Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 26(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(10 munud) |
Nodi 50 mlynedd ers trychineb Aberfan Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Bu’r Cynulliad yn cofio
50 mlynedd ers trychineb Aberfan, a ddigwyddodd ar 21 Hydref 1966. Galwodd y
Llywydd ar Dawn Bowden AC (Merthyr Tudful a Rhymni), y Prif Weinidog ac arweinwyr
y pleidiau eraill i wneud cyfraniadau, cyn arwain y Cynulliad mewn munud o
dawelwch. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.48 Gofynnwyd y 9 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(10 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.36 Gofynnwyd y ddau
gwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Flaenraglen Waith y Pwyllgor gan gynnwys Ffoaduriaid, Ceiswyr Lloches a Phlant ar eu Pen eu Hunain Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.41 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau Dechreuodd yr eitem am 15.27 NDM6124 Elin Jones
(Ceredigion): Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
17.3 a 17.13(ii), yn ethol Dai Lloyd (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. NDM6125 Elin Jones
(Ceredigion): 1. Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor
Safonau Ymddygiad, a 2. Adam Price (Plaid Cymru) fel eilydd ar gyfer y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Derbyniwyd
y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6121 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu
at yr economi, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol. 2. Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod
yn "wan ac anghyson", ac wedi'u nodweddu gan "ddiffyg
uchelgais", fel y mae Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio
trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16; (b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid
llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy; (c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog
a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif
swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a (d) sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o
ymdrech Llywodraeth Cymru i ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella
cydweithrediad rhanbarthol rhwng awdurdodau lleol presennol. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): [Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei
ddad-ddethol] Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy'r
trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16; (b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth
leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy; (c) parhau i archwilio'r achos o blaid cyflwyno cyfres o
gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i
reoli cyflogau uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol;
a (d) sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau
Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol
rhwng yr awdurdodau lleol presennol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.27 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6121 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu at yr economi, y
gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol. 2.
Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn "wan ac
anghyson", ac wedi'u nodweddu gan "ddiffyg uchelgais", fel y mae
Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a)
cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy ddiwygio trefniadau etholiadol a
gostwng yr oedran pleidleisio i 16; (b)
archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system
decach a mwy cynaliadwy; (c)
cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n
genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy
fframwaith cenedlaethol; a (d)
sefydlu awdurdodau cyfunol rhanbarthol fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i
ddiwygio llywodraeth leol ar gyfer gwella cydweithrediad rhanbarthol rhwng
awdurdodau lleol presennol.
Gwrthodwyd
y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y
Gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir
Benfro): Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i: (a)
archwilio'r ffordd y caiff llywodraeth leol ei chyllido, er mwyn sicrhau bod
awdurdodau gwledig yn cael cyllid teg sy'n gyfartal i bob cymuned ledled Cymru;
a (b)
gwella tryloywder o ran cyllidebu uwch staff awdurdodau lleol er mwyn
sicrhau bod cyflogau swyddogion gweithredol yn gynaliadwy ac yn gosteffeithiol
i dalwyr y dreth gyngor, a heb fod ar draul darparu gwasanaethau lleol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd
gwelliant 1. Gwelliant 2. Jane Hutt (Vale of
Glamorgan): Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le: 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a)
cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy'r trefniadau etholiadol a gostwng yr
oedran pleidleisio i 16; (b)
archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid llywodraeth leol i sicrhau system
decach a mwy cynaliadwy; (c)
parhau i archwilio'r achos o blaid cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac
amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau
uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol; a (d)
sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau Llywodraeth Cymru i
lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol rhwng yr awdurdodau lleol
presennol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd
gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i
ddiwygio: NDM6121 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol dda wrth gyfrannu at yr economi, y
gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol lleol. 2.
Yn gresynu bod gormod o wasanaethau cyhoeddus wedi bod yn "wan ac
anghyson", ac wedi'u nodweddu gan "ddiffyg uchelgais", fel y mae
Comisiwn Williams yn ei ddisgrifio. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: (a) cynyddu atebolrwydd llywodraeth leol drwy'r
trefniadau etholiadol a gostwng yr oedran pleidleisio i 16; (b) archwilio'r ffordd y gellir diwygio cyllid
llywodraeth leol i sicrhau system decach a mwy cynaliadwy; (c) parhau i archwilio'r achos o blaid cyflwyno cyfres o
gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i
reoli cyflogau uwch-swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol;
a (d) sefydlu trefniadau rhanbarthol fel rhan o ddiwygiadau
Llywodraeth Cymru i lywodraeth leol er mwyn gwella cydweithredu rhanbarthol
rhwng yr awdurdodau lleol presennol.
Derbyniwyd
y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6120 Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn penderfynu sefydlu senedd ieuenctid i Gymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.30 NDM6120 Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn penderfynu sefydlu
senedd ieuenctid i Gymru. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU NDM6119 Huw Irranca–Davies (Ogwr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Fil Cymru Llywodraeth y DU, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 6 Hydref 2016. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.23 NDM6119 Huw Irranca–Davies (Ogwr) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Fil Cymru
Llywodraeth y DU, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Hydref 2016. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.10 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6118 Neil McEvoy (Canol De Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.12 NDM6118 Neil McEvoy (Canol De
Cymru) Gwneud lobïo yng Nghymru yn fwy agored. |