Tata Steel ar hyn o bryd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn barod
i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a phartïon eraill sydd â diddordeb i
ddatblygu strategaeth amgen pe digwydd i'r cynnig hwn gael ei wrthod. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.07 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6208 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Brif
Weinidog Cymru - yn absenoldeb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU - i gwrdd â
Chadeirydd dros dro Tata Steel i wella telerau'r cytundeb a gynigir gan isadran
y cwmni yn y DU i weithwyr dur yng Nghymru; ac y dylai cynnig diwygiedig o'r
fath gynnwys ymrwymiadau cyfrwymol ac ysgrifenedig ar gyflogaeth, buddsoddi a
diogelu hawliau pensiwn cronedig. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a phartïon â diddordeb i baratoi
strategaeth arall pe byddai'r cynnig presennol yn cael ei wrthod gan y gweithlu
dur yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
pwysigrwydd strategol ac allweddol y diwydiant dur i Gymru a'i heconomi. 2. Yn croesawu'r
gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi er mwyn helpu i
sicrhau bod dur yn parhau i gael ei gynhyrchu a bod swyddi dur yn cael eu cadw
ar holl safleoedd TATA yng Nghymru. 3. Yn nodi'r
trafodaethau diweddar rhwng undebau llafur a TATA ynghylch pensiynau ac yn
cydnabod mai penderfyniad i'r gweithwyr fydd unrhyw newidiadau i'r cynllun
pensiwn drwy bleidlais ddemocrataidd ac na ddylai fod unrhyw ymyrraeth
wleidyddol. 4. Yn annog TATA i
egluro'n glir ac yn fanwl i'r gweithwyr oblygiadau'r cytundeb y maent wedi
cytuno arno. 5. Yn nodi'r ffaith bod
y Prif Weinidog wedi arwain trafodaethau ag uwch reolwyr TATA dros y misoedd
diwethaf er mwyn sicrhau bod hawliau'r gweithwyr yn cael eu diogelu ac y bydd y
trafodaethau hynny'n parhau dros yr wythnosau nesaf. 6. Yn cydnabod y ffaith
y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu
gweithwyr, eu swyddi ac i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan
fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu ddad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6208 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod
pwysigrwydd strategol ac allweddol y diwydiant dur i Gymru a'i heconomi. 2. Yn croesawu'r
gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi er mwyn helpu i
sicrhau bod dur yn parhau i gael ei gynhyrchu a bod swyddi dur yn cael eu cadw
ar holl safleoedd TATA yng Nghymru. 3. Yn nodi'r
trafodaethau diweddar rhwng undebau llafur a TATA ynghylch pensiynau ac yn
cydnabod mai penderfyniad i'r gweithwyr fydd unrhyw newidiadau i'r cynllun
pensiwn drwy bleidlais ddemocrataidd ac na ddylai fod unrhyw ymyrraeth
wleidyddol. 4. Yn annog TATA i
egluro'n glir ac yn fanwl i'r gweithwyr oblygiadau'r cytundeb y maent wedi
cytuno arno. 5. Yn nodi'r ffaith bod
y Prif Weinidog wedi arwain trafodaethau ag uwch reolwyr TATA dros y misoedd
diwethaf er mwyn sicrhau bod hawliau'r gweithwyr yn cael eu diogelu ac y bydd y
trafodaethau hynny'n parhau dros yr wythnosau nesaf. 6. Yn cydnabod y ffaith
y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu
gweithwyr, eu swyddi ac i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6209 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn credu: a) y dylai'r Grid Cenedlaethol ddefnyddio ceblau o dan y ddaear neu o dan y
môr neu ddewisiadau amgen eraill i gario trydan drwy Barciau Cenedlaethol ac
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru lle bo hynny'n ymarferol; b) y dylai fod rhagdybiaeth o blaid ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau
amgen eraill yn hytrach na pheilonau trydan mewn unrhyw ddatblygiadau newydd
neu gyfredol yng Nghymru gan y Grid Cenedlaethol; ac c) y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar
y peilonau presennol a'u disodli gan geblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen
eraill. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Yn is-bwynt (b) dileu 'y dylai fod rhagdybiaeth o blaid' a
rhoi yn ei le 'y dylid ffafrio'. Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Yn
is-bwynt (c) dileu 'y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o
gael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli' a rhoi yn ei le 'y dylai Ofgem
ymrwymo i gynnal ac estyn y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol i Gymru er
mwyn cael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli'. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.10 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6209 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu: a) y dylai'r Grid
Cenedlaethol ddefnyddio ceblau o dan y ddaear neu o dan y môr neu ddewisiadau
amgen eraill i gario trydan drwy Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch
Naturiol Eithriadol yng Nghymru lle bo hynny'n ymarferol; b) y dylai fod
rhagdybiaeth o blaid ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill yn
hytrach na pheilonau trydan mewn unrhyw ddatblygiadau newydd neu gyfredol yng
Nghymru gan y Grid Cenedlaethol; ac c) y dylid gwneud
astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar y peilonau presennol
a'u disodli gan geblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn is-bwynt (b) dileu 'y
dylai fod rhagdybiaeth o blaid' a rhoi yn ei le 'y dylid ffafrio'. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant
2. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Yn is-bwynt (c) dileu 'y
dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar y
peilonau presennol a'u disodli' a rhoi yn ei le 'y dylai Ofgem ymrwymo i gynnal
ac estyn y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol i Gymru er mwyn cael gwared ar
y peilonau presennol a'u disodli'. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6209 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn credu: a) y dylai'r Grid
Cenedlaethol ddefnyddio ceblau o dan y ddaear neu o dan y môr neu ddewisiadau
amgen eraill i gario trydan drwy Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch
Naturiol Eithriadol yng Nghymru lle bo hynny'n ymarferol; b) y dylid ffafrio ceblau
o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill yn hytrach na pheilonau trydan mewn
unrhyw ddatblygiadau newydd neu gyfredol yng Nghymru gan y Grid Cenedlaethol;
ac c) y dylai Ofgem ymrwymo
i gynnal ac estyn y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol i Gymru er mwyn cael
gwared ar y peilonau presennol a'u disodli gan geblau o dan y ddaear neu
ddewisiadau amgen eraill.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6205 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r pryder am y casgliadau sbwriel tair a phedair wythnos a
gynigir gan rai awdurdodau lleol ledled Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynghorau yn casglu
gwastraff gweddilliol bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y
cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) 1. Yn nodi bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn
cynnig casglu biniau bob tair wythnos neu bob pedair wythnos. 2. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru yn 'Tuag at Ddyfodol
Diwastraff' y bydd pob sector yng Nghymru yn ailgylchu o leiaf 70 y cant o'i
wastraff erbyn 2025. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu
faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy wahardd deunydd pacio Styrofoam. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu
faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy gyflwyno cynllun dychwelyd
blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
dad-ddethol] Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i
gwastraff yn 2015/16 a chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd
uchaf yn Ewrop. 2. Yn derbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd
lleoliaeth, i benderfynu pa mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n
cydnabod nad yw casgliadau gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio
anghyfreithlon nac yn peryglu iechyd y cyhoedd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.02 Cafodd y trafodion eu hatal dros dro gan y Llywydd
am 17.11 oherwydd i doriad trydan effeithio ar y Siambr. Cafodd y gloch ei
chanu 2 funud cyn ailgynnull am 17.41. Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6205 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi'r pryder am y casgliadau sbwriel tair a phedair wythnos a gynigir gan
rai awdurdodau lleol ledled Cymru. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynghorau yn casglu gwastraff
gweddilliol bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal
tipio anghyfreithlon.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn nodi bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig casglu biniau bob tair
wythnos neu bob pedair wythnos 2.
Yn nodi targed Llywodraeth Cymru yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' y bydd pob
sector yng Nghymru yn ailgylchu o leiaf 70 y cant o'i wastraff erbyn 2025 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent
yn ei ailgylchu drwy wahardd deunydd pacio Styrofoam 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent
yn ei ailgylchu drwy gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer plastig,
gwydr a chaniau Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i gwastraff yn 2015/16 a
chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd uchaf yn Ewrop. 2.
Yn derbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd lleoliaeth, i benderfynu pa
mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n cydnabod nad yw casgliadau
gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio anghyfreithlon nac yn peryglu
iechyd y cyhoedd. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM6205 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i gwastraff yn 2015/16 a
chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd uchaf yn Ewrop. 2.
Yn derbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd lleoliaeth, i benderfynu pa
mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n cydnabod nad yw casgliadau
gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio anghyfreithlon nac yn peryglu
iechyd y cyhoedd.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6207 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o gymorth i fusnesau bach yr effeithir
arnynt gan y broses ailbrisio ardrethi annomestig yn 2017, gan gynnwys rhagor o
wybodaeth am y £10 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod: a) bod ardrethi annomestig yn cyfrannu £1biliwn at
ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru; b) y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na £200 miliwn
o gymorth i drethdalwyr yng Nghymru yn 2017-18 i dalu ardrethi annomestig; a c) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn
cynnwys cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol newydd sy'n werth £10 miliwn i helpu
busnesau yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio a gynhaliwyd yn 2017 gan y
corff annibynnol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a chynllun rhyddhad arbennig
newydd wedi'i dargedu, sy'n werth £10 miliwn, i roi cymorth ychwanegol i'r
stryd fawr. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
dad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn
unol â hynny: Yn croesawu'r rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol gwerth
£10 miliwn sydd wedi'i sicrhau gan Blaid Cymru fel rhan o'r trafodaethau
ynghylch cyllideb 2017/18. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.03 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6207 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i roi rhagor o gymorth i fusnesau bach yr effeithir arnynt gan y broses
ailbrisio ardrethi annomestig yn 2017, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am y £10
miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod: a) bod ardrethi
annomestig yn cyfrannu £1 biliwn at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng
Nghymru; b) y bydd Llywodraeth
Cymru yn darparu mwy na £200 miliwn o gymorth i drethdalwyr yng Nghymru yn
2017-18 i dalu ardrethi annomestig; a c) bod Cyllideb
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn cynnwys cynllun rhyddhad ardrethi
trosiannol newydd sy'n werth £10 miliwn i helpu busnesau yr effeithir arnynt
gan y broses ailbrisio a gynhaliwyd yn 2017 gan y corff annibynnol, Asiantaeth
y Swyddfa Brisio, a chynllun rhyddhad arbennig newydd wedi'i dargedu, sy'n
werth £10 miliwn, i roi cymorth ychwanegol i'r stryd fawr. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan
fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6207 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn cydnabod: a) bod ardrethi
annomestig yn cyfrannu £1 biliwn at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng
Nghymru; b) y bydd Llywodraeth
Cymru yn darparu mwy na £200 miliwn o gymorth i drethdalwyr yng Nghymru yn
2017-18 i dalu ardrethi annomestig; a c) bod Cyllideb
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn cynnwys cynllun rhyddhad ardrethi
trosiannol newydd sy'n werth £10 miliwn i helpu busnesau yr effeithir arnynt
gan y broses ailbrisio a gynhaliwyd yn 2017 gan y corff annibynnol, Asiantaeth
y Swyddfa Brisio, a chynllun rhyddhad arbennig newydd wedi'i dargedu, sy'n
werth £10 miliwn, i roi cymorth ychwanegol i'r stryd fawr.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.33 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6206 Julie
Morgan (Gogledd Caerdydd) Cywiro'r cam - honiadau
hanesyddol yn ymwneud â disgyblion yn Ysgolion Preswyl y Royal Cambrian a
Llandrindod ar gyfer Plant Byddar. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.39 NDM6206 Julie Morgan (Gogledd
Caerdydd) Cywiro'r cam - honiadau
hanesyddol yn ymwneud â disgyblion yn Ysgolion Preswyl y Royal Cambrian a
Llandrindod ar gyfer Plant Byddar. |