Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 42(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 11/01/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.16 Gofynnwyd
y 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd.
Atebwyd cwestiynau 1 a 4 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.03 Ni
chyflwynwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.03 Gwnaeth
Janet Finch-Saunders ddatganiad ar bwysigrwydd parciau cenedlaethol yng
Nghymru. Gwnaeth
Hefin David ddatganiad yn talu teyrnged i’r diweddar Cyril Thomas, cyn ddirprwy
brifathro Ysgol y Bechgyn Lewis, Pengam. Gwnaeth
Bethan Jenkins ddatganiad yn talu teyrnged i Rebecca Evans o Shelter Cymru a fu
farw yn ddiweddar mewn damwain car ar yr M4 ym Margam. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6195 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd,
Llesiant a Chwaraeon ym mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. 2. Yn nodi ymhellach ymateb
Coleg Brenhinol y Meddygon i'r
ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau
sy’n wynebu byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn
adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”, ac; “Mae
byrddau iechyd yn gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a
cheisio ei dal hi ymhob man.” 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad
statws o ran sut y mae ei chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau
Byrddau Iechyd Cymru, yn perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG
Cymru. 'Datganiad:
Parodrwydd ar gyfer y gaeaf' ‘Ymchwiliad
i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17: Ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon
(Cymru)’ Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg): Dileu popeth ar ôl "pwysau ehangach ar y GIG ac ar
ofal cymdeithasol" ym mhwynt 2 a rhoi yn ei le: 3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag
erioed yn y GIG i ateb y galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. 4. Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal
cymdeithasol sydd wedi gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau
triniaeth a gofal o'r radd flaenaf i gleifion. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad
statws ar berfformiad cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG
Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG
Cymru. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 3, yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol
â hynny: "Yn nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd,
yn gweithredu mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi ym mhob man,
a bod y gwasanaethau hyn hefyd yn elfen bwysig o barodrwydd ar gyfer y
gaeaf." Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.08 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6195 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym
mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. 2.
Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i
barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu
byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn adlewyrchu’r
pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”, ac; “Mae byrddau iechyd yn
gweithio mewn cyd-destun o ddiffyg cyllid, diffyg meddygon a cheisio ei dal hi
ymhob man.” 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws o ran sut y mae ei
chynlluniau ar gyfer 2016/17, ynghyd â chynlluniau Byrddau Iechyd Cymru, yn
perfformio o gymharu â’r sefyllfa bresennol ledled GIG Cymru.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg): Dileu
popeth ar ôl "pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol" ym
mhwynt 2 a rhoi yn ei le: 3.
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y
galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. 4.
Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi
gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd
flaenaf i gleifion. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad
cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans
Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ôl pwynt 2, ac ailrifo yn unol â hynny: "Yn
nodi bod gwasanaethau gofal cymdeithasol, hefyd, yn gweithredu mewn cyd-destun
o ddiffyg cyllid a cheisio ei dal hi ym mhob man, a bod y gwasanaethau hyn
hefyd yn elfen bwysig o barodrwydd ar gyfer y gaeaf." Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd
gwelliant 2. Gan fod gwelliant 1 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM6195 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ym
mis Tachwedd 2016 ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf. 2.
Yn nodi ymhellach ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon i'r ymchwiliad i
barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17, sy'n nodi: “Mae’r sialensiau sy’n wynebu
byrddau iechyd wrth iddynt baratoi am y gaeaf yn gymhleth. Maent yn
adlewyrchu’r pwysau ehangach ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol”. 3.
Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru'n buddsoddi mwy nag erioed yn y GIG i ateb y
galw cynyddol, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. 4.
Yn cofnodi ei gefnogaeth i'r GIG a'r staff gofal cymdeithasol sydd wedi
gweithio'n galed tu hwnt dros y gaeaf i sicrhau triniaeth a gofal o'r radd
flaenaf i gleifion. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu adroddiad statws ar berfformiad
cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans
Cymru 2016/17 yn erbyn y sefyllfa bresennol ar draws GIG Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6196 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol
Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau gordewdra yng Nghymru ar gynnydd. 2. Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion
wedi cael eu cofnodi i fod dros eu pwysau neu'n ordew, fel y nodwyd yn yr
Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew
neu dros eu pwysau, fel y cofnodir yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad
Blynyddol Presennol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r
diffyg cydlyniant rhwng ei mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid
llywodraeth leol, sy'n rhwystro defnydd effeithiol o'r rhaglenni hyn. 'Rhaglen Mesur Plant
Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol' Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro
Morgannwg): Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi: a) a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol
Gordewdra, mai ychydig o newid sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu
pwysau neu'n ordew yng Nghymru ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd
hynny'n gostwng; b) bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59
y cant o oedolion yn cael eu cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a
bod Adroddiad Blynyddol Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2
y cant o blant dros eu pwysau neu'n ordew; ac c) bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws
pob maes portffolio - gan gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a
llywodraeth leol - i helpu pobl Cymru i fyw bywydau iach. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2, yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Yn nodi bod trethi ar gynnyrch afiach a rheolau'n ymwneud
â hysbysebu cynnyrch o'r fath yn faterion nad ydynt wedi'u datganoli, ac yn
gresynu bod llywodraethau dilynol y DU wedi methu â defnyddio'r pwerau hyn i
fynd i'r afael â gordewdra. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.42 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6196 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi, yng ngoleuni Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, bod lefelau
gordewdra yng Nghymru ar gynnydd. 2.
Yn mynegi pryder bod cymaint â 59 y cant o oedolion wedi cael eu cofnodi i fod
dros eu pwysau neu'n ordew, fel y nodwyd yn yr Arolwg Iechyd Cymru diweddar, a
bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn ordew neu dros eu pwysau, fel y cofnodir
yn Rhaglen Mesur Plant Cymru: Adroddiad Blynyddol Presennol. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg cydlyniant rhwng ei
mentrau iechyd cyhoeddus, a thoriadau i gyllid llywodraeth leol, sy'n rhwystro
defnydd effeithiol o'r rhaglenni hyn.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg): Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn nodi: a)
a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid
sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru
ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng; b)
bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu
cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol
Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau
neu'n ordew; a c)
bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan
gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl
Cymru i fyw bywydau iach. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd
gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i
dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM6196 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi: a)
a hithau'n Wythnos Ymwybyddiaeth Genedlaethol Gordewdra, mai ychydig o newid
sydd wedi bod yn nifer yr oedolion sydd dros eu pwysau neu'n ordew yng Nghymru
ers 2012 - ond ein bod am weld y niferoedd hynny'n gostwng; b)
bod yr Arolwg Iechyd Cymru diweddaraf yn dangos bod 59% o oedolion yn cael eu
cyfrif yn rhai sydd dros eu pwysau neu'n ordew, a bod Adroddiad Blynyddol
Presennol Rhaglen Mesur Plant Cymru yn cofnodi bod 26.2% o blant dros eu pwysau
neu'n ordew; a c)
bod Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi ar draws pob maes portffolio - gan
gynnwys drwy GIG Cymru, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol - i helpu pobl
Cymru i fyw bywydau iach.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6198 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn
cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd
pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar
hyd a lled y wlad. 2. Yn
credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer Cymru
ffyniannus. 3. Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu
cynaliadwyedd sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol. 4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i: a)
diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu
ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle; b)
sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid
staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a
chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff; c)
sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym
mhrifysgolion Cymru; d)
galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl
astudio; ac e)
dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro) Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau a), b), c) a d) a rhoi yn
eu lle: 'a) manteisio i'r eithaf ar ffynonellau rhyngwladol o ran
cyllid ymchwil ar gyfer prifysgolion Cymru; b) cefnogi mentrau cydweithredu sy'n cynnig cyfleoedd i
fyfyrwyr, ymchwilwyr a staff prifysgolion Cymru ymgysylltu â rhaglenni cyfnewid
rhyngwladol; c) archwilio'r posibilrwydd o ddatblygu trefniadau
dwyochrog â'r UE i fynd i'r afael â phryderon ynghylch statws gwladolion yr UE
sy'n gweithio mewn prifysgolion yng Nghymru; d) parhau i gynnig cyfleoedd i raddedigion rhyngwladol
gael fisas ar ôl eu hastudiaethau i'w galluogi i weithio a sefydlu busnesau yn
y DU;’ Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6198 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod pa mor bwysig yw sector addysg uwch Cymru o ran cynnig cyfleoedd
pwysig i bobl Cymru, a sicrhau manteision economaidd sylweddol i gymunedau ar
hyd a lled y wlad. 2.
Yn credu bod sector addysg uwch llwyddiannus a bywiog yn hanfodol ar gyfer
Cymru ffyniannus. 3.
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth sydd ei angen i ddiogelu cynaliadwyedd
sector addysg uwch Cymru ar gyfer y dyfodol. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i: a)
diogelu cyllid a rhaglenni presennol yr UE ar gyfer ymchwil ac addysg uwch neu
ddarparu cyllid a rhaglenni yn eu lle; b)
sicrhau bod prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yng nghynllun cyfnewid
staff a myfyrwyr Erasmus+, a chefnogi rhagor o gydweithio rhyngwladol a
chyfnewid o ran myfyrwyr, ymchwilwyr a staff; c)
sicrhau statws fisa a dinasyddiaeth gwladolion yr UE sy'n gweithio ym mhrifysgolion
Cymru; d)
galluogi prifysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cynllun fisa i weithio ar ôl
astudio; ac e)
dileu myfyrwyr rhyngwladol o dargedau mudo net y DU. o
dargedau symud net y DU.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6197 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i
ganfod ffeithiau a gweld drosto'i hun beth yw'r beichiau a'r costau
rheoleiddiol a osodir ar Norwy yn sgil aelodaeth lawn o Farchnad Sengl yr UE. 2. Yn nodi bod y beichiau a'r costau hyn yn berthnasol
i holl fusnesau Norwy, pa un a ydynt yn allforio i'r UE ai peidio. 3. Yn credu: a) mai er budd gorau Cymru y caiff deddfau a
rheoliadau eu gwneud gan gynrychiolwyr Prydain sydd wedi'u hethol yn
ddemocrataidd yn San Steffan a Chaerdydd, yn hytrach na chan swyddogion pell ym
Mrwsel, nad ydynt yn atebol i neb; a b) byddai aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn gwahardd
rheolaeth effeithiol o ran mewnfudo dinasyddion yr UE i'r DU, ac yn tanseilio
canlyniad y refferendwm a difetha dymuniadau'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru. 4. Yn nodi, bod yr UE yn allforio £8 biliwn yn fwy mewn
nwyddau i'r DU bob mis nag y mae'r DU yn ei allforio i'r UE. 5. Yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth
y DU o geisio am yr uchafswm posibl o ran masnach rydd â'r UE, yn unol â
rheolaeth fewnfudo gadarn. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli
Sir Benfro): [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2, yn cael ei dad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy. 2. Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd
Ewropeaidd a'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a
dilyffethair i'r Farchnad Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd
Ewropeaidd a/neu'r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.22 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6197 Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i ganfod ffeithiau a gweld drosto'i
hun beth yw'r beichiau a'r costau rheoleiddiol a osodir ar Norwy yn sgil
aelodaeth lawn o Farchnad Sengl yr UE. 2.
Yn nodi bod y beichiau a'r costau hyn yn berthnasol i holl fusnesau Norwy, pa
un a ydynt yn allforio i'r UE ai peidio. 3.
Yn credu: a)
mai er budd gorau Cymru y caiff deddfau a rheoliadau eu gwneud gan
gynrychiolwyr Prydain sydd wedi'u hethol yn ddemocrataidd yn San Steffan a
Chaerdydd, yn hytrach na chan swyddogion pell ym Mrwsel, nad ydynt yn atebol i
neb; a b)
byddai aelodaeth o'r Farchnad Sengl yn gwahardd rheolaeth effeithiol o ran
mewnfudo dinasyddion yr UE i'r DU, ac yn tanseilio canlyniad y refferendwm a
difetha dymuniadau'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru. 4.
Yn nodi, bod yr UE yn allforio £8 biliwn yn fwy mewn nwyddau i'r DU bob mis nag
y mae'r DU yn ei allforio i'r UE. 5.
Yn cefnogi safbwynt negodi cyffredinol Llywodraeth y DU o geisio am yr uchafswm
posibl o ran masnach rydd â'r UE, yn unol â rheolaeth fewnfudo gadarn.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn croesawu bwriad Prif Weinidog y DU i adeiladu perthynas rymus newydd â'r
Undeb Ewropeaidd, sy'n gweithio i'r Deyrnas Unedig ac i Gymru. 2.
Yn cydnabod pwysigrwydd masnachu ag Ewrop a gweddill y byd, sy'n hanfodol i
ddyfodol economi Cymru. 3.
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau perthynas fasnachu gref sy'n
rhoi rhyddid i gwmnïau Prydain fasnachu a gweithredu yn y Farchnad Sengl ac y
dylai trefniadau cyfatebol gael eu cynnig i fusnesau'r UE sy'n masnachu ac yn
gweithredu yn y DU. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy. 2.
Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Gymdeithas
Fasnach Rydd Ewropeaidd. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyfethair i'r Farchnad
Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu'r
Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM6197 Neil Hamilton
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn croesawu ymweliad y Prif Weinidog â Norwy. 2.
Yn nodi bod Norwy yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Gymdeithas
Fasnach Rydd Ewropeaidd. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi mynediad llawn a dilyfethair i'r Farchnad
Sengl Ewropeaidd, drwy aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a/neu'r
Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.11 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6199 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru) O'r golwg yng ngolwg pawb: unigrwydd yng nghymunedau
Cymru, a beth i'w wneud amdano Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.18 NDM6199 Joyce Watson
(Canolbarth a Gorllewin Cymru) O'r
golwg yng ngolwg pawb: unigrwydd yng nghymunedau Cymru, a beth i'w wneud amdano |