Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 21(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 04/10/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i
ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd y 10 cwestiwn
cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 4 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y
Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn
2, siaradodd Paul Davies ar ran Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 1 Dechreuodd yr eitem am
14.16 Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i uno
elfennau o Amgueddfa Cenedlaethol Cymru â Cadw? EAQ(5)0053(EI) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys 2 Dechreuodd yr eitem am
14.31 Steffan
Lewis (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y goblygiadau i
Gymru yn sgil argymhelliad Prif Weinidog y DU o ran y Bil diddymu cyfraith yr
UE? EAQ(5)0189(FM) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.41 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: Prosiect Coridor yr M4 o gwmpas Casnewydd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.00 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: Y Diweddaraf ar Ddiwygio Llywodraeth Leol Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.39 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(0 munud) |
TYNNWYD YN ÔL: Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Gwella Gofal i Afiechydon Difrifol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.28 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016 NDM6106
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol
Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf
Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016
yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2016. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.06 NDM6106 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y
fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a
Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn
ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2016. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl: Blaenoriaethau'r Llywodraeth a'r Rhaglen Ddeddfwriaethol NDM6107 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii): Yn nodi
blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. ‘Rhaglen Ddeddfwriaethol 2016-17’ Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Yn credu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu a'r rhaglen
ddeddfwriaethol yn ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella
cyfleoedd bywyd pobl a chymunedau ledled Cymru. Yn credu bod Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi
agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru yn ystod y Pumed Cynulliad. 'Rhaglen
yr Wrthblaid Plaid Cymru' Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at ddiffyg mesurau perfformiad yn y Rhaglen
Lywodraethu a fyddai'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a dinasyddion Cymru i
werthuso cynnydd Llywodraeth Cymru o ran blaenoriaethau. Yn gresynu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at y
ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a methiant
Llywodraeth Cymru i amlinellu'r mesurau y mae'n bwriadu eu cyflwyno i fynd i'r
afael â chanlyniadau'r penderfyniad hwn i Gymru. Yn gresynu at y diffyg manylion yn y Rhaglen Lywodraethu
ynghylch y mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gyflawni'r
blaenoriaethau a gaiff eu hamlinellu ynddi. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynllunio ei rhaglen
ddeddfwriaethol i sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i graffu ar
filiau gan y Cynulliad Cenedlaethol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.08 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NDM6107 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii): Yn nodi blaenoriaethau
a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu nad yw'r
Rhaglen Lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn ennyn yr hyder na'r manylion
sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl a chymunedau ledled Cymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu bod Rhaglen
yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru
yn ystod y Pumed Cynulliad. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
Gwrthodwyd gwelliant 2. Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at
ddiffyg mesurau perfformiad yn y Rhaglen Lywodraethu a fyddai'n galluogi'r
Cynulliad Cenedlaethol a dinasyddion Cymru i werthuso cynnydd Llywodraeth Cymru
o ran blaenoriaethau. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
Gwrthodwyd gwelliant 3. Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw'r
Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at y ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr
Undeb Ewropeaidd, a methiant Llywodraeth Cymru i amlinellu'r mesurau y mae'n
bwriadu eu cyflwyno i fynd i'r afael â chanlyniadau'r penderfyniad hwn i Gymru. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y
diffyg manylion yn y Rhaglen Lywodraethu ynghylch y mesurau y bydd Llywodraeth
Cymru yn eu cyflwyno i gyflawni'r blaenoriaethau a gaiff eu hamlinellu ynddi. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Gwelliant 6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynllunio ei rhaglen ddeddfwriaethol i sicrhau bod digon o
amser yn cael ei neilltuo i graffu ar filiau gan y Cynulliad Cenedlaethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
Derbyniwyd gwelliant 6. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6107 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii): 1. Yn nodi
blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gynllunio ei rhaglen ddeddfwriaethol i sicrhau bod digon o
amser yn cael ei neilltuo i graffu ar filiau gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 17.59 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |