Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 34(v2)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 23/11/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 13.30 Gofynnwyd y 9
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar
ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.19 Gofynnwyd y 9
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 15.05 Gofynnwyd y
cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.07 Gwnaeth Joyce Watson ddatganiad ar ymgyrch y rhuban gwyn. Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad ar gynllun strategol
newydd Girlguiding Cymru. Gwnaeth Julie Morgan
ddatganiad ar ddadorchuddio plac yn Ystum Taf yn coffáu Idloes Owen, sylfaenydd
Opera Cenedlaethol Cymru. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26 mewn perthynas â Biliau Aelod NDM6169 Elin Jones
(Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau
Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 - Biliau Aelod' a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2016; a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 26,
fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.11 NDM6169 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes,
'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 - Biliau Aelod' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2016;
a 2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol
Sefydlog 26, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. Bydd y Llywydd yn cynnal y balot cyntaf ar 25
Ionawr 2017. Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn cysylltu â’r Aelodau gyda manylion am
sut i gymryd rhan yn y balot. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) NDM6143 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod manteision enfawr posibl cymhwyso 'data
mawr' mewn amaethyddiaeth. 2. Yn nodi'r twf o ran ymchwil a datblygu mewn
amaethyddiaeth fanwl fel ffordd o gynyddu cynnyrch, gwneud y defnydd gorau o
adnoddau prin a lleihau'r defnydd o gemegau niweidiol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i
roi Cymru ar y blaen o ran datblygiadau amaethyddiaeth fanwl. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.12 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y
cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6143 Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod manteision enfawr posibl cymhwyso 'data mawr' mewn amaethyddiaeth. 2.
Yn nodi'r twf o ran ymchwil a datblygu mewn amaethyddiaeth fanwl fel ffordd o
gynyddu cynnyrch, gwneud y defnydd gorau o adnoddau prin a lleihau'r defnydd o
gemegau niweidiol. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i roi Cymru ar y blaen o
ran datblygiadau amaethyddiaeth fanwl.
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6170 Paul Davies
(Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod y diwydiant manwerthu yn cyflogi
130,000 o bobl yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad allweddol i economi Cymru. 2. Yn nodi mai cyfradd y siopau gwag yng Nghymru yw 14 y
cant, a bod y gyfradd a ragwelir o ran cau siopau yn uwch yng Nghymru nag yn
unman arall yn y DU dros y ddwy flynedd nesaf. 3. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio
mesurau arloesol a chefnogol i gynorthwyo busnesau wrth bontio i
drefniadau ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gan adael busnesau
Cymru i wynebu ardrethi uchel, ynghyd â system o ad-daliadau dros dro, a
phroses araf o apeliadau. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â
gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n raddol i'r
rhai sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000; b) gweithredu ffordd ragweithiol o ddiwygio'r system
ardrethi busnes hynafol mewn ffordd radical, a gwneud Cymru yn genedl flaengar
o ran mynd i'r afael â'r angen i ddarparu amgylchedd busnes mwy cefnogol; ac c) rhoi cap ar unwaith ar y lluosydd, a chynllun wedi'i
amserlennu ar gyfer gostyngiad graddol mewn ardrethi. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle: Yn ailddatgan
annibyniaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn dilyn datganoli ardrethi annomestig
i Gymru. Yn nodi nad diben gwaith
ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw codi refeniw ychwanegol ac er bod rhai
gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu at ei gilydd maent wedi lleihau. Yn nodi'r canlynol gan
Lywodraeth Cymru: a) penderfyniad i estyn
y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ar gyfer 2017-18, gan leihau'r
dreth y mae 70,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn ei thalu; b) penderfyniad i
sefydlu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn gynllun parhaol o 2018,
gan roi sicrwydd i fusnesau bach y bydd y lleihad yn eu treth yn parhau; c) ymrwymiad i adolygu'r
cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach er mwyn ei wneud yn gynllun symlach a
thecach i fusnesau yng Nghymru; d) penderfyniad i
gyflwyno cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn ym mis Ebrill 2017 er
mwyn cynnig cymorth ychwanegol i fusnesau bach sy'n elwa ar y cynllun Rhyddhad
Ardrethi i Fusnesau Bach ac y mae'r gwaith ailbrisio wedi effeithio arnynt. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) ehangu'r cymorth
pontio sydd ar gael i fusnesau bach y mae gwaith ailbrisio ardollau annomestig
2017 wedi effeithio arnynt; b) dileu ardrethi busnes
ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £10,000 y flwyddyn, a rhoi
cymorth sy'n lleihau'n raddol i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng
£10,000 ac £20,000; c) eithrio pob busnes
rhag talu unrhyw ardrethi yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu, er mwyn annog
dechrau busnesau newydd; d) cyflwyno lluosydd
hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban a Lloegr; ac e) archwilio disodli
ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn
rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.58 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6170 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod y
diwydiant manwerthu yn cyflogi 130,000 o bobl yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad
allweddol i economi Cymru. 2. Yn nodi mai cyfradd y
siopau gwag yng Nghymru yw 14 y cant, a bod y gyfradd a ragwelir o ran cau
siopau yn uwch yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU dros y ddwy flynedd
nesaf. 3. Yn gresynu nad yw
Llywodraeth Cymru wedi defnyddio mesurau arloesol a chefnogol i gynorthwyo
busnesau wrth bontio i drefniadau ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa
Brisio, gan adael busnesau Cymru i wynebu ardrethi uchel, ynghyd â system o
ad-daliadau dros dro, a phroses araf o apeliadau. 4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: a) dileu ardrethi busnes
ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a rhoi cymorth
sy'n lleihau'n raddol i'r rhai sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000; b) gweithredu ffordd
ragweithiol o ddiwygio'r system ardrethi busnes hynafol mewn ffordd radical, a
gwneud Cymru yn genedl flaengar o ran mynd i'r afael â'r angen i ddarparu
amgylchedd busnes mwy cefnogol; ac c) rhoi cap ar unwaith
ar y lluosydd, a chynllun wedi'i amserlennu ar gyfer gostyngiad graddol mewn
ardrethi.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle: Yn ailddatgan
annibyniaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn dilyn datganoli ardrethi annomestig
i Gymru. Yn nodi nad diben gwaith
ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw codi refeniw ychwanegol ac er bod rhai
gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu at ei gilydd maent wedi lleihau. Yn nodi'r canlynol gan
Lywodraeth Cymru: a) penderfyniad i estyn
y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ar gyfer 2017-18, gan leihau'r
dreth y mae 70,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn ei thalu; b) penderfyniad i
sefydlu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn gynllun parhaol o 2018,
gan roi sicrwydd i fusnesau bach y bydd y lleihad yn eu treth yn parhau; c) ymrwymiad i adolygu'r
cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach er mwyn ei wneud yn gynllun symlach a
thecach i fusnesau yng Nghymru; d) penderfyniad i
gyflwyno cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn ym mis Ebrill 2017 er
mwyn cynnig cymorth ychwanegol i fusnesau bach sy'n elwa ar y cynllun Rhyddhad
Ardrethi i Fusnesau Bach ac y mae'r gwaith ailbrisio wedi effeithio arnynt. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6170 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod bod y
diwydiant manwerthu yn cyflogi 130,000 o bobl yng Nghymru, ac yn gwneud
cyfraniad allweddol i economi Cymru. 2. Yn nodi mai cyfradd y
siopau gwag yng Nghymru yw 14 y cant, a bod y gyfradd a ragwelir o ran cau
siopau yn uwch yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU dros y ddwy flynedd nesaf. 3. Yn ailddatgan
annibyniaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn dilyn datganoli ardrethi annomestig
i Gymru. 4. Yn nodi nad diben
gwaith ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw codi refeniw ychwanegol ac er
bod rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu at ei gilydd maent wedi lleihau. 5. Yn nodi'r canlynol
gan Lywodraeth Cymru: a) penderfyniad i estyn
y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ar gyfer 2017-18, gan leihau'r
dreth y mae 70,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn ei thalu; b) penderfyniad i sefydlu'r
cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn gynllun parhaol o 2018, gan roi
sicrwydd i fusnesau bach y bydd y lleihad yn eu treth yn parhau; c) ymrwymiad i adolygu'r
cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach er mwyn ei wneud yn gynllun symlach a
thecach i fusnesau yng Nghymru; d) penderfyniad i
gyflwyno cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn ym mis Ebrill 2017 er
mwyn cynnig cymorth ychwanegol i fusnesau bach sy'n elwa ar y cynllun Rhyddhad
Ardrethi i Fusnesau Bach ac y mae'r gwaith ailbrisio wedi effeithio arnynt.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6171 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y bwlch rhwng y gweithwyr a gaiff y
cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn awdurdodau lleol Cymru a'r
sector cyhoeddus ehangach. 2. Yn nodi llwyddiant Plaid Cymru o ran gorfodi
Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Ddeddf Democratiaeth Leol yn ystod y Pedwerydd
Cynulliad i gynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir
ar gyflog uwch swyddogion drwy sefydlu panelau taliadau annibynnol. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) deddfu i gyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac
amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch
swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau
tegwch i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; a (b) diffinio rôl prif weithredwyr awdurdodau lleol mewn
deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu taliadau ychwanegol i swyddogion
cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog canlyniadau. 'Deddf
Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013' Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Yn nodi gofynion y
Ddeddf Democratiaeth Leol, sy'n cynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o
ran sut y penderfynir ar gyflog uwch-swyddogion drwy ehangu pwerau Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu pwynt 2, a rhoi yn
ei le: Yn cydnabod cynigion y
Ceidwadwyr Cymreig, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cyfyngiad
gorfodol ar gyflogau deiliaid swyddi uwch i sicrhau bod awdurdodau lleol yn
gorfodi uchafswm effeithiol ar gyflogau. Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ystyried deddfwriaeth a gyflwynwyd yn awdurdodaethau eraill y
Gymanwlad, sydd wedi corffori cyfrifoldebau prif weithredwyr llywodraeth leol
yn y gyfraith, fel Adran 94 A o Ddeddf Llywodraeth Leol Awstralia 1989.
[Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 4. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) gweithio gyda
phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fyddai'n
sicrhau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru; a Gwelliant 5. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn nodi'r dystiolaeth a
glywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pan alwodd rhanddeiliaid am
gydberthyniad rhwng cyflog uwch reolwyr a pherfformiad y sefydliad, fel
dangosydd allweddol o sicrhau gwerth am arian. Yn nodi ymhellach
dystiolaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol i
Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol i
Dâl Prif Swyddogion ym mis Ionawr 2014, a oedd yn cydnabod bod nifer o
awdurdodau lleol wedi dechrau rhannu prif weithredwyr a thimau uwch reoli ers
2010 er mwyn gweithredu arbedion costau ymhellach. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.53 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6171 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y bwlch
rhwng y gweithwyr a gaiff y cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn
awdurdodau lleol Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach. 2. Yn nodi llwyddiant
Plaid Cymru o ran gorfodi Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Ddeddf Democratiaeth
Leol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i gynnwys mesurau sydd wedi gwella
tryloywder o ran sut y penderfynir ar gyflog uwch swyddogion drwy sefydlu
panelau taliadau annibynnol. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: (a) deddfu i gyflwyno
cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n
genedlaethol, i reoli cyflogau uwch swyddogion a phrif swyddogion drwy
fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau tegwch i bob gweithiwr yn y sector
cyhoeddus yng Nghymru; a (b) diffinio rôl prif
weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu
taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog
canlyniadau.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 2 a rhoi yn
ei le: Yn nodi gofynion y
Ddeddf Democratiaeth Leol, sy'n cynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o
ran sut y penderfynir ar gyflog uwch-swyddogion drwy ehangu pwerau Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Gwelliant
3. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Dileu pwynt 3 a rhoi yn
ei le: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ystyried deddfwriaeth a gyflwynwyd yn awdurdodaethau eraill y
Gymanwlad, sydd wedi corffori cyfrifoldebau prif weithredwyr llywodraeth leol
yn y gyfraith, fel Adran 94 A o Ddeddf Llywodraeth Leol Awstralia 1989. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant
4. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Ym mhwynt 3, dileu
is-bwynt (a) a rhoi yn ei le: gweithio gyda
phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fyddai'n
sicrhau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru; a Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Derbyniwyd gwelliant 4. Gwelliant
5. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Ychwanegu fel pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi'r dystiolaeth a
glywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pan alwodd rhanddeiliaid am
gydberthyniad rhwng cyflog uwch reolwyr a pherfformiad y sefydliad, fel
dangosydd allweddol o sicrhau gwerth am arian. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Derbyniwyd gwelliant 5. Gwelliant
6. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ymhellach
dystiolaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol i
Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol i
Dâl Prif Swyddogion ym mis Ionawr 2014, a oedd yn cydnabod bod nifer o
awdurdodau lleol wedi dechrau rhannu prif weithredwyr a thimau uwch reoli ers
2010 er mwyn gweithredu arbedion costau ymhellach. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6171 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at y bwlch
rhwng y gweithwyr a gaiff y cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn
awdurdodau lleol Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach. 2. Yn nodi gofynion y
Ddeddf Democratiaeth Leol, sy'n cynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o
ran sut y penderfynir ar gyflog uwch-swyddogion drwy ehangu pwerau Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. 3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i: (a) gweithio gyda
phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fyddai'n
sicrhau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru; a (b) diffinio rôl prif
weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu
taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog
canlyniadau. 4. Yn nodi'r dystiolaeth
a glywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pan alwodd rhanddeiliaid am
gydberthyniad rhwng cyflog uwch reolwyr a pherfformiad y sefydliad, fel
dangosydd allweddol o sicrhau gwerth am arian. 5. Yn nodi ymhellach
dystiolaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol i
Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol i
Dâl Prif Swyddogion ym mis Ionawr 2014, a oedd yn cydnabod bod nifer o
awdurdodau lleol wedi dechrau rhannu prif weithredwyr a thimau uwch reoli ers
2010 er mwyn gweithredu arbedion costau ymhellach.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Cododd
Neil McEvoy fater o drefn ynghylch sylwadau Dawn Bowden amdano’n derbyn dros
£100,000 o ddau gyflog. Dywedodd
y Dirprwy Lywydd mai herio ffeithiau a dadleuon yw natur trafodaethau seneddol.
Mae Aelodau’n gyfrifol am gywirdeb y datganiadau y maent yn eu gwneud, a chyhyd
â’u bod mewn trefn, nid mater i’r Cadeirydd yw barnu’r ffeithiau a gyflwynir. Yn dilyn hynny, tynnodd Dawn Bowden ei sylwadau yn ôl am y ffigur a nodwyd, ond nid ei sylwadau am y ddwy swydd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6172 Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn) 1. Yn nodi bod y tasglu canser annibynnol wedi galw am
darged o 28 niwrnod ar gyfer diagnosis. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y
buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig, a gafodd ei sicrhau gan Blaid
Cymru yn nhrafodaethau'r gyllideb, yn helpu i gyrraedd y targed hwn. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) a) y pwyslais ar ganfod
canser yn gynt fel y'i nodwyd yn y cynllun diwygiedig Cynllun Cyflawni Canser
ar gyfer Cymru (2016-2020); b) bod mwy o bobl nag
erioed yn cael eu trin am ganser yng Nghymru a bod y cyfraddau goroesi yn uwch
nag erioed o'r blaen; ac c) y bydd Llywodraeth
Cymru yn sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig a nodwyd
yn y gyllideb ddrafft yn cael ei ddefnyddio i wella amseroedd aros a
chanlyniadau triniaethau canser. [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wella mynediad at wasanaethau sgrinio ledled Cymru gyfan drwy gydnabod
y rôl y mae gwasanaeth cenedlaethol symudol trin canser yn ei chwarae o ran
cefnogi'r rhai sydd â chanser, ynghyd â lleihau atgyfeiriadau i ofal eilaidd
drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg ddiagnostig mewn meddygfeydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.29 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6172 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod y tasglu canser annibynnol wedi galw am darged o 28 niwrnod ar
gyfer diagnosis. 2.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y buddsoddiad ychwanegol mewn
cyfarpar diagnostig, a gafodd ei sicrhau gan Blaid Cymru yn nhrafodaethau'r
gyllideb, yn helpu i gyrraedd y targed hwn.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn nodi: a) y pwyslais ar ganfod canser yn gynt fel y'i
nodwyd yn y cynllun diwygiedig Cynllun Cyflawni Canser ar gyfer Cymru
(2016-2020); b) bod mwy o bobl nag erioed yn cael eu trin am
ganser yng Nghymru a bod y cyfraddau goroesi yn uwch nag erioed o'r blaen; ac c) y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y
buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig a nodwyd yn y gyllideb ddrafft
yn cael ei ddefnyddio i wella amseroedd aros a chanlyniadau triniaethau canser. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant
1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-dethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6172 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi: a) y pwyslais ar ganfod canser yn gynt fel y'i
nodwyd yn y cynllun diwygiedig Cynllun Cyflawni Canser ar gyfer Cymru
(2016-2020); b) bod mwy o bobl nag erioed yn cael eu trin am
ganser yng Nghymru a bod y cyfraddau goroesi yn uwch nag erioed o'r blaen; ac c) y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y
buddsoddiad ychwanegol mewn cyfarpar diagnostig a nodwyd yn y gyllideb ddrafft
yn cael ei ddefnyddio i wella amseroedd aros a chanlyniadau triniaethau canser.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 18.03 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.10 NDM6167 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Dyslecsia - Golwg gwahanol ar fywyd |